Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cafodd Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) ei osod heddiw.

Cyflwynwyd y Bil er mwyn gwella’r prosesau democrataidd mewn perthynas â llywodraeth leol, a gweithrediad y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn benodol. Gwneir hynny mewn ymateb i ganfyddiadau Adolygiad Mathias o broses adolygiadau etholiadol y Comisiwn, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2011.

Mae’r Bil yn gwneud darpariaeth ar gyfer: 

a)diwygio trefniadaeth a swyddogaethau’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru; 

b)addasu a chydgrynhoi’r darpariaethau cyfredol ar lywodraeth leol mewn perthynas â’r Comisiwn Ffiniau ac o ganlyniad hybu datblygiad Llyfr Statud Cymreig;

c)diwygio Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 mewn perthynas â chyfrifoldebau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a strwythur pwyllgorau archwilio’r awdurdodau lleol;

d)ei gwneud yn haws i’r cyhoedd gael gafael ar wybodaeth ynghylch cynghorau tref a chymuned;

e)diwygio Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i’w gwneud yn haws i awdurdodau lleol greu cydbwyllgorau safonau; a

f)galluogi’r cynghorau sy’n dymuno gwneud hynny i wahanu’r swyddogaethau seremonïol a dinesig sy’n gysylltiedig â chadeirydd y cyngor neu’r maer a’r rhai sy’n ymwneud â llywyddu cyfarfodydd y cyngor.

Byddaf yn gwneud datganiad deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn yfory er mwyn cyflwyno’r Bil.

Cyhoeddwyd ymgynghoriad Papur Gwyn o dan y teitl ‘Hybu Democratiaeth Leol’  i ymgynghori arno rhwng 17 Mai 2012 a 3 Awst 2012.

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi adroddiad cryno o’r ymatebion. Mae’r adroddiad hwn i’w weld ar wefan Llywodraeth Cymru drwy ddilyn y ddolen hon:

http://wales.gov.uk/consultations/localgovernment/promlocdemocracy/?skip=1&lang=en

Cyhoeddir pob un o’r 91 o ymatebion a ddaeth i law ar y wefan cyn bo hir.