Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Cafodd Bil Protocol Gogledd Iwerddon (y Bil) ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin ar 13 Mehefin gan yr Ysgrifennydd Tramor ar y pryd, y Gwir Anrhydeddus Liz Truss AS.
Cyflwynwyd y Bil heb unrhyw ymgysylltu ymlaen llaw â'r Llywodraethau Datganoledig ac mae'n cynnwys darpariaethau sy'n sbarduno’r broses cydsyniad deddfwriaethol.
Ysgrifennais at y Llywydd ar 27 Mehefin gan nodi, gan fu unrhyw ymgysylltu gan Lywodraeth y DU cyn cyflwyno’r Bil ac o ystyried cymhlethdod y materion a godir yn y Bil, na fyddai'n bosibl gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol o fewn yr amserlenni a neilltuir fel arfer i'r broses.
Fodd bynnag, mae fy mhryderon cychwynnol ynglŷn â dull gweithredu Llywodraeth y DU yn achos y Bil hwn yn parhau.
Mae sylwebwyr cyfreithiol amlwg wedi beirniadu defnydd Llywodraeth y DU o’r amddiffyniad ‘rheidrwydd[1]’ mewn cyfraith ryngwladol i gyfiawnhau’r hyn a fyddai, fel y mae hi ei hun wedi dweud, yn golygu peidio â chyflawni rhwymedigaethau rhyngwladol, pe bai'r Bil yn cael ei ddeddfu a'i weithredu. Yn wir, mae cyn-bennaeth Adran Gyfreithiol Llywodraeth y DU wedi’i ddisgrifio fel un "anobeithiol"[2].
Ar ben hynny, gallai argymhelliad gan Weinidogion Cymru y dylid cydsynio i’r Bil hwn godi cwestiynau am eu hymlyniad wrth God y Gweinidogion, a'r "ddyletswydd gyffredinol sydd ar y gweinidogion i gydymffurfio â'r gyfraith, gan gynnwys cyfraith ryngwladol a rhwymedigaethau mewn cytuniadau". Byddai hyn yn arbennig o berthnasol o ran arfer unrhyw bwerau i wneud rheoliadau (os cânt eu rhoi iddynt) o dan y Bil yn unol â rhwymedigaethau rhyngwladol.
Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y dylai Llywodraeth y DU aildrafod â’r Comisiwn Ewropeaidd i geisio datrysiad i faterion sy'n ymwneud â Phrotocol Gogledd Iwerddon. Mae o’r farn hefyd, os bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â'r Bil, y byddai risg o ddwysáu mesurau gan yr Undeb Ewropeaidd ynghyd â rhyfel masnach o bosibl. Nid yw hyn er lles busnesau a phobl Cymru sy'n dibynnu ar fasnach â’r UE. Ar adeg pan fo pobl eisoes yn wynebu caledi oherwydd effeithiau'r argyfwng costau byw, gallai gweithredoedd Llywodraeth y DU niweidio economi Cymru.
Oherwydd pryderon am resymeg sylfaenol y Bil, y pwerau eang y mae'n eu rhoi i Weinidogion y Goron a'r posibilrwydd o dorri cyfraith ryngwladol, mae Llywodraeth Cymru yn argymell na ddylai’r Senedd roi ei chydsyniad i’r Bil.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn wedi'i osod heddiw:
https://senedd.cymru/media/ttuhxzmk/lcm-ld15360-w.pdf
[1] Bil Protocol Gogledd Iwerddon: safbwynt cyfreithiol Llywodraeth y DU - GOV.UK (www.gov.uk)
[2] Jonathan Jones CB 13 Mehefin https://twitter.com/SirJJKC/status/1536417826034130945