Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, byddaf yn cyhoeddi fersiwn ddiweddaraf ein diweddariadau ar raglen frechu COVID-19 sy’n cynnwys crynodeb o’r cyngor a roddwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn ystod y toriad.
Mae’n bleser gennyf gadarnhau, yn ystod y toriad, ein bod wedi cyflawni ein nod o gynnig apwyntiad brechlyn atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys erbyn 31 Rhagfyr 2021. Cynigiwyd apwyntiad i unrhyw un cymwys gan ddefnyddio amryw o ddulliau gan gynnwys llythyrau, negeseuon testun, archebu ar-lein a galw i mewn. Rhoddwyd mwy na 1.7 miliwn o bigiadau atgyfnerthu hyd yma, ac mae 83.4 y cant o bobl dros 50 oed wedi cael y dos atgyfnerthu. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cadw eu hapwyntiad a derbyn y cynnig o’r brechlyn atgyfnerthu.
Fel bob amser, rwy’n ddiolchgar dros ben i dimau GIG Cymru, eu sefydliadau partner a’r holl wirfoddolwyr sydd wedi gweithio’n ddiflino yn ystod y cyfnodau prysur hyn a rhoi eu gwyliau Nadolig i gyflawni’r dasg aruthrol hon.
Ar 7 Ionawr, cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ddatganiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth am y rhaglen brechlynnau atgyfnerthu a’r amrywiolyn Omicron. Gwnaethant hefyd ddyfynnu tystiolaeth a oedd yn awgrymu bod y rhaglen frechu wedi rhoi lefelau uchel o ddiogelwch yn erbyn salwch difrifol o ganlyniad i COVID-19 (amrywiolion Delta ac Omicron) ar draws y boblogaeth. Yn ddiweddar, adolygodd y JCVI y buddion iechyd posibl i’r unigolion mwyaf agored i niwed o gael dos atgyfnerthu ychwanegol yn syth mewn ymateb i’r don bresennol o’r amrywiolyn Omicron. Fodd bynnag, ar hyn o bryd rhoddodd y JCVI wybod mai blaenoriaeth y rhaglen brechlynnau atgyfnerthu COVID-19 yw cynyddu nifer yr oedolion sydd wedi cael y pigiad atgyfnerthu cyntaf a phwysleisiwyd pwysigrwydd rhoi dos cyntaf i unigolion sydd heb eu brechu, yn enwedig oedolion agored i niwed. Bydd y JCVI yn parhau i fonitro’r rhaglen atgyfnerthu ac adolygu’r posibilrwydd y bydd angen ail bigiad atgyfnerthu.
Ni fyddwn yn gadael neb ar ôl. Gall unrhyw un sydd angen dos cyntaf, ail ddos, neu bigiad atgyfnerthu ddod ymlaen i gael eu brechu. Mae byrddau iechyd yn dal i gysylltu ag unrhyw un sydd ddim wedi gallu derbyn y cynnig o bigiad atgyfnerthu ac maent yn cynnig sesiynau galw i mewn ar draws Cymru.
Os oes tri mis wedi pasio ers eich ail ddos ac nad ydych yn credu eich bod wedi cael llythyr, galwad ffôn neu neges destun yn cynnig apwyntiad ichi gael y brechlyn atgyfnerthu, cysylltwch â’ch bwrdd iechyd lleol. Bydd manylion ar eu gwefan ac ar eu cyfryngau cymdeithasol i roi gwybod beth dylech ei wneud os ydych yn credu eich bod wedi colli allan. Mae pob brechlyn a roddwn yn helpu i Ddiogelu Cymru.