Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar wahoddiad Cyngor Rhanbarthol Llydaw euthum i Rennes ar 24 Mehefin i ailddatgan a dyfnhau’r berthynas a’r cydweithio rhwng Llydaw a Chymru. Yn ystod fy ymweliad rhoddais anerchiad i Gyfarfod Llawn o’r Cyngor Rhanbarthol a llofnodais hefyd, ar y cyd â Mr Jean-Yves Le Drian, Llywydd y Cyngor Rhanbarthol, ddogfen yn cadarnhau’r cydweithio rhwng y ddwy wlad.

Yn fy sylwadau i’r Cyngor Rhanbarthol pwysleisiais yr ewyllys da sy’n bodoli tuag at Lydaw yng Nghymru o fewn y Cynulliad Cenedlaethol a thu hwnt. Dyna yw sylfaen y berthynas rhwng y ddwy wlad. Mae ein partneriaeth, wrth reswm, yn tynnu ar  dreftadaeth ddiwylliannol gyffredin Cymru a Llydaw ac mae’r dolenni cyswllt hyn ynddynt eu hunain yn feysydd amlwg lle gellir meithrin cydweithio pellach. Mae llawer mwy na hynny i’r berthynas, fodd bynnag. Yn ein trafodaethau rhoddwyd llawer o sylw i ynni’r môr; maes lle gwelwyd llawer o ddatblygiadau yn Llydaw am fod ei harfordir yn wynebu Môr yr Iwerydd. Mae hyn yn faes sydd o bwys i Gymru hefyd a rhagwelaf ragor o gydweithio ar y thema hon yn y dyfodol.

Pleser yw nodi bod gennym berthynas dda â Llydaw. Gan adeiladu ymhellach ar y sylfaen a osodwyd gan fy rhagflaenydd rwy’n gwbl ymrwymedig i ddatblygu safle Cymru fel gwlad sy’n edrych tuag allan. Mae angen i Gymru hybu ei hun yn y byd: mae gennym lawer i’w ennill a llawer i’w gynnig.