Dafydd Elis-Thomas AC, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Cafodd dwy astudiaeth ddichonoldeb eu cyhoeddi llynedd, y naill yn ystyried Oriel Gelf Gyfoes ar gyfer Cymru a'r llall yn ymdrin ag amgueddfa bêl-droed / chwaraeon genedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo swm o £10 miliwn mewn arian cyfalaf i fwrw ymlaen â'r ddwy astudiaeth, yn anrhydeddu’r cytundeb cyllid efo Plaid Cymru. Mae'r datganiad hwn yn disgrifio'u camau cychwynnol.
Mae'r astudiaeth o'r Oriel yn gosod allan weledigaeth arloesol ac uchelgeisiol ar gyfer ehangu a dathlu'r sector celf gyfoes yng Nghymru. Mae'n hyrwyddo'r cysyniad o 'fodel gwasgaredig', sef ei fod yn cael ei roi ar waith fesul cam. Bydd y model yn datblygu'r sylfaen o orielau celf rhagorol sydd gennym eisoes ledled Cymru. Roedd yr ymgynghorwyr o'r farn bod angen ystyried eu dichonoldeb ymhellach, gan wneud hynny ar sail yr argymhellion.
Yn gyntaf, mae'r adroddiad yn galw am ymchwiliad llawn i sut mae sicrhau'r arian cyfalaf sydd ei angen a hefyd, sut y byddai oriel yn effeithio ar y ffrydiau ariannu sy'n bod eisoes gan sicrhau ei bod yn dod â lles yn hytrach na drwg i'r sector ehangach. Yn ail, mae'n argymell mwy o ymchwil i'r gynulleidfa, i feithrin 'dealltwriaeth fwy soffistigedig' o'r farchnad ar gyfer y celfyddydau gweledol cyfoes yng Nghymru. Rwyf wedi gofyn i'n swyddogion nodi beth ddylai'r fanyleb ar gyfer hyn ei gynnwys, ac i gomisiynu'r ymchwil cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol. Bydd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru ran ganolog i’w chwarae o ran llywio’r prosiect hwn wrth iddo ddatblygu.
Rwy'n sylweddoli bod yn rhaid gweithredu'n fuan a bod yna ddadl dros fuddsoddi yn ein horielau gwasgaredig ledled Cymru. Rwy’n meddwl, er enghraifft, o’r Oriel Gregynog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, efo’r dichonolrwydd i gartrefi arddangosfeydd celfyddyd gyfoes. Rwyf felly wedi gofyn i'm swyddogion ddatblygu fframwaith ar gyfer cronfa grant cyfalaf y bydd orielau yn cael ymgeisio iddi o gyflwyno'u dadleuon i fod yn rhan o'r model gwasgaredig. Byddai hynny'n sicrhau gwelliannau ar gyfer arddangos celf gyfoes ledled Cymru.
Rwyf hefyd yn cydnabod ac yn ymrwymedig i'r dull tri cham a nodir yn yr astudiaeth ddichonoldeb sy'n cynnwys archwilio posibilrwydd am Bencadlys penodol ar gyfer yr oriel wasgaredig. Bydd fy swyddogion yn cynnal gwaith cynllunio busnes manylach y flwyddyn ariannol hon i ddatblygu hyn.
Rwy'n deall mai dim ond y camau cyntaf yw'r rheiny ar gyfer datblygu'r weledigaeth a ddisgrifir yn yr astudiaeth, a bod yn rhaid edrych ar ei dichonoldeb ymhellach er mwyn nodi camau tymor hir.
Cafodd y ddadl o blaid creu amgueddfa bêl-droed ac atyniad i ymwelwyr ei nodi'n glir yn adroddiad yr ymgynghorwyr. Eu casgliad oedd mai datblygu cyfleusterau newydd yn Amgueddfa Wrecsam fyddai'r dewis gorau ar gyfer arddangos treftadaeth bêl-droed Cymru. Mae'r astudiaeth yn argymell y dylid gwneud hyn mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, sy'n dal i gasglu a hyrwyddo ein treftadaeth chwaraeon fel rhan annatod o fywyd a hanes diwylliannol Cymru. Fel yr esboniais yn y Cyfarfod Llawn ym mis Tachwedd, rwy'n credu y byddai buddsoddi yn yr amgueddfa leol yn Wrecsam yn ffordd bragmatig ac ymarferol all esgor ar ganlyniadau o'r ansawdd uchaf. Ond nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn unig fydd hyn, ac yn unol â hynny, mae trafodaethau wedi dechrau gyda'r partneriaid allweddol. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion gytuno ar y ffordd ymlaen erbyn diwedd yr haf.
Byddaf yn cyhoeddi datganiad arall pan welwn ddatblygiadau pellach.