Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyflwynodd Llywodraeth y DU Fil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus yn Nhŷ'r Cyffredin ar 13 Medi 2012, ac mae'n gobeithio cael Cydsyniad Brenhinol iddo erbyn mis Mai 2013.  

Mae’r Bil yn darparu ar gyfer cynlluniau pensiwn gwasanaethau cyhoeddus newydd o fis Ebrill 2015 a fydd yn seiliedig ar gyflogau ar gyfartaledd dros gyfnod gyrfa; yn cysylltu oedran pensiwn arferol ag oedran Pensiwn y Wladwriaeth; ac yn cyflwyno terfyn ar gostau cyflogwyr.

Mae mwyafrif helaeth y cynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn dod o dan ddarpariaethau'r Bil.  O ran pensiynau, mae cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyfyngedig i gynlluniau pensiwn ar gyfer Aelodau'r Cynulliad ac aelodau awdurdodau lleol. I fynd i'r afael ag effaith y Bil ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, cytunwyd ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ionawr 2013.

Mae'r Bil hefyd yn effeithio ar swyddogaethau gweithrediaeth Gweinidogion Cymru i sefydlu cynlluniau pensiwn ar gyfer diffoddwyr tân (sydd â dau gynllun pensiwn) ac ar gyfer aelodau Tribiwnlys y Gymraeg (sydd heb gynllun pensiwn ar hyn o bryd). Golyga darpariaethau'r Bil fod cynlluniau pensiwn a sefydlwyd o dan y pwerau gweithrediaeth hyn yn peidio â bod yn gymwys i wasanaeth pensiynadwy person ar ôl 5 Ebrill 2015. Wrth ddisodli, neu efallai ddiwygio'r cynlluniau presennol hyn (h.y. er mwyn bod yn berthnasol i wasanaeth pensiwn ar ôl 5 Ebrill 2015), byddai'n ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau fod y cynlluniau newydd neu ddiwygiedig yn cydymffurfio â gofynion y Bil. Rydym o'r farn fod yr angen am gydymffurfio â gofynion y Bil yn effeithio ar swyddogaethau gweithrediaeth Gweinidogion Cymru.

Barn Llywodraeth Cymru yw ei bod yn briodol fod darpariaethau'r Bil yn gymwys i swyddogaethau gweithrediaeth Gweinidogion Cymru yn achos y trefniadau pensiwn yn y dyfodol ar gyfer Diffoddwyr Tân ac aelodau Tribiwnlys y Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cydraddoldeb â darpariaethau pensiwn yn y sector cyhoeddus mewn mannau eraill yn y DU.