Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, byddaf yn cyhoeddi fersiwn ddiweddaraf ein diweddariadau ar raglen frechu COVID-19.
Nawr, unwaith yn rhagor, rydym yn gweld cynnydd amlwg mewn achosion o coronafeirws. Er bod is-deip BA2 o’r amrywiolyn omicron yn lledaenu’n gyflym ym mhob rhan o Gymru ac ym mhob grŵp oedran, rydym yn credu bod difrifoldeb clinigol BA2 yn debyg i’r amrywiolyn omicron gwreiddiol. Golyga hyn mai symptomau ysgafn fydd gan y rhan fwyaf o bobl.
Ond rydym yn cadw golwg gofalus ar lefelau salwch mewn pobl hŷn, a bu cynnydd mewn derbyniadau i’r ysbyty yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Yn dilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), gwnaethom ddechrau rhoi brechlynnau atgyfnerthu’r gwanwyn ar 12 Mawrth, gan wahodd pobl 75 oed a hŷn, preswylwyr hŷn mewn cartrefi gofal a phobl dros 12 oed sydd â system imiwnedd gwannach na’r cyffredin i gael y brechlyn. Mae pob bwrdd iechyd yn dechrau drwy roi’r brechlyn i’r bobl fwyaf agored i niwed sef y bobl hŷn mewn cartrefi gofal a phobl sy’n gaeth i’w tai.
Rwy’n annog pawb sydd heb gael cwrs llawn y brechlyn i ddod ymlaen i gael eu brechu, gyda dos sylfaenol neu ddos atgyfnerthu. Mae gan fyrddau iechyd sesiynau galw heibio i unigolion 12 oed a hŷn gael eu dos sylfaenol a’u dos atgyfnerthu. Mae hyn yn bwysig iawn gan fod y brechlyn yn cynnig lefel uchel o amddiffyniad yn erbyn y feirws.
Mae byrddau iechyd hefyd yn cynnig y brechlyn cyntaf i bob plentyn rhwng pump ac 11 oed. Bydd angen i riant neu warcheidwad fynd gyda’r plentyn a rhoi caniatâd ar gyfer pob brechlyn. Does dim angen ichi gysylltu â’ch bwrdd iechyd oni bai eich bod angen aildrefnu eich apwyntiad. Does dim blaenoriaeth i wahanol oedrannau, a bydd hyn yn ei gwneud yn haws i frodyr a chwiorydd cymwys gael eu brechu ar yr un pryd.
Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi rhoi cyngor interim ychwanegol i weinidogion ei bod yn debygol y bydd brechlyn atgyfnerthu’r hydref yn cael ei argymell ar gyfer pobl sydd mewn perygl uwch o ddioddef salwch difrifol yn sgil COVID-19. Bydd y cyngor hwn yn eu galluogi i gynllunio ymlaen llaw. Mae’n rhy fuan i amlinellu manylion penodol y rhaglen, ond bydd y pwyllgor yn rhoi cyngor mwy penodol ymhen amser. Yn y cyfamser, mae ein byrddau iechyd yn cynllunio ar gyfer y posibilrwydd hwn i wneud yn siŵr eu bod yn barod pan ddaw’r amser.
Mae llwyddiant ein rhaglen frechu wedi newid hynt y pandemig er gwell. Mae’r brechlyn yn parhau i fod yn amddiffyniad pwysig yn ein brwydr i reoli coronafeirws a Diogelu Cymru.