Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn fy natganiad ar 18 Mehefin, rhoddais wybod i'r Aelodau fy mod wedi bod yn anfon cyfres o lythyrau at Lywodraeth y DU ar draws y meysydd negodi ar Berthynas y DU a'r UE yn y Dyfodol i nodi rhagor o fanylion am flaenoriaethau negodi Llywodraeth Cymru.

Mae’r llythyrau hyn yn adeiladu ac yn ehangu ar y dull gweithredu a nodwyd yn ein dogfen, Y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol: blaenoriaethau negodi i Gymru, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2020, a oedd yn cynnwys dadansoddiad economaidd o effaith gwahanol ganlyniadau posibl y negodiadau ar y DU. Mae'r llythyrau hefyd yn adeiladu ar y llythyrau a ysgrifennodd y Prif Weinidog a minnau at Weinidogion Llywodraeth y DU ym mis Chwefror 2020 cyn i ddull gweithredu Llywodraeth y DU gael ei gyhoeddi, a phwyntiau yr wyf wedi’u pwysleisio ers hynny yn ystod cyfarfodydd a galwadau gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU. 

Mae'r llythyrau yn ei gwneud yn glir, er y byddai Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull gweithredu gwahanol ar gyfer y negodiadau i ddull Llywodraeth y DU, ein bod yn parhau i ymrwymo i fod yn adeiladol mewn perthynas â'r negodiadau er mwyn ceisio sicrhau bod buddiannau Cymru a’r effeithiau posibl ar Gymru yn cael eu hystyried yn briodol yn safbwyntiau negodi'r DU. Yn absenoldeb ymgysylltiad ystyrlon rhwng Gweinidogion lle byddai Gweinidogion y DU yn trafod ac yn ceisio dod i gytundeb â ni, nid yn unig ynglŷn â'u safbwynt cychwynnol ond hefyd y dull y maent yn disgwyl ei gymryd wrth i'r negodiadau fynd rhagddynt, rydym wedi penderfynu manylu ar ein blaenoriaethau negodi yn y gyfres hon o lythyrau. 

Mae'r llythyrau yn ymdrin ag 11 o ffrydiau gwaith ar gyfer y negodiadau, sef Tegwch yn y Farchnad, Llywodraethiant, Gorfodi'r Gyfraith a Chydweithredu Barnwrol, Pysgodfeydd, Rhaglenni'r UE, Masnach mewn Gwasanaethau, Masnach mewn Nwyddau, Rhyddid i Symud, Ynni a Chydweithredu yn y Sector Niwclear Sifil, Trafnidiaeth a Chydweithredu Barnwrol Sifil. Mae'r llythyrau hyn wedi'u hatodi i'r datganiad hwn. Rwyf wedi cael ymatebion i rai o'r llythyrau hyn ond nid pob un. Nid yw'r ymatebion yr wyf wedi'u cael yn rhoi sicrwydd imi fod Llywodraeth y DU yn ystyried buddiannau a blaenoriaethau Cymru yn ei dull gweithredu ar gyfer y negodiadau.

Byddwn yn parhau i fanteisio ar y cyfleoedd cyfyngedig hynny sydd ar gael i fynnu bod buddiannau Cymru yn cael eu cynnwys yn safbwynt negodi Llywodraeth y DU. Mae'n peri pryder dwfn, serch hynny, fod Llywodraeth y DU yn ôl pob golwg yn benderfynol o geisio am ddim mwy na chytundeb masnach cyfyngedig iawn â'r UE – sy'n bygwth niweidio busnesau a swyddi yng Nghymru yn fawr – a bod amheuaeth ynghylch cyflawni’r uchelgais gweddol fach honno hyd yn oed, yn sgil anhyblygrwydd Llywodraeth y DU yn y negodiadau yn gyffredinol.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.