Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 10 Gorffennaf, disgrifiais y prif brosiectau ffyrdd roeddwn am eu cynnal a'm hymrwymiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am fy mlaenoriaethau ar gyfer y rheilffyrdd.
Mae'r rheilffyrdd yn bwysig iawn o ran cysylltu busnesau, pobl a chymunedau â'i gilydd a diwallu'u hanghenion. Er mai'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth sy'n gyfrifol am gyllido seilwaith y rheilffyrdd, mae'r seilwaith hwnnw'n dylanwadu'n drwm ar lwyddiant cynlluniau a buddsoddiadau economaidd tymor hir.
Dyna pam y mae Llywodraeth Cymru'n awyddus i fuddsoddi i gau'r bwlch yn cyllid sy'n cael ei ddarparu ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig (DU). Trwy fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf ar y rheilffyrdd a gwasanaethau ffransieis, mae'r rheilffyrdd yn gallu chwarae ei rhan i helpu'r economi i dyfu a phobl i gael at wasanaethau a swyddi, ac i leihau tlodi ymhlith pobl Cymru.
Yn dilyn yr asesiad o flaenoriaethau cyflawni y cyfeiriais ato yn fy natganiad ar 10 Gorffennaf, gallaf gadarnhau y byddaf yn darparu ein rhaglen ddiweddaraf ar gyfer buddsoddi cyfalaf yn y rheilffyrdd. Bydd yn cynnwys:
- gorsafoedd newydd yng Ngenau'r-glyn, Tref Glynebwy a Pye Corner.
- gwelliannau a chynyddu'r capasiti yn Nhir Phil, Maesteg, Pontypridd a buddsoddi yng Nghynllun Adnewyddu Signalau Ardal Caerdydd (CASR).
- gwella'r gorsafoedd yn Heol y Frenhines a Chanol Caerdydd, y Barri, Pontypridd a Chaerffili (fel rhan o CASR Network Rail); ac ym Mharkway Port Talbot, Aberystwyth, Ystrad Mynach, y Rhyl a Llandudno (fel rhan o Raglen Gwella Gorsafoedd Genedlaethol Cymru).
Mae gwaith mawr yn cael ei wneud gyda'r prosiect i drydaneiddio Cledrau'r Cymoedd er mwyn datblygu'r cynnig a gyflwynwyd yn yr achos busnes bras. Er mwyn cael gwerth ein harian, rwy'n edrych ar yr holl opsiynau ar gyfer cael y cerbydau sydd eu hangen, gan gynnwys prynu rhai newydd a phrynu cerbydau sydd wedi'u hadnewyddu. Byddwn yn edrych ar eu costau oes a'r buddiannau economaidd ehangach.
Erbyn diwedd y flwyddyn, rwy'n disgwyl adroddiad manylach gan Network Rail ar amserlen y gwasanaethau a'r opsiynau o ran cerbydau, ynghyd â gwaith pellach ar gostau'r isadeiledd. Bydd y gwaith hwnnw'n dylanwadu ar sut yr awn ati i roi'r prosiect trydaneiddio ar waith.
Byddaf yn dal ati i wasgu ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru'n cael y gorau o brosiect trydaneiddio prif lein y Great Western.
Mae potensial i drydaneiddio weddnewid y system drafnidiaeth yn y De-ddwyrain. I fanteisio ar y cyfle, rwyf wedi comisiynu Mark Barry i wneud rhagor o waith i ddatblygu cysyniad y Metro.
Bydd y gwaith trydaneiddio yn creu potensial hefyd ar gyfer cyfleoedd gwaith ac ar gyfer cynyddu'r cadwyni cyflenwi trwy ddefnyddio sgiliau a deunydd lleol, a gwella ein sylfaen sgiliau mewn meysydd fel peirianneg drydanol a sicrhau manteision i'n cymunedau. Rwyf wedi gofyn i Network Rail weithio'n agos â fi i wneud yn siŵr bod Cymru'n cael y gorau o'r manteision hyn.
Rwy'n cydnabod pwysigrwydd gwelliannau tymor hir i rwydwaith y Gogledd i economi'r rhanbarth, a byddaf yn gweithio i ddatblygu'r achos busnes dros ei foderneiddio.
Yn y tymor byr, gan ystyried argymhellion Tasglu'r Gogledd-ddwyrain ar Drafnidiaeth Integredig, rwyf wedi gofyn i'm swyddogion i weithio gyda MerseyTravel ac eraill i wella'r cysylltiadau'r rheilffyrdd rhwng arfordir y Gogledd a Lerpwl.
