Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am gyngor diweddaraf y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), a gyhoeddwyd heddiw, ar frechu plant a phobl ifanc rhag COVID-19.

Cyngor y Cyd-bwyllgor yw cynnig dos cychwynnol o frechlyn Pfizer i bob person ifanc 16 ac 17 oed nad ydynt wedi cael eu brechu. Mae hyn yn ychwanegol at y cynnig presennol o ddau ddos o frechlyn i bobl ifanc 16-17 oed sydd mewn grwpiau ‘risg’. 

Rydym eisoes yn gwahodd pobl ifanc sydd o fewn tri mis i'w pen-blwydd yn 18 oed i gael eu brechu, yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor.  

Nid yw'r cyngor ynglŷn â phobl ifanc 12-15 oed wedi newid, sef y dylid cynnig dau ddos o frechlyn Pfizer i’r rhai rhwng 12 a 15 oed sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol penodol sy’n golygu bod risg iddynt gael COVID-19 difrifol, fel y nodir yn y Llyfr Gwyrdd, gyda chyfnod o wyth wythnos rhwng dosau.

Hefyd, mae plant a phobl ifanc 12 oed a throsodd sydd wedi dod i gysylltiad gartref ag unigolion (oedolion neu blant) sydd heb imiwnedd, bellach yn cael cynnig y brechlyn. Mae gan bobl sy’n imiwnoataliedig system imiwnedd wannach. Maent yn fwy tebygol o gael canlyniadau gwaeth os ydynt yn cael eu heintio â COVID-19. Bydd brechu cysylltiadau cartref yn helpu i gyfyngu ar ledaeniad y feirws.

Mae'r Cyd-bwyllgor yn nodi bod data a phrofiad pellach yn cronni o ran brechu pobl 12-15 oed sydd fel arall yn iach. Mae epidemioleg bresennol COVID-19 yn y DU hefyd yn newid yn gyflym. Mae’r Cyd-bwyllgor o'r farn bod y ffactorau hyn yn bwysig wrth bennu'r cydbwysedd cyffredinol rhwng y niwed a’r budd sy'n gysylltiedig â brechu pobl ifanc 12-15 oed iach, a bydd yn parhau i adolygu data sy'n dod i'r amlwg ac yn rhoi cyngor pellach mewn modd amserol.

Ym mhob achos, rhaid i'r cynnig i frechu plant a phobl ifanc gynnwys gwybodaeth briodol i alluogi plant a phobl ifanc, a'r rhai sydd â chyfrifoldeb rhiant drostynt, i wybod digon am niwed a manteision posibl brechu fel rhan o gydsyniad gwybodus cyn brechu.

Yn unol â chenhedloedd eraill y DU, mae Llywodraeth Cymru yn croesawu cyngor diweddaraf y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ac yn diolch iddynt am eu harbenigedd a’u barn ystyriol ar faterion mor bwysig.  Rydym bellach yn gweithio gyda'r GIG ar y trefniadau sydd eu hangen i gynnig y brechlyn i bob plentyn 16 ac 17 oed yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei wneud yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Pe bai aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.