Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Hydref 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyhoeddwyd y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) drafft a’r Memorandwm Esboniadol drafft i gyd-fynd â’r Bil ar 18 Mehefin 2012 ar gyfer ymgynghoriad 12 wythnos, a ddaeth i ben ar 10 Medi 2012.  
Heddiw, rwy’n cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ac amgaeaf gopi o’r adroddiad er gwybodaeth i’r Aelodau. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar dudalennau ymgynghori Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach heddiw.
Cafwyd ymateb rhagorol i’r ymgynghoriad, gyda 2,891 o ymatebion yn dod i law cyn y dyddiad cau. Roedd mwyafrif helaeth yr ymatebion (2,601) ar ffurf llythyr safonol a oedd yn codi nifer o faterion penodol. Roedd nifer lai o ymatebion yn rhoi sylwadau manwl ac ystyriol i’r cwestiynau. Rydym yn ddiolchgar i’r holl ymatebwyr am eu cyfraniadau.
Mae’r Bil drafft yn datblygu’r ymrwymiad maniffesto i gyflwyno deddfwriaeth ar system feddal o optio allan ar gyfer rhoi organau a meinweoedd. Mae system feddal o optio allan yn golygu yr ystyrir nad yw unigolyn yn gwrthwynebu rhoi ei organau os yw’n marw mewn amgylchiadau lle mae rhoi organau yn bosibilrwydd, oni bai ei fod wedi optio allan o fod yn rhoddwr. Mewn system feddal o optio allan, mae teulu’r ymadawedig yn dal i fod â rôl i’w chwarae yn y broses o wneud penderfyniad ynghylch rhoi organau. Yn ôl tystiolaeth awgrymir y byddai newid i’r system hon yn gweld cynnydd o 25 y cant yn y rhoddwyr organau.
Gofynnodd yr ymgynghoriad ar y Bil drafft gwestiynau ynghylch eglurder y meysydd canlynol:• y cysyniadau o ganiatâd tybiedig a chaniatâd datganedig• rôl teuluoedd• cofrestru dymuniadau• sefydlu statws preswylio• Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb• cyfathrebu ac ymwybyddiaethMae’r adroddiad cryno yn nodi’r prif themâu yn yr ymatebion mewn perthynas â’r uchod a materion eraill. Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn llywio datblygiad y Bil terfynol.Yn ogystal â safbwyntiau penodol y rheini wnaeth ymateb i’n hymgynghoriadau, rwyf yn awyddus i wrando ar ystod ehangach o farn pobl ar y pwnc, i lywio ac ategu ein hymrwymiad i gyfathrebu da. Felly rwyf hefyd yn cyhoeddi heddiw ganlyniadau arolwg sy’n cynrychioli agweddau pobl yng Nghymru tuag at roi organau a thuag at y newid arfaethedig yn y gyfraith, ac unwaith eto amgaeaf gopi o’r adroddiad at sylw’r Aelodau. Cyhoeddir adroddiad yr arolwg ar y wefan yn ddiweddarach heddiw yn http://wales.gov.uk/topics/health/nhswales/majorhealth/organ/?skip=1&lang=cyMae’r arolwg yn awgrymu bod bron i hanner y cyhoedd yng Nghymru (49 y cant) yn cefnogi newid, gyda llai na chwarter (22 y cant) yn erbyn newid. Nododd 21 y cant ymhellach bod angen mwy o wybodaeth arnynt cyn penderfynu. Mae’r gyfran hon yn unol â phleidlais Dydd Gŵyl Dewi y BBC a oedd hefyd wedi dangos bod 2:1 o blaid newid o’i gymharu â’r rhai oedd yn erbyn newid. Hefyd, mae lefel yr ymwybyddiaeth o’r newid arfaethedig i’r gyfraith yng Nghymru yn weddol uchel.  Mae pawb ohonom yn gwybod bod rhoi organau’n arbed ac yn gwella bywydau. Rwy’n edrych ymlaen at gyflwyno Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) i’r Cynulliad cyn diwedd y flwyddyn.