Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae treialon clinigol yn y Deyrnas Unedig wedi bod yn hollbwysig yn y gwaith o ddatblygu brechlynnau effeithiol yn erbyn COVID-19 ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r nifer fawr o bobl o Gymru a gymerodd ran mewn treialon. Fe wnaeth bron i 1,400 o bobl yng Nghymru gamu i’r adwy pan oedd eu hangen arnom. Dyna weithred ryfeddol o hael a charedig ar ran pobl eraill.    

 

Yn hollol briodol, addawyd i’r rhai oedd yn cymryd rhan na fyddent o dan anfantais o gymryd rhan mewn treialon ar gyfer brechlyn COVID-19 a oedd wedi’u cymeradwyo yn y DU. Serch hynny, rwy’n gwybod bod rhai ohonynt wedi cael anhawster i gael brechiad atgyfnerthu neu Bàs Teithio Rhyngwladol COVID. Y rheswm am hyn yw nad oedd pob un a gymerodd ran yn y treialon wedi cael brechlyn sydd wedi’i  gymeradwyo gan yr Awdurdod Rheoleiddio Meddyginiaethau a Gofal Iechyd (MHRA).

Heddiw, mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi ysgrifennu at ymchwilwyr y treialon a chyfarwyddwyr meddygol y GIG trwy Gymru i amlinellu’r broses ar gyfer ymdrin â'r mater hwn cyn gynted â phosibl. O yfory ymlaen, bydd y rhai sydd wedi cymryd rhan mewn treialon yn dechrau cael llythyrau yn esbonio sut y gallant gael eu dos atgyfnerthu, os ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Byddant yn cael gwybod hefyd sut i gael cwrs arall o’r brechlyn i’w galluogi i gael Pàs Teithio COVID, os oes angen un arnynt. Mae hyn yn cyd-fynd ag egwyddorion a gymeradwywyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ar gyfer y rhai sydd wedi cymryd rhan mewn treialon.

Rwy’n benderfynol o ddatrys y mater hwn i bawb yng Nghymru y mae hyn yn effeithio arnynt, er mwyn cydnabod eu cyfraniad sydd wedi bod o fudd i bob un ohonom.