Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dros yr wythnosau diwethaf rwyf wedi cyhoeddi datganiadau yn amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda’r GIG ac Iechyd Cyhoeddus Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i sicrhau bod profion ar gael lle mae’r angen mwyaf amdanynt. 

Yn ogystal â gweithio i gynyddu capasiti’r labordai Goleudy gyda chymorth labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU wedi bod yn asesu blaenoriaethau’r rhaglen brofi. 

Heddiw, rwy’n amlinellu’r blaenoriaethau ar gyfer profi yng Nghymru wrth inni symud i gam newydd yn ein hymateb. Mae’r rhain yn adlewyrchu’r blaenoriaethau a nodwyd yn ein Strategaeth Brofi.

Y flaenoriaeth gyntaf fydd cefnogi gofal clinigol y GIG a chanolbwyntio ar gleifion yn yr ysbytai, gan gynnwys yr holl gleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty, fel y gellir gwneud penderfyniadau clinigol i sicrhau’r gofal gorau ar gyfer yr unigolion hyn.

Yr ail flaenoriaeth fydd diogelu’r bobl mewn cartrefi gofal. Gwyddom fod pobl sy’n byw yn ein cartrefi gofal yn arbennig o agored i niwed yn sgil COVID. Yn seiliedig ar gyngor SAGE a’r Grŵp Cyngor Technegol, byddwn yn parhau i brofi staff, boed ganddynt symptomau ai peidio, bob pythefnos, neu’n wythnosol os oes nifer fawr o achosion yn lleol. Byddwn hefyd yn profi pawb sy’n symud i gartrefi gofal ac, os bydd brigiad o achosion mewn cartref, bydd yr holl breswylwyr a staff yn cael prawf.

Y drydedd flaenoriaeth fydd profi staff y GIG, gan gynnwys meddygon teulu a fferyllwyr os oes modd, gan fod diogelu ein GIG wedi bod yn ganolog i’n hymateb i COVID ac yn flaenoriaeth amlwg yn ein Strategaeth Brofi. Byddwn yn parhau i brofi staff y GIG sydd â symptomau, ond yn profi staff asymptomatig os bydd brigiad o achosion ac mewn ardaloedd lle mae nifer yr achosion yn uwch.

Y bedwaredd flaenoriaeth yw profion wedi’u targedu i helpu i reoli brigiadau o achosion ac i gefnogi astudiaethau gwyliadwriaeth. Bydd hyn yn helpu i reoli achosion mewn amgylcheddau risg uchel fel lleoliadau preswyl caeedig neu weithleoedd risg uwch, lle mae’r risg y bydd y feirws yn lledaenu a’r risg o ganfod rhagor o achosion positif yn uchel. Mae profion gwyliadwriaeth yn cyfeirio at astudiaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer y boblogaeth gyfan, treialon hanfodol ar gyfer brechlynnau newydd posibl, ac astudiaethau o boblogaethau penodol y mae risg iddynt.

Y bumed flaenoriaeth yw blaenoriaethu profion ar gyfer staff â symptomau sy’n mewn lleoliadau addysg neu ofal plant, os oes angen gwneud hynny i gadw’r lleoliad yn agored. Rydym yn dal i wella’r system brofi i sicrhau y gall staff gael mynediad fel blaenoriaeth pan fydd ganddynt symptomau. Bydd y rhai sy’n cael prawf negatif yn gallu dychwelyd i’r gwaith, gan sicrhau y gellir cadw ein lleoliadau addysg a gofal plant yn agored.  

Y chweched flaenoriaeth yw profi pob unigolyn â symptomau waeth faint o achosion sydd yn lleol er ei bod yn bwysig nad yw unigolion yn archebu prawf oni bai bod ganddynt symptomau penodol (tymheredd uchel, peswch cyson neu golli’r synnwyr arogli neu flasu). Dylai pobl hynanynysu os ydynt yn sylwi ar unrhyw un o’r symptomau hyn, neu os yw swyddog olrhain cysylltiadau wedi gofyn iddynt wneud hynny. Drwy ddilyn y cyngor hwn, byddwn yn gallu sicrhau bod yr adnoddau sydd ar gael inni yn cael eu defnyddio mor effeithiol â phosibl.

Bydd ein Strategaeth Brofi, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r blaenoriaethau hyn. Mae nodau’r strategaeth yn parhau i fod yr un fath – sicrhau bod y gallu i brofi’n cael ei ddefnyddio i ddiogelu’r bobl agored i niwed mewn cartrefi gofal ac yn yr ysbyty, ymateb i frigiad o achosion ac achosion lluosog a sicrhau y gellir cynnal ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i weithio gyda GIG Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i sicrhau ymateb cadarn i COVID-19 a bydd y blaenoriaethau hyn yn helpu i sicrhau bod profion ar gael lle mae’r angen mwyaf amdanynt, yn enwedig wrth inni symud i dymhorau’r hydref a’r gaeaf.