Yr Arglwydd Elis-Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Heddiw, byddaf yn lansio Cymru Greadigol yn ffurfiol i hyrwyddo'r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Bydd Cymru Creadigol yn cynnig gwasanaeth mwy syml, deinamig ac arloesol i sector y diwydiannau creadigol, sy'n cyd-fynd ag anghenion y diwydiant. Rwy‘n bwriadu elwa ar y manteision a ddaw i'r sector o ddau gyfeiriad – yr economi a diwylliant.
Mae fy mlaenoriaethau ar gyfer Cymru Greadigol i'w gweld mewn dogfen flaenoriaethau. Mae'r rhain yn cynnwys cynnal twf yn y diwydiant sgrin, gwella ac ymestyn ein cymorth i is-sectorau eraill megis cerddoriaeth, technoleg ddigidol a chyhoeddi, a sicrhau llwybrau mwy hyblyg i gyllid. Bydd mwy o ffocws yn cael ei roi hefyd ar feithrin sgiliau allweddol a datblygu doniau, gan hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, a chodi safonau yn y diwydiant.
Mae Cymru yn lle sy'n llawn ysbrydoliaeth ac uchelgais. Hoffwn sicrhau y gall y ddawn greadigol barhau i ffynnu yma a bod syniadau creadigol yn arwain at lwyddiant economaidd.
Wrth lansio Cymru Greadigol yr wythnos hon mae’r Llywodraeth yn cyflawni ymrwymiad maniffesto pwysig a wnaed yn 2016 ac rydym yn sicrhau bod Cymru yn cael ei gweld fel y lle i fusnesau creadigol ffynnu ynddo.