Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru
Mae potensial i’r Bil Undebau Llafur, a gyflwynwyd gerbron y Senedd gan Lywodraeth y DU, achosi niwed sylweddol i wead cymdeithasol ac economaidd y DU. Yn arbennig, mae gennyf bryderon difrifol y bydd y Bil – a chynnig cysylltiedig Llywodraeth y DU i gael gwared ar y gwaharddiad ar ddefnyddio gweithwyr asiantaeth yn ystod gweithredu diwydiannol – yn creu rhaniadau cymdeithasol, yn arwain at wrthdaro rhwng cyflogwyr a gweithwyr, ac yn y pen draw yn tanseilio gwasanaethau cyhoeddus a’r economi yn hytrach na’u cefnogi.
Un peth sy’n dwysáu’r pryderon hyn yw’r asesiadau effaith annigonol gan Lywodraeth y DU i gefnogi’r cynigion, a ddisgrifiwyd fel rhai ‘anaddas at y diben’ gan y Pwyllgor Polisi Rheoleiddiol. O gyfuno hyn â chyfnod ymgynghori byr dros yr haf, y darlun a geir yw nad oes gan Lywodraeth y DU ddiddordeb yn y dystiolaeth am effaith y cynigion hyn. Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn gallu cywiro’r darlun hwn drwy ddangos ei bod yn gwrando o ddifrif ac yn gwneud newidiadau sylweddol mewn ymateb i bryderon diffuant yr undebau llafur. Yn arbennig, rwy’n ategu nifer o bwyntiau cryf a wnaed gan y TUC mewn ymateb i’r ymgynghoriadau ar sail tystiolaeth, profiad ac arbenigedd. Mae angen gwneud newidiadau angenrheidiol a phwysig i’r cynigion, naill ai drwy Lywodraeth y DU yn mynd i’r afael yn briodol â phryderon yr undebau llafur, neu drwy’r gwaith craffu trylwyr y mae’r Bil yn ei haeddu ac y bydd yn ei gael heb os yn y Senedd.
Mae’r ohebiaeth gychwynnol a ddaeth i law gan Weinidogion y DU yn mynnu bod y Bil yn ymwneud â mater sydd heb ei ddatganoli ac nad oes angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod elfennau sylweddol o’r Bil yn ymwneud yn benodol â gwasanaethau cyhoeddus, sy’n bendant yn gyfrifoldebau sydd wedi’u datganoli i Gymru. Nid wyf felly’n derbyn yr awgrym bod y Bil yn ymwneud â materion sydd heb eu datganoli yn unig.
Yn nyfarniad y Goruchaf Lys mewn perthynas â Bil y Sector Amaethyddol (Cymru), cafwyd cadarnhad, ar yr amod bod Bil Cynulliad yn bodloni mewn ffordd deg a realistig y prawf a geir yn adran 108 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac nad yw’n destun eithriad, nad yw o bwys p’un a yw’n gallu cael ei gyfrif fel ei fod yn gysylltiedig â phwnc sydd heb ei ddatganoli, fel hawliau cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol.
Mewn perthynas â’r Bil Undebau Llafur, y tri chategori cyntaf o “wasanaethau cyhoeddus pwysig” sy’n destun y trothwy aelodaeth cyffredinol ychwanegol o 40% ar gyfer gweithredu diwydiannol yw gwasanaethau iechyd, addysg ar gyfer pobl ifanc dan 17 oed a’r gwasanaethau tân, sydd oll yn amlwg wedi’u datganoli. Mae’r adran cefndir y polisi yn nodiadau esboniadol y Bil yn gosod cyd-destun clir i’r Bil o ran ceisio ‘amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol’ rhag streiciau, ac mae’r cyd-destun hwn i’w weld hefyd yn y ddogfen ymgynghori ar drothwyon pleidleisio mewn “gwasanaethau cyhoeddus pwysig”. Fodd bynnag, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yw polisi ynghylch sut i gefnogi neu ‘amddiffyn’ y ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus datganoledig fel iechyd, addysg a gwasanaethau tân. Mae hyn yn cynnwys y ffordd y mae cyrff sector cyhoeddus mewn gwasanaethau datganoledig o’r fath yn gweithio gyda’r undebau llafur i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu i’r cyhoedd mewn ffordd effeithiol.
Ceir gwahaniaeth cynyddol yn y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu yng Nghymru a Lloegr, a byddai’n anghywir ac efallai’n niweidiol i nod Llywodraeth y DU o ‘amddiffyn’ gwasanaethau cyhoeddus pe bai penderfyniadau ar sail strwythurau a dulliau gweithredu yn Lloegr yn cael eu gorfodi ar fodelau gwahanol o ddarparu gwasanaethau yng Nghymru. Er enghraifft, mewn perthynas â pha swyddogaethau a rolau ategol fydd yn destun y trothwy o 40%, byddai’n gwbl anghywir cymryd bod rolau mewn gwasanaeth cyhoeddus datganoledig yng Nghymru yn union debyg i rolau yn y maes gwasanaeth hwnnw yn Lloegr. Yn yr un modd, nid yw’n gywir bod Llywodraeth y DU – gan anwybyddu blaenoriaethau polisi a diwygiadau o ran darparu gwasanaethau datganoledig yng Nghymru – yn nodi faint o ‘amser cyfleuster’ ar gyfer gweithgarwch undeb y dylai cyflogwyr sector cyhoeddus ei ganiatáu. Nid wyf ychwaith wedi fy argyhoeddi bod y bwriad i roi diwedd ar y trefniadau drwy gyflog ar gyfer taliadau aelodaeth undeb llafur yn angenrheidiol nac yn briodol. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu’r trefniadau hyn fel rhan o’i phartneriaeth gymdeithasol effeithiol ac nid yw eisiau newid hyn.
Rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog i fynegi fy mhryderon ynghylch y Bil Undebau Llafur. O ystyried y ffordd y mae’r Bil yn ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, rwyf ar hyn o bryd wedi cadw safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag a oes angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Serch hynny, rwyf wedi datgan yn glir, os bydd y Bil yn mynd yn ei flaen, y dylid ychwanegu Gweinidogion Cymru ar wyneb y Bil fel ymgynghorai statudol ar gyfer datblygu’r rheoliadau y mae’r Bil yn darparu ar eu cyfer i sicrhau nad yw Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau heb roi sylw i gyd-destun gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os hoffai’r Aelodau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn ailgynnull, byddwn yn hapus i wneud hynny. Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth i’r Cynulliad maes o law ar ôl trafod ymhellach â Llywodraeth y DU.