Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf heddiw'n cyflwyno Bil Sector Amaethyddol (Cymru).  

Pwrpas y Bil yw: 

  • Cynnal y system bresennol o reoliadau statudol ar gyfer cyflogi gweithwyr amaethyddol yng Nghymru. Daw'r drefn fel arall i ben yn sgil dileu Bwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr ar 25 Mehefin 2013 a diddymu Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 ar 1 Hydref 2013.
  • Cadw darpariaethau Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 yng Nghymru ar ôl Hydref 2013 a darparu ar gyfer gorfodi'r darpariaethau hyn. 
  • Rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru sefydlu Panel Cynghori Amaethyddol i Gymru. 
  • Galluogi sefydlu Panel Cynghori Amaethyddol i Gymru i gynnal swyddogaethau sy’n ymwneud â gweithrediad y sector amaethyddol, gan gynnwys hybu gyrfaoedd a chynghori Gweinidogion Cymru ar faterion eraill allai effeithio ar y diwydiant amaeth. 
  • Helpu i sefydlu sector cryf a chynaliadwy yng Nghymru sydd â gweithlu sydd wedi’i hyfforddi’n dda. 
  • Hybu proffesiynoldeb a gwella sgiliau yn y sector amaethyddol. 
Bydd y Bil hwn yn cadw'r drefn bresennol sydd wedi hen ennill ei phlwyf ac yn hen gyfarwydd i'r diwydiant amaethyddol yng Nghymru.  Bydd yn gyfle hefyd i ddatblygu a chreu polisïau ar gyfer y dyfodol yn unol ag anghenion y diwydiant yng Nghymru. Mae'n caniatáu hyblygrwydd ynghylch aelodaeth a chylch gwaith y Panel arfaethedig.  Bydd hynny'n helpu'r diwydiant amaeth yng Nghymru gyfan i weithio'n effeithiol trwy gydnabod y rôl bwysig y mae gweithwyr fferm yn ei chwarae wrth osod sylfaen ar gyfer diwydiant amaethyddol cryf, cynaliadwy a phroffidiol yn y dyfodol.
Rwyf hefyd yn cyhoeddi heddiw grynodeb o'r ymatebion a hefyd bob un o'r ymatebion yn llawn, i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Ddyfodol y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol (AWB) a ddaeth i ben ar 26 Mehefin, ar wefan Llywodraeth Cymru.