Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, byddaf yn cyhoeddi fersiwn diweddaraf ein diweddariad ynghylch y rhaglen frechu COVID-19. Mae’n bleser gennyf gadarnhau ein bod wedi cyflawni dau ymrwymiad a wnaethpwyd yn ein Strategaeth frechu ar gyfer yr Hydref a'r Gaeaf i gynnig brechlyn COVID-19 i bob person ifanc 12-15 oed, a chynnig pigiad atgyfnerthu i holl breswylwyr cartrefi gofal sy’n gymwys erbyn 1 Tachwedd. Mae pob person ifanc 12-15 oed naill ai wedi cael llythyr apwyntiad neu wedi gallu cael apwyntiad galw i mewn yn eu bwrdd iechyd lleol. Byddwn yn parhau i sicrhau bod y cynnig ar gael i’r rhai hynny nad ydynt eto wedi cael y brechlyn.
Mae mwy na 5.1 miliwn o frechlynnau COVID-19 wedi eu rhoi yng Nghymru. Mae 45% o bobl ifanc 12-15 oed wedi manteisio ar y cynnig o’r brechlyn. Mae 69% o breswylwyr cartrefi gofal a 55% o staff cartrefi gofal wedi cael eu brechlyn atgyfnerthu.
Mae’r rhain yn gyflawniadau gwych, ac rwy’n hynod o falch o bawb sydd wedi gwneud hyn yn bosibl, gan gynnwys ein holl gydweithwyr GIG Cymru, partneriaid ehangach, gwirfoddolwyr, a phawb sydd wedi manteisio ar y cynnig o’r brechlyn hwn sy’n achub bywydau.
Mae byrddau iechyd yn parhau i frechu’r rhai hynny sy’n gymwys i gael eu pigiad atgyfnerthu pan fo o leiaf 6 mis wedi pasio ers eu hail ddos. Bydd y rhai hynny sy’n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu yn cael gwahoddiad i fynd i apwyntiad yn awtomatig pan ddaw eu tro.
Rwyf wedi ymrwymo’n llawn i’n hegwyddor o beidio â gadael neb ar ôl. Os nad ydych chi wedi cael eich dos cyntaf, neu’ch ail ddos, mae’n bosibl i chi eu cael o hyd. Mae’r brechlyn yn gam hanfodol ar ein trywydd allan o’r pandemig ac i ddiogelu Cymru.