Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi ar y cyd heddiw gwelliannau i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Rydw i a Phrif Weinidog yr Alban, wedi ysgrifennu ar y cyd at y Prif Weinidog, yn amlinellu ein bwriad wrth gyhoeddi’r gwelliannau hyn.  Maent yn ceisio gwella ffaeleddau’r Bil o ran ei ymdriniaeth o ddatganoli, a phe derbyniwyd hwy, fe fyddai modd i Lywodraeth Cymru ystyried argymell y dylai’r Cynulliad roi cydsyniad deddfwriaethol i’r Bil.  Fe fyddaf yn gwneud datganiad llawn yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma.