Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, fel rhan o'r adolygiad diwethaf a gynhaliwyd ganddo o'r rhaglen brechu rhag COVID-19, wedi cyhoeddi datganiad yn argymell dos ychwanegol o frechiad atgyfnerthu'r gwanwyn ar gyfer ein dinasyddion mwyaf agored i niwed.
Prif nod y rhaglen brechu rhag COVID-19 o hyd yw sicrhau nad yw pobl yn datblygu salwch difrifol (gan arwain at fynd i'r ysbyty a marwolaethau) sy'n codi o COVID-19. Mae pobl hŷn, pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn a phobl sy'n imiwnoataliedig yn parhau i wynebu'r risg uchaf o ddatblygu salwch difrifol yn sgil COVID-19. Mae'r Cyd-bwyllgor wedi argymell, fel strategaeth ragofalus, y dylai'r bobl ganlynol gael ail ddos o'r brechiad atgyfnerthu:
- oedolion 75 oed a throsodd;
- pobl sy’n byw mewn cartref gofal i oedolion hŷn, ac
- unigolion 5 oed a throsodd sy'n imiwnoataliedig (fel y'i diffinnir yn nhabl 3 neu 4 yn y Llyfr Gwyrdd (Saesneg yn Unig))
Wrth wneud yr argymhelliad hwn, ystyriodd y Cyd-bwyllgor y data sydd ar gael o'r DU a gweddill y byd sy'n awgrymu bod imiwnedd pobl hŷn yn fwy tebygol o fynd yn wannach o ganlyniad i'r ffaith nad yw eu system imiwnedd yn gallu ymateb yn effeithiol i heintiau nac i frechlynnau i'r un graddau, a'u bod yn fwy tebygol o lawer o gael salwch difrifol os cânt eu heintio. Yn ymarferol, am eu bod wedi cael eu blaenoriaethu ar gyfer brechiadau ar ddechrau rhaglen brechu rhag COVID-19 yr hydref a ddechreuodd ym mis Medi 2022, mae rhagor o amser wedi mynd heibio ers i bobl hŷn gael eu dos diweddaraf o'r brechlyn.
Mae'r Cyd-bwyllgor hefyd wedi nodi yn ystod y rhaglen hon, fod modd defnyddio brechlyn COVID-19 VidPrevtyn Beta a gafodd ei ddatblygu gan Sanofi/GSK a'i gymeradwyo gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) ym mis Rhagfyr, ochr yn ochr â'r brechlynnau mRNA diweddaraf a ddatblygwyd gan Pfizer a Moderna. Mewn treialon clinigol, roedd canlyniadau brechlyn Sanofi/GSK yn gymaradwy â chanlyniadau’r brechlynnau mRNA COVID-19. Mae'r Cyd-bwyllgor wedi argymell y brechlyn ar gyfer pobl dros 75 oed, ac mae’n addas i bobl nad ydynt yn gallu goddef brechlynnau mRNA. Nid oes angen sicrhau amodau storio mor llym ar gyfer y brechlyn hwn o'i gymharu â’r brechlynnau mRNA COVID-19, sy'n golygu bod modd gweithredu mewn ffordd fwy hyblyg wrth ei ddefnyddio. Mae'n bosibl y bydd hyn yn ei gwneud yn haws i bobl gael eu brechu.
Rwyf wedi derbyn y cyngor hwn ac wedi gofyn i fyrddau iechyd gadarnhau'r cynlluniau y maent wedi bod yn eu llunio ers cryn amser. Caiff manylion y rhaglen eu nodi yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru a gaiff ei gyhoeddi gan y Prif Swyddog Meddygol.
Ar sail y cyngor a gafwyd gan y Cyd-bwyllgor, cyhoeddais yn ddiweddar ddiwedd y cynnig cyffredinol o'r brechiad atgyfnerthu gwreiddiol a oedd yn cael ei gynnig i bobl dros 5 oed o hydref 2021 ymlaen. Mae'r cynnig hwn yn dod i ben ar ddiwedd mis Mawrth, felly mae amser o hyd i unrhyw un nad yw wedi manteisio arno eto i gael ei frechu, a byddwn yn annog pobl i wneud hynny.
Fel arfer, rwy'n ddiolchgar iawn i'r GIG ac i bawb sy'n rhan o'r rhaglen frechu am eu gwaith caled parhaus.