Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Ysgrifennais ar 18 Ionawr at Nick Boles AS, y Gweinidog Gwladol dros Sgiliau ynghylch y Bil Undebau Llafur, gan dynnu sylw at y niwed y bydd darpariaethau'r Bil yn ei wneud, yn ein barn ni, i’r model partneriaeth gymdeithasol. Amgaeaf gopi o'r llythyr hwnnw.
Ynghlwm wrth y llythyr roedd gwelliannau drafft i'r Bil, a fyddai'n eithrio gwasanaethau cyhoeddus Cymru o'r cynigion i gynyddu'r trothwy ar gyfer cefnogaeth yr aelodau i weithredu diwydiannol i 40%, yn gosod cyfyngiadau ar amser cyfleuster yr Undebau Llafur a therfynu trefniadau lle mae tanysgrifiadau i’r Undeb yn cael eu didynnu o'r cyflog. Gwneuthum hyn fel datganiad o bolisi Llywodraeth Cymru yn y maes hwn a chan fod cyfle delfrydol i'r Gweinidog gyflwyno gwelliannau hyn wrth i'r Mesur fynd ymlaen at Gyfnod Pwyllgor Tŷ’r Arglwyddi.
Mae Llywodraeth y DU wedi honni’n gyson bod y Bil yn ymwneud â materion heb eu datganoli yn unig. Mae Llywodraeth y DU wedi methu ag ymateb i’r ddadl bod y Bil yn amharu ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus datganoledig y mae gan Gymru'r hawl i lunio ei hymateb ei hun yn eu cylch. Rydym yn credu mai gweithio'n adeiladol gyda’r Undebau Llafur yw'r ffordd orau i gyrff y gwasanaethau cyhoeddus sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu’n effeithiol a byddai'r Bil hwn yn andwyol i hynny. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cael y cyfle i fynegi ei farn ei hun pan fydd yn trafod y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol wyf wedi’i gyflwyno ar gyfer 26 Ionawr.