Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gynnal gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol diogel, o ansawdd uchel wrth baratoi ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, gyda'r paratoadau yn digwydd ar lefel leol, ar lefel Cymru ac ar lefel y DU. Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi i ni gaffael stordy yn y De-ddwyrain er mwyn darparu lle storio ychwanegol ar gyfer dyfeisiau meddygol a defnyddiau traul clinigol, gyda'r bwriad o gynnal y cyflenwad yng Nghymru.
Fel rhan o'n cynlluniau wrth gefn, rydym wedi bod yn cydweithio'n agos gyda GIG Cymru, Llywodraeth y DU a rhanddeiliaid allweddol eraill i asesu'r risgiau o ran cynnal cyflenwad o ddyfeisiau meddygol a deunyddiau traul clinigol ar ôl i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
Dyma gynnyrch allweddol a allai gael eu heffeithio gan y newidiadau posib i'r berthynas fasnachu â'r UE, er enghraifft os bydd cyfyngiad ar y llif o nwyddau i'r DU drwy'r porthladdoedd. Mae'n hanfodol gosod cynlluniau wrth gefn i gyfyngu ar unrhyw amharu ar y cyflenwadau gofal iechyd, a'r perygl sylweddol i iechyd a gofal cymdeithasol y gallai hyn ei achosi yng Nghymru. Rhan hanfodol o'r cynlluniau hyn yw sicrhau lle storio ychwanegol i gynnal mwy o stoc o'r eitemau hanfodol hyn yng Nghymru.
Bydd y cyfleuster yn ein galluogi i gadw stoc o fwy o eitemau iechyd, a chadw stoc o'r eitemau gofal cymdeithasol sydd mewn categorïau risg penodol, gan olygu bod llai o dibyniaeth ar gadwyni cyflenwi allanol a'n bod yn fwy cadarn ein hunain. Mae hyn yn uniongyrchol gysylltiedig â'n hymrwymiad at waith di-dor ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol a'r dull gweithredu a nodir yn Cymru Iachach.
Bydd hyn hefyd yn ein helpu i ddeall mwy am y gadwyn gyflenwi, ynghyd â symiau a tharddiad daearyddol y cynnyrch rydym yn eu defnyddio yn ein system gofal iechyd ac unrhyw bwysau arnynt. O ganlyniad, bydd modd i ni wneud arbedion effeithlonrwydd ac arbed arian, yn ogystal â chefnogi datblygu economaidd yng Nghymru.
Efallai y bydd cyfle i osod gofod i bartneriaid lleol yn y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys cwmnïau masnachol newydd a mentrau cymdeithasol di-elw, sy'n datblygu dyfeisiau, cynnyrch neu wasanaethau newydd. Mae hyn yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer diwydiant a phartneriaethau'r GIG.
Rwy'n falch iawn o'r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd diogelu ein gwasanaethau yn y cyfnod ansicr hwn sydd ohoni i'n gwlad.
Bydd prynu'r safle hwn yn ein helpu i baratoi ar gyfer Brexit, sef ein prif flaenoriaeth ar hyn o bryd. Ond rhaid i ni edrych tua'r dyfodol, ac rwy'n falch iawn bod gan y buddsoddiad hwn y potensial hefyd i gyfrannu at gyflawni'r dyheadau a nodwyd yn Cymru Iachach, ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol.