Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, byddaf yn cyhoeddi fersiwn ddiweddaraf ein Rhaglen frechu COVID-19: diweddariadau | LLYW.CYMRU. Mae pob ymdrech yn cael ei gwneud i gyflymu rhaglen brechiad atgyfnerthu COVID-19 hyd yn oed ymhellach. Mae tystiolaeth newydd wedi dod i’r amlwg am ba mor effeithiol yw ein brechlynnau yn erbyn yr amrywiolyn omicron. Nid yw dau ddos o’r brechlyn yn ddigon i roi’r lefel o amddiffyniad sydd ei angen ar bob un ohonom yn erbyn yr haint. Mae’r brechiad atgyfnerthu yn hanfodol.
Mae ein brechwyr eisoes wedi rhoi mwy nag 1.1 miliwn o ddosau o’r brechiad atgyfnerthu. Rwy’n hynod o ddiolchgar i bawb sy’n rhan o’r rhaglen am eu gwaith caled a’u hymroddiad diflino.
Ein bwriad yw cynnig apwyntiad ar gyfer y brechiad atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd y mis. Byddwn yn brechu cynifer o bobl â phosibl a hynny mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl, gan barhau i flaenoriaethu ar sail oedran a risg glinigol yn unol â’r cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI). Cynyddu’r rhaglen frechu er mwyn diogelu pobl cymaint â phosibl fydd prif flaenoriaeth y GIG dros yr wythnosau nesaf, a dylech sicrhau mai dyna yw eich blaenoriaeth chi hefyd. Mae ein timau brechu yn gweithio’n eithriadol o galed i wireddu hyn. Dylech wneud pob ymdrech i fynd i’ch apwyntiad.
Bydd byrddau iechyd yn anfon llythyron, negeseuon testun ac yn ffonio pobl i drefnu eu hapwyntiadau ar gyfer y brechiad atgyfnerthu. Yn yr wythnosau nesaf, bydd sesiynau galw heibio yn cychwyn ar gyfer pobl o oedrannau penodol, a bydd rhagor o fanylion ar gael ar wefan eich bwrdd iechyd lleol ac ar y cyfryngau cymdeithasol, a byddant yn cael eu diweddaru’n rheolaidd.
Gall unrhyw un sydd heb gael ei ddos cyntaf neu ei ail ddos, gan gynnwys plant a phobl ifanc, gysylltu â’i fwrdd iechyd yn uniongyrchol i drefnu apwyntiad, neu i gael gwybodaeth am sesiynau galw heibio. Y brechlyn yw’r ffordd orau o’n hamddiffyn yn erbyn y coronafeirws, ac nid yw hi fyth yn rhy hwyr i’w gael. Gall y timau brechu ateb unrhyw gwestiwn a allai fod gennych am y brechlyn a’ch cefnogi wrth gael eich brechu.
Cael eich brechiad atgyfnerthu COVID-19, a’r dos cyntaf a’r ail ddos, yw un o’r pethau pwysicaf y gallwch ei wneud i amddiffyn eich hun yn erbyn y coronafeirws a’r amrywiolyn newydd hwn.