Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru'n barod iawn i gydnabod y bydd efallai yn rhaid i ni, ar ôl ymadael â'r UE, ddatblygu fframweithiau polisi gorfodol ar draws y DU mewn rhai meysydd datganoledig, er mwyn osgoi anghydfod yn ein marchnad fewnol ein hunain yn y DU. Y ffordd gywir o wneud hyn fyddai trafodaeth rhwng Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig er mwyn cytuno ar y fframweithiau. Byddai Llywodraeth Cymru'n barod iawn i weithio mewn partneriaeth o'r fath. Ni fyddwn, fodd bynnag, yn goddef unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i gyfyngu'n fympwyol ar bwerau sydd eisoes wedi'u datganoli.

Mae'r ddogfen bolisi hon yn adeiladu ar y safbwyntiau a amlinellwyd yn wreiddiol yn "Diogelu Dyfodol Cymru". Rydym yn dweud yn glir y bydd pwerau sydd eisoes wedi'u datganoli i Gymru yn parhau i fod wedi'u datganoli ar ôl ymadael â’r UE oni bai bod Llywodraeth y DU yn deddfu'n benodol i newid ein setliad datganoli. Byddai unrhyw gam o'r fath yn gwbl annerbyniol. Mae pobl Cymru wedi pleidleisio dros ein pwerau mewn dau refferendwm (1997 a 2011), ac mae'n rhaid i Lywodraeth y DU barchu hynny.

Heddiw rwy'n cyhoeddi'r gyntaf o'r dogfennau polisi hynny, "Brexit a Datganoli", ac y gellir ei weld ar-lein yn: llyw.cymru/brexit.

Ym mis Ionawr cyhoeddais Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Phlaid Cymru, "Diogelu Dyfodol Cymru". Mae'n amlinellu ein hagenda a'n blaenoriaethau ar gyfer Cymru wrth i'r Deyrnas Unedig baratoi i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (UE). Dywedais bryd hynny mai dechrau'r sgwrs oedd hyn, yn hytrach na'i diwedd, ac fe ddywedais fy mod yn bwriadu cyhoeddi cyfres o ddogfennau polisi pellach er mwyn ymestyn y drafodaeth yma yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig (DU).

Ar ben hynny, credwn fod ymadael â'r UE yn creu’r angen am berthynas newydd rhwng pedair llywodraeth y DU. Mae'n amlwg y dylem wneud llawer gyda'n gilydd er mwyn symud ymlaen yn drefnus dan yr amgylchiadau newydd. Yn ein barn ni fe allai, ac fe ddylai, cydweithio o'r pedair ochr fod yn ddatblygiad cadarnhaol. Mae'r un mor amlwg nad yw'r systemau rhynglywodraethol presennol o fewn y DU yn addas i'r diben dan yr amgylchiadau hyn. Rydym yn cynnig y dylid sefydlu Cyngor Gweinidogion y DU fel ffordd o ddatblygu agenda cyffredin ar gyfer y dyfodol wedi'i seilio ar egwyddorion democrataidd. Y nod yw parchu pob un, heb fygwth neb. Yn y cyd-destun hwn, bwriedir i'r ddogfen bolisi fod yn gyfraniad adeiladol i'r trafodaethau sydd eu hangen i ddatblygu fframwaith cyfansoddiadol cryfach o fewn y DU, wedi'i seilio ar ddatganoli.

Rwy’n cymeradwyo'r ddogfen hon i Aelodau’r Cynulliad, a byddaf yn gwneud Datganiad Llafar dydd Mawrth nesaf er mwyn i’r syniadau gael eu hystyried mewn rhagor o fanylder.