Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Heddiw, rydym yn croesawu cynrychiolwyr y diwydiant bwyd a diod o bedwar ban byd i Gymru ar gyfer BlasCymru/TasteWales ‒ y gynhadledd a'r digwyddiad masnach cenedlaethol a rhyngwladol cyntaf erioed inni ei gynnal ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.
Mae'r digwyddiad, sy'n cael ei gynnal yng Ngwesty Hamdden trawiadol y Celtic Manor, wedi denu 400 o gynrychiolwyr, gan gynnwys rhai o ladmeryddion gorau'n diwydiant bwyd a diod. Gyda thros 100 o gwmnïau o Gymru yn cymryd rhan; ein Prifysgolion a'n canolfannau arloesi yn arddangos datblygiadau technolegol sydd ar flaen y gad ym maes technoleg bwyd; a'r amrywiaeth eang o wasanaethau cymorth busnes sy'n cael eu cynnig yma yng Nghymru ‒ mae'r digwyddiad yn tystio i gryfder ac ansawdd y diwydiant llewyrchus a ffyniannus hwn.
Rydym yn ymfalchïo'n fawr yn ansawdd uchel ein bwyd a'n diod, ac yn cydnabod eu gwerth aruthrol i'n heconomi. Yn briodol ddigon, mae'r diwydiant yn un o'r sectorau sy'n cael blaenoriaeth gan y Llywodraeth. Mae'n Cynllun Gweithredu uchelgeisiol 'Tuag at Dwf Cynaliadwy' yn pennu trywydd clir, ac yn gweithio mewn partneriaeth â'r diwydiant drwy Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru i sicrhau twf o 30% yn y sector erbyn 2020.
Cafodd ein diwydiant flwyddyn lwyddiannus yn 2106, gan fynd dros hanner ffordd at gyrraedd ein targed o ran twf. Gwelwyd cynnydd o 95% mewn allforion bwyd a diod o Gymru yn ystod y degawd diwethaf ac rydym yn awyddus i weld y cynnydd hwnnw'n parhau. Mae cyfnod anodd o'n blaenau wrth inni bennu cwrs ar gyfer dyfodol y tu allan i'r UE, yn enwedig o gofio bod bron 90% o'n hallforion bwyd a diod yn mynd i'r UE ar hyn o bryd. Mae'r heriau'n gwbl amlwg ond dylem achub ar y cyfle yn awr i atgyfnerthu'r marchnadoedd hynny ac i ddatblygu marchnadoedd newydd y tu allan i'r UE.
Ni fu erioed mor bwysig inni godi proffil Cymru yn rhyngwladol ac inni fynd ati'n egnïol i werthu'n cynhyrchion bwyd a diod rhagorol i'r byd. Rwyf yn hynod falch, felly, bod dros 150 o bobl sy'n prynu ar ran y fasnach bwyd a diod yn cymryd rhan yn BlasCymru/TasteWales, gan gynnwys prynwyr sy'n dod o farchnadoedd allweddol (yn eu plith, Unol Daleithiau'r America, Canada, Tsiena, Sweden, Ffrainc, yr Eidal, yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Hong Kong, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, yr Almaen, Sbaen, Oman, Japan a Denmarc.
Mae'r digwyddiad yn llwyfan arbennig o dda hefyd inni fedru dangos bod Cymru yn lle o'r radd flaenaf i fuddsoddi ynddo. Bydd hynny hyd yn fwy pwysig yn ystod y blynyddoedd nesaf hyn, ac rydym yn awyddus i ragori ar y lefelau gorau erioed o fewnfuddsoddiad y llwyddwyd i'w sicrhau yn ddiweddar. Cafodd dros fil o swyddi eu creu a’u diogelu yng Nghymru yn y ddwy flynedd diwethaf drwy fuddsoddiad gan gwmnïau o dramor yn y diwydiant bwyd a diod.
Er mwyn inni fedru parhau i gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol, mae'n hanfodol bod ein diwydiant ar flaen y gad o ran y datblygiadau arloesol diweddaraf. Felly, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw yn BlasCymru/TasteWales y bydd buddsoddiad newydd o bwys, gwerth £21 miliwn, er mwyn arloesi yn y diwydiant bwyd a diod. Bydd hynny'n digwydd drwy fenter newydd, o'r enw Prosiect HELIX, sy'n cael ei hariannu drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig.
