Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddais heddiw Ymgynghoriad Technegol Llywodraeth Cymru 'Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus - y camau nesaf' sy'n amlinellu'n fanylach ein cynigion ar gyfer strwythur a gweithrediad y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Newydd i Gymru.

https://beta.llyw.cymru/comisiwn-addysg-drydyddol-ac-ymchwil-i-gymru

Ceir yn yr ymgynghoriad fanylion y cynigion ar gyfer camau nesaf y gwaith o ddiwygio'r sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru yn dilyn adroddiad yr Athro Hazelkorn yn 2016.

Bydd yr ymgynghoriad yn agored am 12 wythnos tan 17 Gorffennaf a byddwn yn annog ein holl randdeiliaid i ymateb i'n cynigion manylach.

Mae'n hanfodol ein bod yn clywed barn dysgwyr, arweinwyr ac ymarferwyr ynghylch sut mae addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yn bodloni eu hanghenion, a sut y gall fod yn gyfrwng hyd yn oed yn fwy grymus ar gyfer symudedd cymdeithasol a ffyniant cenedlaethol.

Rhaid cynnwys y sector addysg yn ei gyfanrwydd, busnesau, dysgwyr a phawb sydd â diddordeb mewn sicrhau bod ein system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yn cyrraedd y safon orau bosib.