Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru
Heddiw, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).
Mae safbwynt Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir ers diwrnod canlyniad y refferendwm ar yr UE - mae'r DU yn gadael yr UE a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau Brexit synhwyrol, sy'n diogelu swyddi a'n heconomi. Felly, byddem yn barod i gefnogi Bil sy'n rhoi eglurder a sicrwydd i fusnesau a'n cymunedau, ac sy'n parchu'r setliad datganoli.
Ond nid yw'r Bil hwn yn gwneud hyn. Yn wir, nid yw ychwaith yn bodloni nod datganedig y Prif Weinidog ei hun i gydweithio mewn modd adeiladol, er mwyn sicrhau Brexit llwyddiannus. Er mawr siom, mae ein hymdrechion i weithio gyda Llywodraeth y DU ar y materion hyn wedi cael eu hanwybyddu.
Er bod y Bil, o bosibl, yn ymddangos yn ymarfer cyfreithiol a thechnegol astrus, bydd y Ddeddf Seneddol derfynol y mae'r Bil yn arwain ati yn hollbwysig wrth siapio'r ffordd y mae'r Deyrnas Unedig yn gweithio - neu o bosibl ddim yn gweithio - ar ôl i ni adael yr UE.
Mae'r Bil yn gorff o destun cyfreithiol cymhleth, ac mae ymgynghoriad Llywodraeth y DU â'r Gweinyddiaethau Datganoledig ar ddatblygu'r cynigion deddfwriaethol hanfodol hyn wedi bod yn annigonol, ac yn gwbl groes i'r hyn a glywyd gan y Prif Weinidog ac aelodau eraill o Lywodraeth y DU yr wythnos hon, am eu hymrwymiad i wrando ar eraill, a dod i gonsensws â hwy am yr heriau a ddaw yn sgil ymadawiad y DU â'r UE. Cafodd ein swyddogion lai na phythefnos o rybudd am y cynigion ac, yn ymarferol, nid ydym wedi cael cyfle go iawn i awgrymu unrhyw newidiadau sylweddol a fyddai'n gwneud y Bil yn un mwy derbyniol.
Mae hyn er gwaetha'r ffaith ein bod wedi gweithio'n galed yn gyson i ymgysylltu â Llywodraeth y DU, mewn trafodaethau dwyochrog a thrwy'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion, a’n bod wedi mynd ati'n rhagweithiol i gyflwyno cynigion polisi cadarnhaol am sut i sicrhau Brexit sy'n parchu canlyniad y refferendwm ac yn diogelu lles economaidd Cymru, a’r DU gyfan.
Yn ystod y trafodaethau am y posibilrwydd o gael 'Bil Diddymu Mawr', rydym wedi egluro ein bod yn deall, ac yn cefnogi'r syniad o gael Bil a fydd yn rhoi eglurder a sicrwydd i ddinasyddion a busnesau wrth i Brexit ddod i rym. Rydym hefyd yn derbyn y bydd angen gwneud rhai diwygiadau fel bod y gyfraith bresennol yn ymarferol o ran y cyd-destun newydd bod y DU y tu allan i'r UE. Rydym yn fodlon chwarae ein rhan yn hynny.
Mae ein papur Brexit a Datganoli yn cyflwyno dull gweithredu clir ac ymarferol sy'n parchu datganoli ac yn ateb y cwestiwn ynghylch sut i sicrhau tegwch ar draws y DU o ran polisïau, lle mae fframweithiau rheoleiddiol yr UE wedi darparu hyn hyd yma. Er ein bod wedi pwyso, nid ydym eto wedi cael unrhyw ymateb gwirioneddol gan Lywodraeth y DU am y cynigion hyn.
Mae felly'n siom mawr bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod gwrando, ac yn ymddangos yn benderfynol o bryfocio gwrthdaro cyfansoddiadol, nad oes ei angen o gwbl.
O safbwynt Llywodraeth Cymru, mae cyhoeddi'r Bil yn cynrychioli her sylweddol i'r setliad datganoli. Yn wir, yn ein barn ni, dyma'r ymosodiad mwyaf ar ddatganoli ers i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei sefydlu ym 1999.