Arloesi Bwyd Cymru fydd yn arwain y prosiect hwn, a fydd yn cael ei roi ar waith dros y pum mlynedd nesaf. Dyma fydd cam nesaf y broses o gryfhau'n diwydiant bwyd a diod er mwyn iddo gael ei gydnabod ledled y byd am ei ansawdd, a'r creadigrwydd a'r grefft sy'n rhan mor amlwg ohono. Bydd y prosiect yn cynnwys cymorth i ddatblygu cynhyrchion newydd arloesol ac i sefydlu busnesau bwyd newydd yn gyflym; bydd yn helpu busnesau i leihau gwastraff wrth brosesu bwyd, gan sicrhau arbedion o ran costau a lleihau gwastraff; a bydd yn helpu i ddatblygu sgiliau uwch mewn meysydd allweddol megis technoleg bwyd. Cafodd Prosiect Helix ei ddatblygu drwy wrando ar y diwydiant, a'i nod yw cynnig atebion a arweinir gan fusnes. Disgwylir iddo greu dros £100 miliwn ar gyfer economi Cymru ac i greu a diogelu miloedd o swyddi.
Gwnaethom gyhoeddi heddiw hefyd y bydd cyfnod ymgeisio arall yn dechrau ym mis Mai ar gyfer ceisiadau am gymorth o dan ein Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd (FBIS). Bydd swm o £2 filiwn ar gael yn ystod y cyfnod hwnnw ar gyfer cwmnïau bwyd a diod micro, bach a chanolig eu maint a fydd yn chware rhan ganolog mewn arloesi a thwf yn y dyfodol. Rydym wrthi hefyd yn cryfhau'r clystyrau busnes sydd gennym eisoes. Maent wedi creu rhwydwaith ar draws amryfal is-sectorau bwyd a diod er mwyn mynd ati gyda'i gilydd i wella arferion gorau, i rannu syniadau ac i ddatblygu busnesau. Rydym hefyd wedi lansio clwstwr newydd ar gyfer Diodydd. Byddwn yn cynnal Cynhadledd Sgiliau Cenedlaethol Bwyd a Diod Cymru ym mis Medi er mwyn sicrhau bod busnesau'n gallu dod o hyd i'r partneriaid hyfforddi priodol a chymorth arall gyda sgiliau.
Rydym yn hoelio sylw hefyd ar wneud mwy i ddatblygu bwydydd a diodydd iach, yn enwedig ar gyfer plant. Heddiw, gwnaethom wahodd busnesau a sefydliadau ar draws y diwydiant i gyflwyno cynigion i ddatblygu atebion arloesol er mwyn creu prydau ysgol mwy maethlon, ons gan leihau costau ar yr un pryd. O dan y fenter newydd hon, sy'n rhan o'r Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI), bydd busnesau a sefydliadau'n gallu cystadlu am gyfran o hyd at £1 filiwn er mwyn mynd i'r afael ag un o'r heriau mwyaf un ‒ gwella deiet ein plant yn awr, er mwyn iddynt dyfu’n oedolion ifanc iach yn y dyfodol.
Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod Cymru yn arwain y byd o ran cynaliadwyedd ac rydym wedi datgan yn glir ein bod yn bwriadu sicrhau gostyngiad o 80% o leiaf mewn nwyon tŷ gwydr erbyn 2020. Byddwn yn parhau i sicrhau, wrth i'n heconomi dyfu, bod ein hadnoddau naturiol yn cael eu defnyddio'n ofalus fel eu bod yn gallu parhau i'n cynnal er budd holl bobl Cymru. Yn BlasCymru/TasteWales heddiw, gwnaethom gyflwyno’n prosbectws newydd ar gyfer Twf Gwyrdd yn y diwydiant bwyd a diod. Mae'r prosbectws yn tynnu sylw at fusnesau sydd wedi cymryd camau cadarnhaol i dyfu mewn ffordd gynaliadwy, ac mae'n annog y darllenwyr i ddefnyddio adnoddau'n effeithlon ac i leihau gwastraff. Bydd pawb ar eu hennill felly ‒ bydd yn dda i'r amgylchedd ac yn dda hefyd o ran sicrhau bod busnesau’n fwy proffidiol.
Mae BlasCymru/TasteWales wedi rhoi llwyfan cadarn inni fedru lansio amryfal gamau gweithredu i gryfhau'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru at y dyfodol er mwyn iddo fedru mynd i'r afael â'r heriau a manteisio ar y cyfleoedd a ddaw i'w ran ar ôl i’r DU benderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n dangos ein bod yn gwbl benderfynol o sicrhau ein bod yn parhau i fynd ati ar y cyd i hyrwyddo ac i arddangos y gorau sydd gan ddiwydiant bwyd a diod Cymru i'w gynnig; i godi proffil ac i hyrwyddo enw da bwyd a diod o Gymru ar lwyfan y byd; ac i sicrhau bod Cymru'n parhau'n genedl groesawgar sy'n troi ei golygon tuag allan ac sy'n agored ar gyfer busnes.