Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, rwy’n cyhoeddi ein diweddariad diweddaraf ynghylch y rhaglen frechu COVID-19 – bydd y diweddariadau hyn yn awr yn cael eu rhyddhau bob pythefnos. Rwyf wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau dros y toriad ac mae diweddariad heddiw ynghylch y rhaglen frechu COVID-19 yn cyfeirio at y penderfyniadau a’r datblygiadau diweddar, gan gynnwys:
- Y brechlyn atgyfnerthu
- Cynnig dos cyntaf i bobl ifanc 12 i 15 oed
- Cynnig trydydd dos sylfaenol i unigolion sydd â system imiwnedd wan
- Y Pàs COVID
Rwy’n falch o gadarnhau bod ymgyrch atgyfnerthu yr hydref wedi dechrau yng Nghymru yr wythnos ddiwethaf, a staff y rheng flaen a staff gofal yn y Gogledd a phreswylwyr cartref gofal yn Nhreorci oedd y cyntaf i gael eu brechlyn atgyfnerthu.
Bydd staff eraill y rheng flaen, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a phreswylwyr cartrefi gofal ledled Cymru yn cael cynnig eu dos atgyfnerthu wrth i’r rhaglen gael ei hymestyn ar draws Cymru gydol yr wythnos hon. Bydd y rhaglen yn cael ei hymestyn dros y misoedd nesaf i bawb dros 16 oed sydd â chyflyrau iechyd arnynt eisoes a phawb dros 50 oed, yn y drefn y cawsant eu brechu, ar yr amod bod o leiaf 6 mis ers iddynt gael eu hail ddos o frechlyn COVID-19.
Nid oes angen i unigolion gysylltu â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol na gwasanaethau iechyd i weld a oes ganddynt apwyntiad ar gyfer cael brechlyn atgyfnerthu COVID-19. Pan fydd unigolion yn dod yn gymwys, byddant yn cael gwahoddiad yn awtomatig i fynd i gael y brechlyn atgyfnerthu pan ddaw eu tro.
Mae mwy na 4.5m o frechiadau COVID-19 wedi'u rhoi yng Nghymru. Mae saith deg y cant o bobl ifanc 16 ac 17 oed wedi manteisio ar eu cynnig ac rwy'n hynod ddiolchgar i bob un o'r bobl ifanc hynny.
Mae rhai unigolion nad ydynt wedi cael eu dos cyntaf o hyd, yn enwedig oedolion sydd o dan 29 oed – yn y grŵp hwn y mae'r nifer sydd wedi manteisio ar y brechlyn ar ei isaf. Y brechlyn yw ein hamddiffyniad gorau posibl yn erbyn y coronafeirws. Mae canolfannau brechu ledled Cymru yn cynnig apwyntiadau galw i mewn ac rwy'n annog pawb sydd heb gael eu brechu hyd yma i fanteisio ar y cyfle hwn.