Wrth ddatblygu'r agenda ar gyfer y rheilffyrdd, fel y dywedais yn fy natganiad ar 10 Gorffennaf, rwyf am gael gwerth ein harian a chael y gorau o'n buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Yn hyn o beth, byddaf yn edrych o'r newydd ar brosesau a phenderfyniadau'r prosiect seilwaith i leihau amserau teithio rhwng y Gogledd a'r De a gwella'r rheilffordd rhwng Wrecsam a Saltney. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i'r prosiect hwn yn 2008 gan roi'r contract i Network Rail, ond cafwyd oedi mawr.
Byddaf yn pwyso eto ar Lywodraeth y DU i ymrwymo i fuddsoddi cyfalaf yn rhwydwaith ein rheilffyrdd, fel ag y mae gofyn iddi wneud. Hyd yn oed ar ôl cynnal prosiectau fel y prosiect trydaneiddio, bydd amserau teithiau hir yn dal yn faith ac mae cyflymder y lein yn dal yn fater y mae angen mynd i'r afael ag ef. Mae llawer o'n gorsafoedd yn dal i fod yn ddiolwg, yn anhygyrch ac yn anaddas ar gyfer yr 21ain ganrif. Yn y cyfamser, byddaf yn parhau i ymchwilio i ba arian arall y gallwn ei fuddsoddi, gan gynnwys arian strwythurol.
Yn ogystal â'r cyfyngiadau cynyddol ar gyllidebau cyfalaf yn sgil penderfyniadau Llywodraeth y DU, mae cyllidebau refeniw hefyd o dan bwysau aruthrol. Rhoddodd Llywodraeth Cymru flaenoriaeth i gyfres o welliannau i'r gwasanaethau rheilffyrdd yn 2011 ar sail y cyllidebau refeniw a oedd ar gael. Canlyniad yr hinsawdd economaidd anodd a'r toriadau yn y gyllideb refeniw gan Lywodraeth y DU yw bod yn rhaid i mi fod yn realistig ynghylch y gwasanaethau newydd neu ychwanegol y gallwn eu hariannu.
Fy ymateb i hynny yw ystyried a oes cyfleoedd mwy cost-effeithiol i weithio gyda grwpiau cymunedol lleol i ddarparu gwasanaethau newydd ac ychwanegol. Er enghraifft, cefais gyfarfod yn ddiweddar â Fforwm Rheilffordd Calon Cymru a nifer o Aelodau'r Cynulliad i drafod eu cynlluniau ar gyfer ystyried trefniadau rheoli gwahanol ac ar gyfer sicrhau cyfatebiaeth well rhwng y gwasanaethau ac anghenion pobl a chymunedau. Rwyf am barhau i gydweithio â nhw ar hyn.
Rwyf ym ymrwymo i wella'r gwasanaethau trafnidiaeth yn y Canolbarth. O ran y gwasanaeth bob awr ar Lein y Cambrian, mae'r ffordd yn glir i'r gweithredwr gyflwyno gwasanaethau ychwanegol er ei bod yn bwysig cofio na fydd y setliad ariannol yn un rhwydd. Rwyf wedi gofyn i Bwyllgor Cyswllt Rheilffordd yr Amwythig i Aberystwyth drefnu ymchwiliad gyda grwpiau rheilffyrdd eraill i'r galw am wasanaethau rheilffyrdd. Byddaf yn edrych hefyd ar rôl strategol lein y Gororau rhwng Casnewydd a'r Amwythig/Wrecsam. Rwyf wedi bod yn glir y dylai hyn ategu gwaith yr Ardaloedd Twf Lleol a chefnogi'r strategaeth twristiaeth.
Yn unol â hynny ac i ddechrau ar Lein y Cambrian a Lein Calon Cymru, bydd fy mhanel sector twristiaeth yn edrych ar ymarferoldeb darparu trenau ymwelwyr yn yr haf am gyfnod peilot. Byddaf yn cyhoeddi ar y mater hwn ar gyfer haf 2014 yn y man.
Mae'n hanfodol ein bod yn cael pethau'n iawn ar gyfer y dyfodol. Rwy'n canolbwyntio ar sicrhau'r trefniadau a'r manylebau priodol ar gyfer ffransieis nesaf Cymru a'r Gororau. Rwyf wedi bod yn glir na allwn adael i delerau'r ffransieis gyfyngu ar ein gallu i ymateb i amodau economaidd cyfnewidiol ac i ddarparu gwasanaethau lle bo'u hangen.