Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, rwy’n cyhoeddi ein diweddariad diweddaraf ynghylch y rhaglen frechu COVID-19.
Ar 12 Hydref cyhoeddais y Strategaeth Frechu ar gyfer yr Hydref a'r Gaeaf sy’n amlinellu fy mlaenoriaethau ar gyfer y misoedd i ddod.
Rydym ar y trywydd iawn o ran gwahodd yr holl staff rheng flaen, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a phreswylwyr cartrefi gofal ledled Cymru i gael eu brechlyn atgyfnerthu erbyn 1 Tachwedd. Erbyn 31 Rhagfyr, ein nod yw brechu'r rhan fwyaf o bobl sy'n gymwys i gael dos atgyfnerthu. Rwyf am bwysleisio eto nad oes angen i bobl gysylltu â'r GIG na'r gwasanaethau iechyd i holi a oes ganddynt apwyntiad - byddant yn cael gwahoddiad yn awtomatig i fynychu apwyntiad i gael y brechiad pan ddaw eu tro.
Mae mwy na 4.6 miliwn o frechiadau COVID-19 wedi'u rhoi yng Nghymru. Hyd yma mae 30.9% o bobl ifanc 12-15 oed wedi cael eu dos cyntaf a byddwn wedi cynnig y dos cyntaf i bawb yn y grŵp oedran hwn erbyn 1 Tachwedd.
Y brechlyn yw ein ffordd orau o ddiogelu rhag y coronafeirws. Mae canolfannau brechu ledled Cymru yn caniatáu i bobl alw i mewn i gael apwyntiad ar gyfer y dos cyntaf a’r ail ddos. Rwy'n annog pawb nad ydynt wedi cael eu brechu eto i fanteisio ar y cyfle hwn.