Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ystod ymgyrch pigiad atgyfnerthu y gwanwyn, mae grŵp o bobl wedi eu nodi yn anghywir fel pobl sy’n gymwys i gael brechiad ychwanegol. Golyga hyn fod mwy o bobl nag yr oedd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi bwriadu yn wreiddiol iddynt fod yn gymwys i gael y pigiad atgyfnerthu naill ai wedi cael y brechiad, wedi cael gwahoddiad i’w gael neu’n mynd i gael gwahoddiad i’w gael.

Ar 16 Mai, sylwodd y byrddau iechyd ar anghysondeb posibl rhwng y meini prawf cymhwysedd a bennwyd gan JCVI a’r bobl a oedd yn dod i gael eu brechu. Daeth fy swyddogion yn ymwybodol o hyn ar 17 Mai ac rydym wedi gweithio gydag Uned Gyflawni y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), y byrddau iechyd, Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymchwilio ymhellach i’r mater. 

Drwy gydol y rhaglen frechu, fe wnaethom ni a llywodraethau eraill y DU dderbyn a dilyn cyngor JCVI mewn perthynas â pha grwpiau ddylai gael cynnig y cwrs cyntaf o frechiadau a phigiadau atgyfnerthu dilynol, ac ym mha drefn.

Mae JCVI bob amser wedi argymell blaenoriaethu brechiadau i unigolion sy’n imiwnoataliedig.

Y rheswm dros y dryswch oedd bod y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y grŵp imiwnoataliedig yn ehangach ar gyfer ymgyrch pigiadau atgyfnerthu y gwanwyn o gymharu ag ymgyrchoedd blaenorol. I sicrhau bod pawb sy’n bodloni’r meini prawf ehangach yn cael cynnig pigiad atgyfnerthu yn y gwanwyn, roedd angen creu carfan newydd yn System Imiwneiddio Cymru – dyma’r system a ddefnyddir gan y GIG i reoli a chofnodi’r brechiadau a gynigir ac a weinyddir i’r unigolion hyn. 

Yn sgil creu’r garfan imiwnoataliedig ehangach newydd hon yn System Imiwneiddio Cymru, mae ein hymchwiliad wedi canfod bod tua 9,500 o bobl wedi cael eu cynnwys yn anghywir fel pobl sy’n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu yn y gwanwyn. Mae pawb sydd wedi’i nodi yn anghywir wedi’i gynnwys yn y grŵp o bobl eithriadol o agored i niwed yn glinigol sy’n gymwys i gael cyffur gwrthfeirol neu driniaeth â gwrthgyrff os byddant yn cael Covid-19.

Gellir priodoli’r gwall hwn i wahaniaethau yn y meini prawf ar gyfer brechiadau a thriniaeth. Mae’n bwysig nodi bod pob un o’r unigolion hyn yn wynebu risg uchel o ddatblygu salwch difrifol os byddant yn cael Covid-19 a byddai rhai ohonynt eisoes wedi bod yn gymwys i gael pigiad atgyfnerthu yn y gwanwyn gan eu bod yn bodloni meini prawf cymhwysedd eraill, er enghraifft maent dros 75 oed neu’n byw mewn cartref gofal ar gyfer pobl hŷn.

Ar ôl ystyried yn ofalus yr opsiynau a’r cyngor clinigol a moesegol yr wyf wedi’i gael, rwyf wedi penderfynu parhau i gynnig brechiad ychwanegol i bawb sydd wedi’i nodi yn anghywir fel pobl sy’n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu yn y gwanwyn. O wneud hynny, rwy’n nodi’n glir nad yw’r penderfyniad hwn yn golygu ein bod yn estyn ein rhaglen y tu hwnt i’r meini prawf cymhwysedd a gynghorwyd gan JCVI.

Mae gennym gyflenwad digonol o’r brechlyn yng Nghymru i ddarparu apwyntiadau a brechiadau atgyfnerthu ychwanegol, ac ni ddisgwyliwn i’r penderfyniad hwn gael unrhyw effaith ar gymhwystra ar gyfer y brechiadau yn yr hydref.

Mae’r grŵp o unigolion yr effeithir arnynt ymysg y rhai sy’n wynebu risg uwch o ddatblygu salwch difrifol os byddant yn cael Covid-19, felly maent yn debygol o elwa ar bigiad atgyfnerthu. Wrth gwrs, yn yr un modd ag unrhyw driniaeth, mae risg fach o ganlyniad andwyol yn perthyn i frechiadau. Er hynny, mae’r sgil-effeithiau fel arfer yn ysgafn ac yn hunan-gyfyngol.

Wrth benderfynu anrhydeddu’r cynnig, rwyf wedi ystyried yn ofalus y manteision a’r risgiau ynghyd â’r dryswch a’r pryder y gallai tynnu’r cynnig yn ôl ei achosi yn awr. Mae manteisio ar gynnig i gael brechiad yn ddewis, a bydd gan y bobl yn y grŵp hwn nad ydynt wedi’u brechu eto ddewis ynghylch derbyn neu wrthod y brechiad, yn unol â chyngor gan ein clinigwyr yn ein canolfannau brechu.

Byddwn yn gwneud yn siŵr bod pob unigolyn yr effeithir arno yn ymwybodol o’r sefyllfa a byddwn yn ymddiheuro am y gwall. Byddwn yn rhoi sicrwydd iddynt ynghylch manteision cael brechiad ychwanegol os ydynt eisoes wedi’i gael, ac yn rhoi cyngor ychwanegol i’w helpu i wneud penderfyniad os nad ydynt wedi’i gael eto.

Mae ymarfer ‘gwersi a ddysgwyd’ wedi dechrau i sicrhau bod unrhyw wersi o’r achos hwn yn gallu cyfrannu at gynllunio a rheoli camau nesaf yr hyn sy’n dal i fod yn rhaglen frechu ragorol.