Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn roi diweddariad i’r Aelodau am y cyfnod pontio i Gofal Cymdeithasol Cymru. Y mis hon,  mae Cyngor Gofal Cymru wedi newid ei enw i Gofal Cymdeithasol Cymru ac  wedi cael pwerau newydd. Yn ogystal â bod yn gyfrifol am reoleiddio a datblygu’r gweithlu, bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn gyfrifol am ffrwd waith bwysig newydd, sef arwain ar wella ar draws y sector.

Mae gwaith sylweddol wedi’i wneud i baratoi ar gyfer ehangu cyfrifoldebau’r cyrff a noddir, o gwblhau’r strwythurau rheoli i ddatblygu strategaeth gyfathrebu. Hefyd, mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd mewn perthynas â gofal cartref a gwella gwaith ymchwil gofal cymdeithasol yng Nghymru. A byddwch yn clywed rhagor am hyn drwy gydol y flwyddyn.

Y llynedd fe wnaeth fy rhagflaenydd gymeradwyo’r blaenoriaethau strategol cynnar ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru ym maes gofal cartref, plant sy’n derbyn gofal a dementia, a gofynnodd am i ragor o waith gael ei wneud gyda’r sector i brofi’r blaenoriaethau.

Ers hynny, mae Asiantaeth Gwella’r Gwasanaethau Cymdeithasol, â chymorth Cyngor Gofal Cymru, wedi ymgysylltu â’r sector. Mae’r canfyddiadau’n dangos bod cefnogaeth eang i’r blaenoriaethau ac i Gofal Cymdeithasol Cymru fel arweinydd ar gyfer gwella’n strategol. Mae’r adroddiad hefyd yn argymell camau gweithredu penodol ar gyfer gwella yn y meysydd hyn, i’w hystyried gan Cyngor Gofal Cymru ac eraill. Rwy’n cymeradwyo’r adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi ac rwy’n diolch i Asiantaeth Gwella’r Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Gofal Cymru a’r sector ehangach am gydweithio i helpu i lywio’r swyddogaeth gwella gwasanaeth newydd a’r cyfeiriad i Gofal Cymdeithasol Cymru a fydd yn ei roi ar sylfaen gadarn o’r diwrnod cyntaf.

https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau/llunio-blaenoriaethau-gwella-ar-gyfer-gofal-cymdeithasol-cymru-canlyniad-gweithgarwch-ymgysylltu
https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau/pennu-blaenoriaethau-gwella-ar-gyfer-gofal-cymdeithasol-cymru---adroddiad-cryno