Lesley Griffiths AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Heddiw, rydym yn croesawu'r diwydiant bwyd a diod o bedwar ban byd i Gymru ar gyfer BlasCymru/TasteWales 2019. Dyma'r eildro inni gynnal y digwyddiad a'r gynhadledd fasnachol ryngwladol hon ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. Roedd y digwyddiad cyntaf, a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2017, yn llwyddiant ysgubol ac arweiniodd at werth £16 miliwn o archebion ychwanegol i gynhyrchwyr o Gymru. 

Mae'r ffair eleni wedi denu dros 550 o gynrychiolwyr, gan gynnwys rhai o hyrwyddwyr gorau ein diwydiant bwyd a diod. Gyda thros 100 o gwmnïau o Gymru yn cymryd rhan, ein prifysgolion a'n canolfannau arloesi yn arddangos datblygiadau technolegol sydd ar flaen y gad ym maes technoleg bwyd, a'r amrywiaeth eang o wasanaethau cymorth busnes sy'n cael eu cynnig i'r diwydiant yma yng Nghymru, mae'r digwyddiad yn tystio i gryfder ac ansawdd y diwydiant llewyrchus a ffyniannus hwn.

Rydym yn falch iawn o ansawdd uchel ein bwyd a'n diod, ac yn cydnabod eu gwerth aruthrol i'n heconomi. Yn briodol ddigon, mae'r diwydiant yn un o sectorau sylfaen  y Llywodraeth. Mae'n Cynllun Gweithredu uchelgeisiol 'Tuag at Dwf Cynaliadwy' yn pennu trywydd clir, ac yn gweithio mewn partneriaeth â'r diwydiant drwy Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru i geisio sicrhau twf o 30% yn y sector fel ei bod yn werth £7 biliwn erbyn 2020. Rydym wedi cyrraedd £6.8 biliwn eisoes, felly, rydym gryn ffordd ar hyd y trywydd iawn i gyrraedd y swm hwnnw.

Roedd allforion bwyd a diod o Gymru yn werth £539 miliwn yn 2018, gan ddangos eu bod yn parhau i dyfu, a gwelwyd cynnydd o 24% yn ystod y 2 flynedd diwethaf. Aeth 73% o'n hallforion i'r Gymuned Ewropeaidd, ac mae'r ganran hyd yn oed yn uwch mewn rhai categorïau fel cig coch. Er bod gwerth yr allforion hynny £14 miliwn yn is, gwnaed iawn am hynny gan y cynnydd o £25 miliwn mewn allforion i wledydd y tu allan i'r UE, sy'n dangos bod y gallu gan ein cwmnïau i newid pan fo amodau masnachu'n anodd. Daeth y cynnydd hwn ar ôl ymweliad hynod lwyddiannus â Gulfood yn Dubai ym mis Chwefror 2018 a 2019 ac ymweliad Datblygu Masnach â Qatar ym mis Hydref 2018.

Mae gennym 200 o brynwyr yn Blas Cymru/Taste Wales eleni: 80 ohonynt o'r tu allan i'r DU. O blith yr 80 hynny, mae 48 yn dod o'r tu allan i Ewrop, sy'n gynnydd o 78% o gymharu â'r un digwyddiad yn 2017. Rydym, felly, yn cryfhau’n marchnadoedd yn y DU ac yn Ewrop ac yn mynd ati hefyd i ddatblygu rhai newydd y tu allan i'r UE.

Ni fu erioed mor bwysig inni godi proffil Cymru yn rhyngwladol ac inni fynd ati'n egnïol i werthu'n cynhyrchion bwyd a diod rhagorol i'r byd. Rwyf yn falch, felly, bod prynwyr ar ran y fasnach fwyd yn dod i BlasCymru/TasteWales o Unol Daleithiau'r America, Canada, Tsiena, Sweden, Ffrainc, yr Eidal, yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Hong Kong, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, yr Almaen, Qatar a Japan.

Mae'r digwyddiad yn llwyfan arbennig o dda hefyd inni fedru dangos bod Cymru yn lle o'r radd flaenaf i fuddsoddi ynddo. Rydym am adeiladu ar y lefelau uchaf erioed o mewnfuddsoddiad y llwyddwyd i’w denu yn ddiweddar, lle gwelwyd buddsoddiad gan gwmnïau o dramor yn y diwydiant bwyd a diod yn creu ac yn diogelu dros fil o swyddi yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Princes Foods sy'n gyfrifol am lawer o'r swyddi hynny ac mae'n buddsoddi yn ei safle yng Nghaerdydd. Y cwmni hwn hefyd yw prif noddwr Blas Cymru/Taste Wales.

