Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn delio’n effeithiol â chŵn sy’n beryglus ac allan o reolaeth. Rydym wedi ymrwymo i greu fframwaith statudol a fyddai’n ei gwneud yn anghyfreithlon i gŵn fod allan o reolaeth a pheryglus ar safle preifat. Rydym hefyd wedi ymrwymo i ddiogelu cŵn cymorth, er enghraifft cŵn tywys a chŵn clywed, yn ogystal â threfn statudol i ddiogelu cŵn a hyfforddi cŵn.

Rwyf wedi ystyried yn ofalus sut y dylem roi’r amcanion hyn ar waith i gael y canlyniadau gorau er mwyn amddiffyn ein plant, teuluoedd a chymunedau’n well. Rwyf wedi ymrwymo hefyd i newid diwylliant yn y tymor hir. Ni all deddfwriaeth ar ei phen ei hun wneud hynny ond bydd yn mynd at wraidd y broblem trwy annog perchenogion cŵn i fod yn berchenogion cyfrifol.

Ar 23 Tachwedd 2012, cyhoeddodd cyn Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy Fil Rheoli Cŵn Drafft (Cymru) at bwrpas ymgynghori. Gofynnai am farn prif randdeiliaid a phobl Cymru ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfreithiau newydd i ddelio â chŵn allan o reolaeth a pheryglus ac i annog perchenogion cŵn i fod yn fwy cyfrifol. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 1 Mawrth 2013.

Rwyf heddiw’n cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i ymateb i’r cynigion. Roedd y gefnogaeth gyffredinol o blaid deddfwriaeth newydd yn y maes hwn yn galondid ac rwy’n ddiolchgar i bawb am eu hymatebion, yn enwedig plant a phobl ifanc. Rwy’n ddiolchgar hefyd i’r RSPCA, y Dogs Trust, yr heddlu ac awdurdodau lleol am y ffordd y maent wedi gweithio gyda ni i ddatblygu ffordd o weithio a meddwl ar y mater hwn.

Mae’n glir i mi erbyn hyn, a finnau wedi adolygu’r gwaith ac wedi gwrando ar yr ymatebion, y gallai fod manteision gweithio gyda Llywodraeth y DU i roi ein cynigion ar waith ar lefel Cymru a Lloegr. Rwyf wedi edrych ar amodau’r Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol drafft sy’n cael ei gyhoeddi gan y Swyddfa Gartref ac er fy mod yn cydnabod bod beiau i’w gweld yn y bil drafft, rwyf serch hynny yn credu y gallai fod yn gyfrwng defnyddiol i wireddu’n huchelgais. I’r perwyl hwn, rwyf am gael cytundeb y Swyddfa Gartref fod y bil, os caiff fynd yn ei flaen, yn rhoi pwerau gwneud rheoliadau i Gymru a fydd yn caniatáu i ni lywio’r ddeddfwriaeth arfaethedig mewn ffordd a fydd yn bodloni ein dau amcan ni ynghyd ag amcanion ehangach y Swyddfa Gartref. Rwyf felly wedi atal y gwaith ar Fil Rheoli Cŵn (Cymru) am y tro.

1

Wedi trafod â’r Swyddfa Gartref a Defra, mae hi bellach yn glir y gallai fod gwerth cydweithio. Bydd fy nhrafodaethau â Llywodraeth y DU yn parhau gyda golwg ar ystyried ai deddfwriaeth Senedd y DU fyddai’r cyfrwng gorau ar gyfer mynd â’r cynigion hyn yn eu blaen mewn ffordd ystyrlon. Byddwn yn parhau i weithio gyda Defra i sicrhau bod eu cynigion i ddiwygio’r Ddeddf Cŵn Peryglus yn cynnwys darpariaeth i’w gwneud yn drosedd i gŵn fod allan o reolaeth a pheryglus ar safle preifat a diogelu cŵn cymorth. Rwy’n cadw’r opsiwn i gyflwyno bil Cymru os na allwn ddod i gytundeb ar yr opsiynau deddfu a gynigir ar lefel y DU.