Er gwaetha'r rhybuddion clir a niferus y byddai unrhyw ymgais gan San Steffan a Whitehall i gymryd y pwerau sydd gan yr UE ar hyn o bryd a’u cadw iddyn nhw eu hunain yn hollol annerbyniol, dyna'n union y mae Cymal 11 o Fil yr UE (Ymadael) yn ceisio ei wneud.
Byddai rhan hon y Bil yn diwygio'r ddeddfwriaeth ddatganoli a rhoi cyfyngiadau newydd - heb unrhyw derfynau neu gymwysterau - ar allu'r Cynulliad i ddeddfu yn effeithiol ar faterion lle rydym yn gweithredu ar hyn o bryd o fewn fframweithiau deddfwriaethol a ddatblygwyd gan yr UE, hyd yn oed ar ôl inni adael yr UE. Byddai cyfreithiau presennol yr UE yn cael eu rhewi, a dim ond Llywodraeth y DU, ymddengys, fyddai â'r hawl i'w dadrewi.
Yn ymarferol, byddai hyn yn rhoi cyfle i Lywodraeth y DU geisio cymeradwyaeth Seneddol i osod fframweithiau newydd i’r DU gyfan ar gyfer y polisïau hyn. Dyma ymgais i ad-ennill rheolaeth dros bolisïau datganoledig fel yr amgylchedd, amaethyddiaeth a physgodfeydd nid yn unig o Frwsel, ond o Gaerdydd, Caeredin a Belffast.
Rydym wedi cael ar ddeall bod Llywodraeth y DU yn dymuno trafod â ni, ac â'r Gweinyddiaethau Datganoledig eraill, i weld a oes modd inni gyflawni'r un canlyniadau drwy drafod a chytuno yn hytrach na deddfwriaeth unochrog. Fodd bynnag, nid oes dim yn nhestun y Bil na'r dogfennau ategol sy'n adlewyrchu hyn.
Mae'r Bil hefyd yn cynnig y dylai'r pwerau hynny, a elwir yn bwerau Henri'r VIII, a roddir i Weinidogion Cymru - yn wahanol i'r rheini a arferir gan Weinidogion y DU - gael eu cyfyngu mewn ffyrdd hynod o anymarferol.
Byddai'r pŵer i ddiwygio cyfraith yr UE sy'n berthnasol yn uniongyrchol - rheoliadau ac ati, sy'n cyfrif am y rhan fwyaf o fframwaith deddfwriaethol yr UE ar gyfer amaethyddiaeth, er enghraifft - yn cael ei gadw gan Lywodraeth y DU yn unig.
A gan y byddai Gweinidogion y DU yn cadw eu pwerau eu hunain - ynghyd â rhai Gweinidogion Cymru - i ddiwygio unrhyw ddeddfwriaeth mewn maes lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli, ymddengys y byddai Gweinidogion y DU hyd yn oed yn gallu diwygio deddfwriaeth sy'n dod o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn atebol i'r Cynulliad i egluro beth maent yn ei wneud a pham.
Os na chaiff y Bil ei ddiwygio, ni fydd Llywodraeth Cymru yn argymell i’r Cynulliad Cenedlaethol roi cydsyniad deddfwriaethol iddo. Byddwn hefyd yn parhau i edrych ar sut y gallwn ddefnyddio ein pwerau deddfwriaethol presennol i helpu i amddiffyn ein setliad datganoli.
Wrth wneud hynny, byddwn yn gweithio'n agos gyda gweinyddiaethau datganoledig eraill; yn wir, mae Prif Weinidog yr Alban a minnau wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd heddiw, lle rydym yn pwysleisio na allwn gefnogi'r Bil fel y mae ar hyn o bryd.
Nid atal, tanseilio na chymhlethu Brexit yw'r nod - mae'n ymwneud â gwrthsefyll ymgais i ail-ganoli pŵer yn ôl i San Steffan a Whitehall, i droi'r cloc yn ôl i adeg cyn datganoli pan y gallai Llywodraeth Llundain wthio polisïau amhriodol ar Gymru a'r Alban heb gydsyniad pleidleiswyr y ddwy wlad hynny. Nid oes gan y Lywodraeth Dorïaidd fandad ar gyfer hyn, lleiaf oll gan bleidleiswyr yng Nghymru.
Gan ystyried pwysigrwydd y mater, rwy'n bwriadu dod a hyn i’r Cynulliad cyn gynted â phosibl.
Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (Saesneg yn Unig)