Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Fis Mai 2016 mae posibilrwydd y cynhelir etholiadau i dair gweinyddiaeth wahanol, gan ddilyn tair system bleidleisio wahanol – etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ethol cynghorwyr sir a chymuned ac ethol Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.  

Cynheliais ymgynghoriad ag amrywiaeth eang o randdeiliaid yn ddiweddar ar y cynigion i newid blwyddyn etholiad cyffredin cynghorwyr llywodraeth leol yng Nghymru o fis Mai 2016 i fis Mai 2017. Derbyniodd y cynnig gefnogaeth lethol.    

Felly rwy’n bwriadu arfer fy mhwerau o dan adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i newid y flwyddyn y cynhelir etholiad cyffredin cynghorau sir a chymuned yng Nghymru o fis Mai 2016 i fis Mai 2017.

Rwy’n cyhoeddi fy mhenderfyniad yn awr fel bod y rheini sy’n ystyried sefyll i’w hethol ym mis Mai eleni yn gwybod bod eu tymor yn y swydd yn cael ei ymestyn i bum mlynedd.

Yn ddiweddar, gwneuthum a gosodais gerbron y Cynulliad Cenedlaethol Orchymyn sy’n newid blwyddyn etholiad cyffredin cynghorwyr Cyngor Sir Ynys Môn o fis Mai 2012 i fis Mai 2013. Golyga hyn nad yw etholiadau ar Ynys Môn yn cael eu cynnal yr un pryd ag etholiadau cynghorwyr ar draws gweddill Cymru.

Bydd fy mhenderfyniad i newid blwyddyn etholiad cyffredin cynghorwyr yn golygu bod cynghorwyr yn cael eu hethol yr un pryd mewn pob awdurdod lleol yng Nghymru o fis Mai 2017.

Caiff Gorchymyn ei baratoi yn ei dro i roi grym i’m penderfyniad.