Mae Blas Cymru/Taste Wales hefyd yn rhoi llwyfan cryf inni fynd ati i gydweithio mwy â'n partneriaid yn Ewrop. Bydd dirprwyaeth o Brosiect Allforio Bwyd yr Iwerydd (gan gynnwys cynrychiolwyr o ranbarthau yn Ffrainc, Sbaen, Portiwgal, Iwerddon a Gogledd Iwerddon) yn ymweld â Chymru oherwydd y cysylltiadau cryf sy'n cael eu meithrin rhwng y sector bwyd a diod yng Nghymru ac yn Ewrop. Rwyf yn hynod falch hefyd fod Arloesi Bwyd Cymru bellach yn un o bartneriaid rhwydwaith Sefydliad Arloesi a Thechnoleg Ewrop − Bwyd (EIT Food), sef prif fenter arloesi Ewrop ym maes bwyd. Mae’n cael cyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru a bydd yn golygu y bydd gan EIT Food bresenoldeb yng Nghymru, gan gysylltu diwydiant Cymru â chonsortiwm ehangach o fusnesau allweddol yn y diwydiant, o fusnesau newydd, a chanolfannau ymchwil a phrifysgolion ym mhob cwr o Ewrop.    

Bydd yr enghreifftiau hyn o gydweithio rhyngwladol hyd yn oed yn bwysicach yn y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod ac maent yn tystio'n glir i'r ffaith ein bod yn benderfynol o weld Cymru yn parhau i gynnal cysylltiadau ymarferol a chadarnhaol ar draws Ewrop. Beth bynnag a ddaw, rydym yn gwbl benderfynol nid yn unig o gynnal ein partneriaethau â chenhedloedd a rhanbarthau ledled Ewrop, ond hefyd eu cryfhau. 

Yn Blas Cymru/Taste Wales yn 2017, cyhoeddwyd y byddai swm o £21 filiwn yn cael ei fuddsoddi mewn prosiect arloesi newydd o bwyd ym maes bwyd a diod. Yn ôl y ffigurau diweddaraf, bron dwy flynedd ar ôl i Brosiect Helix gael ei lansio, mae wedi cael effaith o fwy na £82 miliwn. Nod y prosiect hwn yw hyrwyddo arloesedd ac effeithlonrwydd yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, bron ddwy flynedd ers iddo gael ei lansio. Gan ddefnyddio cyfleusterau gweithgynhyrchu o'r radd flaenaf, mae'r cynllun wedi cynnig cymorth technegol a hyfforddiant pwrpasol sydd wedi helpu i ddatblygu cannoedd o gynhyrchion newydd − nifer ohonynt yn cael eu harddangos yn Blas Cymru/Taste Wales. Mae hefyd wedi helpu busnesau i arloesi, i fod yn fwy cynhyrchiol, i wella sgiliau ac i leihau gwastraff yn y gadwyn gyflenwi.    Hanner ffordd drwy Brosiect HELIX, mae wedi cymryd camau breision ymlaen at gyrraedd ei dargedau. 

Mae'r prosiect yn cael ei weithredu mewn partneriaeth â thair canolfan fwyd, un ar Ynys Môn, un yng Ngheredigon ac un yng Nghaerdydd, sydd, gyda'i gilydd, yn creu Arloesi Bwyd Cymru.

Mae'r clystyrau busnes yr ydym wedi'u datblygu ar y cyd â'r diwydiant wedi cyrraedd a chysylltu â thros 450 o fusnesau. Mae'r rhwydwaith hwn o glystyrau wedi cael canlyniadau gwych dan arweiniad y busnesau sy'n rhan ohono ac mae wedi creu cyfleoedd newydd, megis datblygu ffordd newydd i mewn i farchnad Llundain ar gyfer busnesau o Gymru, drwy feithrin gwell dealltwriaeth o'r farchnad. Mae wedi trefnu hefyd fod Cymru yn bresennol mewn llawer mwy o sioeau masnach a bod busnesau sy'n rhan o'r clystyrau'n cydweithio i ddod o hyd i brynwyr newydd. Mae'r rwydwaith clystyrau'n parhau i dyfu ac mae'n dangos sut y gall cydweithio rhwng y Llywodraeth, busnesau a'r byd academaidd gael gwir effaith ar yr economi. Rydym yn gwbl ymrwymedig i glystyru busnesau oherwydd bod profiad wedi dangos inni fod hynny'n ffordd o symbylu arloesedd, o greu uchelgais ac o alluogi'r diwydiant ei hun i ddod o hyd i atebion.

Mae BlasCymru/TasteWales yn rhoi llwyfan cadarn inni geisio sicrhau bod diwydiant bwyd a diod Cymru yn tyfu'n gynt ar yr adeg hon o newid, er mwyn iddo fedru mynd i'r afael â'r heriau a manteisio ar y cyfleoedd a ddaw i'w ran ar ôl i’r DU benderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n dangos ein bod yn gwbl benderfynol o barhau i fynd ati ar y cyd i hyrwyddo ac i arddangos y gorau sydd gan ddiwydiant bwyd a diod Cymru i'w gynnig; i godi proffil ac i hyrwyddo enw da bwyd a diod o Gymru ar lwyfan y byd; ac i sicrhau bod Cymru'n parhau'n genedl groesawgar ac eang ei gorwelion.