Gwenda Thomas, Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
Roeddwn wrth fy modd bod y Prif Weinidog wedi cytuno i gynnal seremoni gloi Blwyddyn Ewropeaidd Heneiddio’n Egnïol a Phontio’r Cenedlaethau 2012 yng Nghaerdydd ar 29 Tachwedd. Mae’r digwyddiad hwn wedi rhoi hwb pellach i broffil Cymru yn Ewrop fel gwlad flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu polisi heneiddio, ac o ganlyniad rydym yn disgwyl derbyn Statws Safle Cyfeirio ar gyfer ein gwaith.
Nod Blwyddyn Ewropeaidd Heneiddio’n Egnïol a Phontio’r Cenedlaethau yw newid barn pobl fod heneiddio’n brofiad negyddol, gan bwysleisio’r cyfleoedd sydd ar gael wrth i bobl fyw bywydau hirach ac iachach, a hyrwyddo arferion gorau.
Mae’r digwyddiad hwn wedi dangos ein bod wedi cyflawni llawer yng Nghymru, ond ni fyddwn yn gorffwys ar ein rhwyfau; rydym yn gwybod bod llawer i’w wneud o hyd i fynd i’r afael yn llawn â goblygiadau cymdeithas sy’n heneiddio. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i drydydd cyfnod ein Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y cyfle i feithrin cysylltiadau ag Ewrop, ac rwy’n croesawu ymrwymiad y Comisiynydd Pobl Hŷn i ddatblygu rhaglen “Heneiddio yn Dda” 5 mlynedd a fydd yn ein cynorthwyo i weithredu Cyfnod 3 y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn. Bydd y rhaglen hon yn cychwyn yn 2013, ac mae’n ymrwymiad ar y cyd i barhau ag egwyddorion Blwyddyn Ewropeaidd Heneiddio’n Egnïol a Phontio’r Cenedlaethau 2012. Bydd y rhaglen yn cydweithio â’r Bartneriaeth Arloesedd Ewropeaidd ar Heneiddio.
Ers lansio ein Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yn 2003, rydym wedi llwyddo i wella bywydau pobl hŷn yng Nghymru. Wrth lansio’r ymgynghoriad ar drydydd cyfnod y Strategaeth ym mis Hydref 2012, nodais fwriad Llywodraeth Cymru i ystyried a fyddai Datganiad o Hawliau Pobl Hŷn yn ein helpu i amddiffyn a gwella hawliau pobl hŷn yng Nghymru, ac rwyf wedi gofyn i’m swyddogion gydweithio â’n partneriaid i ystyried sut i archwilio’r mater ymhellach. Mae hyn yn dilyn y drafodaeth dda a gafwyd ar y pwnc hwn yn y Senedd yn gynharach eleni o dan arweiniad Darren Miller AC.
Er na fyddai Datganiad Cymru ar Hawliau Pobl Hŷn yn rhwymo mewn cyfraith, byddai’n anfon neges glir iawn i gyrff statudol a darparwyr gwasanaethau, ac i bobl hŷn eu hunain, ynglŷn â’n disgwyliadau. Byddai hefyd yn cryfhau ein gallu i sicrhau bod pobl hŷn yn derbyn y cymorth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau annibynnol a llawn. Rwy’n croesawu’r ffaith y bydd y Comisiynydd Pobl Hŷn yn cydweithio â ni i arwain y gwaith o ystyried ymhellach ffiniau ac effeithiau posibl Datganiad o’r fath.
Mae cyfran Cymru o bobl o oedran pensiwn y wladwriaeth eisoes yn uwch na rhannau eraill o’r DU, ac yn ystod oes trydydd cyfnod y Strategaeth, rhagwelir y bydd nifer y bobl 85 oed a throsodd yn dyblu. Fodd bynnag, rwy’n ffyddiog bod gennym yr uchelgais a’r strwythurau i helpu Cymru i ymateb i’r cyfleoedd a’r heriau sy’n deillio o’r newidiadau hyn i’r boblogaeth. Rydym yn ffodus o fod mewn sefyllfa i allu manteisio ar ein llwyddiant a’n profiadau a rhoi camau gweithredu cadarnhaol eraill ar waith dros y 10 mlynedd nesaf er mwyn sicrhau bod Cymru’n cael ei chydnabod yn wlad dda i heneiddio ynddi.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.