Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, 23 Chwefror 2015, cyflwynwyd Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (“y Bil”).
Y Bil yw’r cam nesaf o ran sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn gynaliadwy ac yn addas at y dyfodol. Bydd yn diwygio ac yn diweddaru’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd yn cefnogi’r newidiadau sy’n cael eu gwneud o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Mae’r Bil yn cynnig fframwaith deddfwriaethol syml a hyblyg ar gyfer darparu gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar safonau uchel ac annog gwella.
Diwygio a symleiddio rheoleiddio
Mae’r Bil hwn yn diwygio’r broses reoleiddio ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru. Bydd y system yn seiliedig ar wasanaethau rheoleiddiedig yn hytrach na sefydliadau ac asiantaeth, ar yr egwyddor y bydd gofyn i unrhyw sy’n darparu gwasanaeth rheoleiddiedig gofrestru’r gwasanaeth hwnnw yng Nghymru.
Atebolrwydd
Bydd y Bil yn rhoi cyfrifoldebau clir ar berchnogion gwasanaethau rheoleiddiedig yn eu rhinwedd fel darparwyr gwasanaethau rheoleiddiedig ac fel cyflogwyr yn y sector gofal a chymorth. Bydd enwebu ‘unigolyn cyfrifol’, a fydd angen cydymffurfio â gofynion ‘ffitrwydd i ymarfer’ penodol, yn gam tuag at sicrhau atebolrwydd corfforaethol ymysg darparwyr.
Gwella
Mae’r Bil yn gosod proses glir i’r rheoleiddiwr gwasanaethau weithio gyda darparwyr i sicrhau gwelliant. Mae’n rhoi pwerau mwy effeithiol i’r rheoleiddiwr weithredu yn gyflym ac yn bendant lle bernir nad oes modd atgyweirio gofal.
Gwybodaeth
Bydd y Bil hwn yn ei gwneud yn haws i gael gwybodaeth am ansawdd y gofal a ddarperir gan ddarparwyr gwasanaethau a lleoliadau unigol. Bydd hyn hefyd yn berthnasol yn achos perfformiad awdurdodau lleol o ran cyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.
Llesiant
Drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ceir ffocws ar ganlyniadau wrth ddarparu gofal a chymorth. Bydd y Bil hwn yn sicrhau bod hyn wedi’i ymgorffori yn y system reoleiddio.
Sefydlogrwydd y Farchnad
Mae’r Bil yn ei gwneud yn ofynnol o’r newydd i awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru ystyried a chyhoeddi adroddiadau ar sefydlogrwydd y sector gofal, nawr ac yn y dyfodol.
Y Gweithlu Gofal Cymdeithasol
Bydd y Bil yn diffinio’r drefn ar gyfer rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol. Bydd yn ailgyfansoddi Cyngor Gofal Cymru fel Gofal Cymdeithasol Cymru, a fydd yn gweithio i helpu i ddatblygu’r gofal cymdeithasol a gwella gwasanaethau fwyfwy.
Gweithio gyda’n gilydd
Bydd y Bil yn gosod pwerau i gyrff rheoleiddio rannu gwybodaeth i alluogi cydweithredu a chydweithio gwell.