Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae rhaglen ddogfen ddiweddar ynghylch ffermio cŵn bach yng Nghymru wedi achosi mwy o pryder ynghylch safonau lles mewn rhai sefydliadau bridio cŵn yng Nghymru. Dyma'r rheswm pam y cynhaliwyd ymgynghoriad gennym yn gynharach eleni i weld ble y gallai ymyrraeth gan y Llywodraeth gael yr effaith fwyaf.

Er bod bridio cŵn er lles masnachol yn fusnes cyfreithiol, mae gofynion lles cŵn sy'n bridio a'u cŵn bach yn bwysig iawn. Mae yr achosion o beidio â chydymffurfio â hyn yn fy mhoeni yn fawr yn dilyn ymchwiliad BBC Cymru i drwyddedu safleoedd bridio cŵn yng Nghymru.

Nid yw newid deddfwriaeth yn broses gyflym, ac ni ddylai fod.  Mae'n rhaid dilyn y gweithdrefnau cywir i sicrhau datblygu deddfwriaeth gadarn, gymesur, yn seiliedig ar dystiolaeth sy’n anelu’n uniongyrchol at sicrhau y safonau gorau posibl o ran lles anifeiliaid ac annog pobl sy’n berchen ar anifeiliaid i fod yn gyfrifol. 

Rwyf eisoes wedi ymrwymo i adolygu Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 a hefyd wedi ei gwneud yn glir bod gwahardd cŵn a chathod bach rhag cael eu gwerthu gan drydydd parti yn bwysig pe byddai modd i'r gwaharddiad sicrhau y safonau iechyd a lles yr ydym yn dymuno eu gweld yng Nghymru. Mae angen gweithredu ar fyrder ac mae’r camau canlynol wedi’u cymryd yr wythnos hon:

  • Rwyf wedi ysgrifennu at y Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid i dderbyn eu cynnig i helpu ac wedi gwneud cais am adolygiad ar fyrder o'n rheoliadau bridio cŵn. Bydd yr adolygiad hwn yn cynnwys ystyriaeth lawn o unrhyw rwystrau cyfredol i orfodi, a sut y darperir cyngor milfeddygol di-duedd yn ystod y broses drwyddedu ac archwilio.

 

  • Rwyf wedi ysgrifennu at bob Prif Swyddog Milfeddygol o fewn Awdurdodau Lleol i godi pryderon a gwahodd cynrychiolwyr perthnasol i gyfarfod gyda Prif Swyddog Milfeddygol Cymru i drafod y broses drwyddedu, gorfodi a rhwystrau iddi.

 

  • Tynnodd Brif Swyddog Milfeddygol Cymru sylw Coleg Brenhinol y Milfeddygon at raglen y BBC ar unwaith.

 

  • Mae swyddogion yn datblygu ymgyrch wedi'i hanelu at aelodau'r cyhoedd sydd o bosibl yn ystyried prynu cŵn bach, gan dynnu sylw at bwysigrwydd dod o hyd i un mewn ffordd gyfrifol.

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r prif randdeiliaid, gan gynnwys Awdurdodau Lleol a Gweinyddiaethau eraill i sicrhau ein bod yn cyflwyno newidiadau fydd yn cael effaith hirdymor ar safonau lles cŵn a chathod sy'n cael eu bridio yng Nghymru.