Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Canghellor y Trysorlys wedi cyhoeddi Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU a fydd yn dod i ben ar 27 Hydref ochr yn ochr â Chyllideb yr hydref. Bydd yr adolygiad yn pennu faint o gyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer y tair blynedd nesaf hyd at 2024-25. 

Mae'r Datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y goblygiadau uniongyrchol i Gymru, a'r meysydd blaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru o'r farn y dylai Llywodraeth y DU fynd i'r afael â hwy yn yr Adolygiad o Wariant. 

Fel rhan o’r cyhoeddiad, rhoddodd Llywodraeth y DU fanylion ynghylch maint cyffredinol yr amlen ariannol ar gyfer yr Adolygiad o Wariant. Ar yr ochr adnodd, mae hyn yn fwy na'r symiau a oedd wedi’u cynnwys yng Nghyllideb mis Mawrth, wedi’i ariannu gan y cynnydd yng nghyfraddau Yswiriant Gwladol. Nid yw'r symiau cyfalaf wedi newid ers Cyllideb mis Mawrth.

Awgrymodd y dadansoddiad cychwynnol y gallai’r cynnydd mewn Yswiriant Gwladol a’r cynnydd cysylltiedig mewn gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol yn Lloegr olygu cyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru, o tua £600m y flwyddyn. Fodd bynnag, ni fyddwn ond yn gwybod sut y mae hynny'n cyd-fynd â chynlluniau gwariant cyffredinol Llywodraeth y DU a'r effaith wirioneddol ar ein cyllideb pan gyhoeddir canlyniad yr Adolygiad o Wariant ddiwedd mis Hydref. Bydd hefyd angen inni ddeall y goblygiadau ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus sy’n talu Yswiriant Gwladol

Yn ddelfrydol, dylai hyn gael ei gyflwyno fel rhan o broses cyllideb Llywodraeth Cymru. Bydd cefndir economaidd heriol i hyn wrth inni barhau i lywio goblygiadau ymadael â'r UE a rheoli effeithiau parhaus COVID-19. Bydd ein hadferiad a arweinir gan fuddsoddiad yn cefnogi'r nifer mawr o bobl yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig wrth inni ail-adeiladu ein gwasanaethau cyhoeddus a thrawsnewid ein heconomi yn un sy'n wyrddach ac yn decach. Rhaid i Lywodraeth y DU ddarparu hyblygrwydd cyllidebol ychwanegol i gynorthwyo ein hymdrechion i gyflawni ein cynlluniau seilwaith uchelgeisiol a chefnogi rhaglenni trosiannol.

Mae'r Adolygiad o Wariant yn rhoi cyfle i Lywodraeth y DU wneud buddsoddiad sylweddol i gefnogi ein hymdrechion ar y cyd i gyflawni carbon sero-net a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Fel rhan o hyn, rhaid i Lywodraeth y DU weithio gyda ni ar frys i ddatblygu strategaeth a rhaglen gyllido ffurfiol ar gyfer adfer safleoedd tomenni glo, a'u haddasu at ddibenion eraill, yn y tymor hir er mwyn rheoli effeithiau'r hinsawdd a mynd i'r afael â phryderon ynghylch diogelwch y cyhoedd. Os oes modd inni gytuno ar ffordd ymlaen, mae cyfle inni ddangos ein hymrwymiad ar y cyd wrth inni edrych ymlaen at gynnal Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd yn y DU (COP26).

Rhaid i Lywodraeth y DU hefyd fuddsoddi yng Nghymru drwy ddisodli cyllid yr UE yn llawn, a chefnogi ffermwyr Cymru a chymunedau gwledig sy'n ganolog i’r ymdrechion adfer natur. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU wrthdroi'r dull y mae wedi'i fabwysiadu i dynnu ymaith y cyllid presennol y mae Cymru wedi’i gael gan yr UE sydd eisoes wedi'i neilltuo i brosiectau â blaenoriaeth – ac sydd wedi arwain at £137m yn llai o gyllid i gymunedau gwledig yng Nghymru'r flwyddyn ariannol hon yn unig.

Mae arnom angen ymrwymiad diamwys gan Lywodraeth y DU mai dim ond gyda chydsyniad penodol y llywodraethau datganoledig y bydd yn defnyddio pwerau cymorth ariannol Deddf Marchnad Fewnol y DU i greu rhaglenni newydd ledled y DU mewn meysydd lle y mae cyfrifoldeb wedi’i ddatganoli. Rhaid i Lywodraeth y DU hefyd droi'n weithredoedd diriaethol y dymuniad a fynegwyd ganddi i weithio o fewn y cyfeiriad polisi a bennwyd gan lywodraethau datganoledig. Os na fydd yn gweithredu fel hyn, mae perygl y bydd ymdrechion yn cael eu dyblygu, gan lesteirio gwerth am arian a bydd atebolrwydd yn annelwig. O ganlyniad, bydd y dirwedd gyflenwi ar gyfer rhaglenni a gwasanaethau hanfodol y mae unigolion a busnes yn dibynnu arnynt yn anghydlynol ac yn doredig.

Fel cam cyntaf, rhaid i Lywodraeth y DU adolygu ei phenderfyniad i atal y £375m o Gyllid Strwythurol blynyddol yr UE y mae Llywodraeth Cymru wedi'i fuddsoddi i ddarparu rhaglenni cenedlaethol gan gynnwys cyflogadwyedd a phrentisiaethau, cymorth busnes a datblygu economaidd lleol. Mae'r cyllid hwn yn hanfodol i'n hymdrech ailadeiladu yng Nghymru, a dylid ei adfer. Er mwyn mynd i'r afael ag annhegwch rhanbarthol, dylai Llywodraeth y DU ganolbwyntio ei hymdrechion gwariant ar faterion a gadwyd yn ôl, gan gynnwys mynd i'r afael â thanwariant hanesyddol ar seilwaith rheilffyrdd ac ymchwil a datblygu yng Nghymru.  Rhaid i Lywodraeth y DU hefyd ymrwymo i gyllido’n llawn y gweithrediadau parhaus sydd eu hangen ar ffin Cymru yn dilyn yr ymadawiad â’r UE.

Rhaid i Lywodraeth y DU wneud mwy i gyflwyno polisïau blaengar i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac i atal teuluoedd sy'n gweithio'n galed rhag syrthio i dlodi. Bydd hyn yn gofyn am becyn cynhwysfawr o fesurau marchnad lafur gweithredol, buddsoddiad mwy uchelgeisiol mewn hyfforddiant a sgiliau, mesurau treth i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a gwell cymorth ariannol sydd ar gael i aelwydydd incwm isel.  Mae'r cynnydd o £20 mewn Credyd Cynhwysol wedi bod yn achubiaeth i lawer o aelwydydd a bydd rhoi terfyn ar hyn yn achosi caledi gwirioneddol a diangen.

Mae llawer o ansicrwydd o hyd ynghylch COVID. Er bod rhywfaint o achos dros fod yn optimistaidd oherwydd cyflymder y broses o gyflwyno'r brechlyn, bydd angen inni barhau i gymryd camau pwyllog a chadw'n wyliadwrus o’r bygythiad sy’n dal i’n hwynebu yn sgil y pandemig hwn. Rhaid i Lywodraeth y DU fabwysiadu dull hyblyg o sicrhau bod cynlluniau cymorth COVID ledled y DU, gan gynnwys y Cynllun Cadw Swyddi drwy Gyfnod y Coronafeirws, yn gallu parhau i helpu i amddiffyn ein heconomïau a diogelu ein