Y Gwir Anrh Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru
Heddiw, rydym yn nodi blwyddyn ers i’r byd cyfan gael ei frawychu gan ymosodiad arswydus Hamas ar Israel, gan gynnwys ar ŵyl gerddoriaeth a oedd yn llawn pobl ifanc.
Lladdwyd mwy na 1,000 o bobl, anafwyd miloedd yn rhagor a chipiwyd pobl o'u cartrefi.
Daliwyd dros 250 o bobl yn wystlon, a hyd heddiw nid oes cyfrif am 97 ohonynt.
Ers y diwrnod ofnadwy hwnnw flwyddyn yn ôl, mae gwrthdaro wedi gwaethygu ar draws y rhanbarth gan achosi marwolaeth a dioddefaint i ddinasyddion diniwed yn Gaza, Libanus, Israel a'r Lan Orllewinol.
Fel Llywodraeth Cymru, rydym yn galw am i bob un o'r gwystlon gael ei ryddhau'n ddiamod. Galwn hefyd am gadoediad ar unwaith ac am ddiwedd ar yr holl gyfyngiadau ar gymorth dyngarol.
Rydym yn cydnabod gwaith arweinwyr ffydd a chymunedau Iddewig a Mwslimaidd yng Nghymru sydd wedi dod at ei gilydd yn heddychlon dros y flwyddyn ddiwethaf. Fel llywodraeth, byddwn yn parhau i gefnogi cymunedau yr effeithir arnynt ac yn parhau i weithio i ddod â'n holl gymunedau yma yng Nghymru at ei gilydd.