Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

O ddydd Sadwrn (27 Tachwedd), mae brechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi cael eu cynnwys ar y ffurf ddigidol o Bàs COVID y GIG, er mwyn i bobl yng Nghymru allu dangos tystiolaeth eu bod wedi cael dos atgyfnerthu os ydynt yn teithio dramor.

Bydd brechiadau atgyfnerthu yn ymddangos yn ddiofyn ar y ffurf ddigidol o Bàs COVID y GIG ond ni fyddant ar gael yn ddiofyn ar dystysgrif papur y Pàs COVID ar unwaith. Mae rhagor o waith i’w wneud cyn y gellir cynnwys brechiadau atgyfnerthu ar dystysgrifau papur a rhoddir diweddariad pellach ar y gwaith hwn ym mis Ionawr.

Ni fydd brechiadau atgyfnerthu yn cael eu cynnwys ar y Pàs COVID i’w ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau a lleoliadau domestig. Mae'r gofyniad i berson fod “wedi ei frechu'n llawn" yn cyfeirio at gael y dos cyntaf a'r ail ddos o'r brechlyn yn unig.

Mae gwybodaeth am sut i gael Pàs COVID y GIG ar gael yn Cael eich pàs COVID y GIG | LLYW.CYMRU.  Dylai pobl edrych i weld beth yw union ofynion mynediad y wlad y maent yn teithio iddi ar wefan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu Foreign travel advice - GOV.UK (www.gov.uk).