Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Mae cynlluniau'r Llywodraeth i wella hygyrchedd cyfraith Cymru a nodir yn 'Dyfodol Cyfraith Cymru: rhaglen ar gyfer 2021 i 2026' yn gam pwysig ar ein taith i ddatblygu corff modern, hygyrch a dwyieithog o gyfreithiau i Gymru. Rydym wedi nodi cyfraith amgylchedd hanesyddol Cymru fel pwnc addas ar gyfer y prosiect cyntaf mewn rhaglen uchelgeisiol o gydgrynhoi deddfwriaethol. Rwyf wrth fy modd bod Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) wedi'i osod gerbron Senedd Cymru heddiw.
Mae ein deddfwriaeth bresennol ar yr amgylchedd hanesyddol wedi datblygu’n gasgliad dryslyd o ddarpariaethau sydd wedi'u diwygio droeon. At hynny, mae'n seiliedig i raddau helaeth ar ddwy statud yn San Steffan sydd bellach yn ddegawdau oed, felly dim ond yn Saesneg y mae'r rhan fwyaf o'n deddfwriaeth amgylchedd hanesyddol ar gael.
Amcan y cydgrynhoi hwn yw gwella hygyrchedd deddfwriaeth yr amgylchedd hanesyddol i Gymru drwy ddarparu un Ddeddf fodern, ddwyieithog i Gymru. Drwy gyflwyno mwy o gysondeb yn iaith, ffurf a gweithrediad y gyfraith, bydd yn haws ei deall a'i chymhwyso a bydd yn cefnogi'n well y gwaith o ddiogelu a rheoli amgylchedd hanesyddol unigryw Cymru yn effeithiol.
Byddaf yn gwneud datganiad deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn yfory, 5 Gorffennaf, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelodau o’r Senedd wrth iddynt ystyried y Bil dros y misoedd nesaf.