Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru Brexit a'n Tir yn gofyn am ymatebion i'w chynigion ar gyfer Rhaglen Rheoli Tir newydd ar gyfer Cymru. Roedd yn esbonio'r rhesymau dros newid, y pum egwyddor ar gyfer cynnig cefnogaeth yn y dyfodol a disgrifiad bras o'r cynlluniau cymorth.

Daeth dros 12,000 o ymatebion unigol i law gan amrywiaeth eang o randdeiliaid ac unigolion.

Ar ôl cau'r ymgynghoriad, comisiynodd Llywodraeth Cymru gwmni ymchwil annibynnol i gynhyrchu crynodeb cynhwysfawr o'r ymatebion. Rwyf heddiw'n cyhoeddi'r crynodeb hwnnw o'r ymatebion a hefyd ymateb Llywodraeth Cymru ei hun, yn ogystal â phecyn tystiolaeth - 'Amaethyddiaeth yng Nghymru'. Mae'r dystiolaeth hon yn asesu mewn ffordd wrthrychol sefyllfa'r sector amaethyddol yng Nghymru ar hyn o bryd gan ddarparu dogfen ffynhonnell fydd yn helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu'i chynigion ar gyfer ei gefnogi yn y dyfodol.

Rwyf am gyhoeddi dogfen ddilynol, fanylach cyn Sioe Frenhinol Cymru ddechrau mis Gorffennaf eleni.