Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cyhoeddi ei gyngor dros dro wrth inni symud i Gam 3 rhaglen frechu COVID-19. Mae hyn yn rhoi inni arweiniad yr ydym yn ei groesawu ar gyfer y cam nesaf o gyflwyno’r rhaglen a rhywfaint o sicrwydd ynghylch ymgyrch yr hydref i roi brechlynnau atgyfnerthu – ymgyrch sydd wedi bod yn destun cryn drafodaeth.

Gofynnwyd i’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a ddylid lansio ymgyrch i roi trydydd dos o frechlyn COVID i bobl gan fod perygl gwirioneddol  fod imiwnedd yn lleihau dros amser.

Yn dilyn wythnosau o drafod ac ystyried tystiolaeth, mae'r cyngor dros dro yn argymell y dylai’r ymgyrch i roi brechlynnau atgyfnerthu yn yr hydref ddechrau ym mis Medi 2021. Lleihau unrhyw achosion pellach o COVID-19 yw nod yr ymgyrch, a sicrhau bod y rheini sydd fwyaf agored i niwed gan haint difrifol yn cael eu hamddiffyn cymaint ag sy’n bosibl, cyn i fisoedd y gaeaf gyrraedd. Mae tystiolaeth gynnar ar weinyddu brechlynnau COVID-19 a’r ffliw a ddefnyddir yn y DU yn cefnogi darparu'r ddau frechlyn ar yr un pryd, gan fabwysiadu dull cydlynus a fydd o gymorth i ddarparu’r brechlynnau ac i sicrhau bod cymaint o unigolion â phosibl yn cael eu brechu. Fodd bynnag, rydym yn nodi nad yw hwn yn gyngor pendant gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar hyn o bryd.

Mae'r categorïau o bobl a fydd yn cael blaenoriaeth i dderbyn trydydd dos o’r brechlyn yn cael eu dosbarthu yn Gyfnodau 1 a 2, sydd i raddau helaeth yn adlewyrchu grwpiau â blaenoriaeth 1-9 Cam 1 y rhaglen.

Cyfnod 1. Dylid cynnig trydydd dos o frechlyn atgyfnerthu COVID-19 i'r personau canlynol a'r brechlyn ffliw blynyddol, cyn gynted â phosibl o fis Medi 2021:

  • oedolion imiwnoataliedig 16 oed a throsodd
  • y rhai sy'n byw mewn cartrefi gofal preswyl i oedolion hŷn
  • pob oedolyn sy'n 70 oed neu'n hŷn
  • oedolion 16 oed a throsodd sy'n cael eu hystyried yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol
  • gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen

Cyfnod 2. Dylid cynnig trydydd dos o frechlyn atgyfnerthu COVID-19 i'r personau canlynol cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl Cyfnod 1, gyda phwyslais cyfartal ar roi brechlyn y ffliw i’r rheini sy’n gymwys:

  • pob oedolyn 50 oed a throsodd
  • oedolion rhwng 16 - 49 oed sydd mewn grŵp risg ffliw neu grŵp risg COVID-19. (Cyfeiriwch at y Llyfr Gwyrdd i gael manylion grwpiau risg)
  • oedolion sy’n dod i gysylltiad ag aelwydydd unigolion imiwnoataliedig

Gan mai ar ddiwedd yr haf y bydd y rhan fwyaf o oedolion iau yn derbyn eu hail ddos o frechlyn COVID-19, bydd manteision brechlynnau atgyfnerthu yn y grŵp hwn yn cael eu hystyried yn ddiweddarach, gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael.

Ar wahân i’r brechlynnau COVID-19 sydd wedi cael eu cymeradwyo eisoes gan y DU, mae’r DU wedi archebu amrywiol frechlynnau COVID-19 eraill. Bydd rhai o’r brechlynnau hyn yn cael eu defnyddio mewn rhaglen atgyfnerthu. Bydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn adolygu’r defnydd o’r brechlynnau hyn pan fyddant wedi cael cymeradwyaeth reoleiddiol gan y DU. Ni fydd brechlynnau a gynlluniwyd yn benodol yn erbyn amrywiolynnau sy'n peri pryder ar gael mewn pryd ar gyfer y cyfnod ail-frechu hwn yn yr hydref a byddant yn cael eu hystyried gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu dros y misoedd nesaf. Dylid nodi mai cyngor dros dro yw hwn a bydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn ystyried data gwyddonol ychwanegol wrth iddynt ddod i’r amlwg dros y misoedd nesaf cyn llunio ei gyngor terfynol.

Yn unol â thair cenedl arall y DU, mae Llywodraeth Cymru yn croesawu cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar Gam 3. Mae'n cyd-fynd yn llwyr â'n meddylfryd a'n rhagdybiaethau cynllunio ninnau hyd yma. Mae GIG Cymru wedi bod yn cynllunio ar y rhagdybiaeth o roi brechlynnau atgyfnerthu ym mis Medi/Hydref i grwpiau â blaenoriaeth 1-9, gyda bwlch o tua 6 mis yn dilyn ail ddos ac mae’r byrddau iechyd wedi cyflwyno eu cynlluniau cychwynnol ar y sail hon. Byddwn yn gweithio gyda’r byrddau iechyd i sicrhau eu bod yn barod i ddarparu rhaglen atgyfnerthu o ddechrau mis Medi yn unol â'r cyngor hwn.

Y brechlyn yw'r ffordd orau o atal salwch difrifol a lledaeniad COVID-19 o hyd, ac anogir pob oedolyn cymwys i gael y ddau ddos pan ofynnir iddynt. Nid yw byth yn rhy hwyr i drefnu apwyntiad ac os nad ydych wedi derbyn eich cynnig i gael y brechiad eto, gallwch weld â phwy y dylech gysylltu yma.