Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Heddiw, cafodd y Bil Tybaco a Fêps ei gyflwyno yn Senedd y DU. Cyflwynwyd fersiwn flaenorol o'r Bil gan Lywodraeth ddiwethaf y DU ar 20 Mawrth, ond daeth taith y Bil hwnnw i ben pan gafodd Senedd y DU ei diddymu ar 30 Mai cyn yr Etholiad Cyffredinol.
Fel y fersiwn flaenorol, mae'r Bil newydd yn ceisio newid yr oedran gwerthu ar gyfer pob math o gynhyrchion tybaco, papurau sigaréts a chynhyrchion smygu llysieuol, fel na fydd unrhyw un a anwyd ar 1 Ionawr 2009 neu ar ôl hynny byth yn gallu prynu’r rhain. Mae hefyd yn ei gwneud yn drosedd prynu'r cynhyrchion hyn ar ran plant, ac mae'n newid hysbysiadau rhybuddio mewn safleoedd manwerthu. Bydd y darpariaethau yn y Bil yn berthnasol i Gymru a'r DU yn ehangach.
Mae'r Bil wedi ei gryfhau er mwyn i'r cyfyngiadau ar werthu fêps i bobl dan 18 oed gynnwys fêps heb nicotin a chynhyrchion nicotin eraill. Mae darpariaethau hefyd sy'n gwahardd dosbarthu fêps am ddim at ddibenion hyrwyddo.
Mae'r Bil yn cynnig cyflwyno pwerau i wneud rheoliadau i gyfyngu ar flasau, arddangosfeydd yn y safle gwerthu, a deunyddiau pecynnu ar gyfer cynhyrchion fepio (rhai sy'n cynnwys nicotin a heb nicotin), yn ogystal â chynhyrchion nicotin eraill ar gyfer prynwyr.
Mae’r fersiwn newydd hon o'r Bil wedi cael ei chryfhau hefyd fel y bydd fêps a chynhyrchion nicotin eraill yn cael eu hatal rhag cael eu brandio'n fwriadol ar gyfer plant a'u hysbysebu iddynt. Mae'r Bil yn cyflwyno gwaharddiad ar beiriannau gwerthu fêps, a phwerau i Weinidogion Cymru ehangu ein cyfyngiadau di-fwg presennol i gynnwys fepio a chynhyrchion di-dybaco a gynhesir, a thrwy hynny ei gwneud yn bosibl creu mannau lle na cheir defnyddio fêps na chynhyrchion di-dybaco a gynhesir.
Mae'r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cynllun trwyddedau manwerthu yng Nghymru ar gyfer gwerthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol, papurau sigaréts, cynhyrchion fepio neu nicotin. Mae darpariaethau eraill yn cynnwys gwahardd cynhyrchion tybaco i’w rhoi yn y geg a chryfhau gweithdrefnau gorfodi i gynnwys hysbysiadau cosb
benodedig ar gyfer ystod ehangach o droseddau. Mae darpariaethau hefyd ar gyfer cyfyngu ar hysbysebu a noddi ystod ehangach o gynhyrchion, gan gynnwys cynhyrchion fepio a nicotin.
Os daw'r Bil yn gyfraith, byddwn yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid yng Nghymru ac ar draws y DU i fwrw ymlaen â'r mesurau sydd ar gael.
Ar wahân i Fil Tybaco a Fêps y DU – ac fel rhan o'n hymdrechion i leihau'r effaith amgylcheddol a chefnogi economi gylchol yng Nghymru – rydym wedi ymrwymo i wahardd fêps untro. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig i gydlynu'r dyddiad y dônt i rym, sef 1 Mehefin 2025.
Rwyf wedi ymrwymo i weithredu pob mesur angenrheidiol i fynd i'r afael ag effeithiau tybaco ar iechyd, ac rwy'n benderfynol y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal pobl ifanc rhag defnyddio fêps yng Nghymru.
Gan fod y Bil yn gwneud darpariaethau mewn perthynas â Chymru ynghylch materion datganoledig, bydd memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn cael ei osod maes o law. Rwy'n edrych ymlaen at yr Aelodau'n craffu ar y Bil, ac at glywed barn ein holl bartneriaid yn ystod y broses ddeddfwriaethol.
Y Bil Tybaco a Fêps 2024: Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc