Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, mae’n bleser gen i gyflwyno Bil Rheoli Ceffylau (Cymru).

Mae Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) yn gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o gael gwared ar bori anghyfreithlon yng Nghymru.

Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad i geisio barn pobl ynghylch cael deddfwriaeth briodol yng Nghymru i ddatrys y broblem ‘pori anghyfreithlon’, fel y’i gelwir, ar draws Cymru. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 29 Ebrill 2013.  
 
Ym mis Gorffennaf cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grynodeb o 604 ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw. Roedd mwyafrif helaeth y rhai a ymatebodd o blaid cael deddfwriaeth i ddatrys y broblem.

Mae’r Bil hwn yn rhoi’r un pwerau cyfreithiol i bob awdurdod lleol yng Nghymru ymafael yn y ceffylau sy’n pori ar dir heb awdurdodiad cyfreithiol neu ganiatâd y meddiannydd. Bydd ganddynt yr hawl hefyd i gadw, gwerthu, gwaredu neu ddifa’r ceffylau hynny drwy ddulliau dyngarol, fel y bo’n briodol, ar ôl cyhoeddi hysbysiadau a chwrdd â therfynau amser penodol.

Mae’r awdurdodau lleol yn gweithio mewn partneriaeth i ymdrin â’r broblem hon, a hoffwn weld hynny’n parhau. Dim ond trwy gydweithio y gallwn ddileu’r broblem pori anghyfreithlon. Rwy’n ffyddiog y bydd y Bil Rheoli Ceffylau’n rhoi’r grymoedd newydd sydd eu hangen ar yr awdurdodau lleol i ddelio â’r broblem ac yn amddiffyn y choedd a’r amgylchedd rhag niwsans pori anghyfreithlon.