Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Heddiw mae Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) wedi'i gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â'i Femorandwm Esboniadol a'i Asesiad Effaith Rheoleiddiol.
Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau sydd wedi bod yn destun ymgynghori helaeth. Mae'n cynnwys darpariaethau i hwyluso diwygio etholiadol ac yn sefydlu fframwaith llywodraethiant newydd ar gyfer llywodraeth leol.
Bydd y Bil yn ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed a dinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithiol yng Nghymru ar gyfer etholiadau llywodraeth leol; yn gwella prosesau ar gyfer cofrestru pleidleiswyr, ac yn diwygio'r rheolau ynghylch pwy sy'n cael sefyll fel ymgeisydd a phwy nad yw'n cael gwneud hynny. Bydd yn galluogi'r awdurdodau lleol i ddewis eu system bleidleisio ar gyfer etholiadau, a bydd yn rhoi cylch etholiadol llywodraeth leol ar gylch pum mlynedd.
Mae Llywodraeth Cymru'n newid y fframwaith llywodraethiant ar gyfer llywodraeth leol er mwyn hwyluso gwell arloesi, tryloywder a pherchnogaeth leol ar gyfer gwella canlyniadau darparu gwasanaethau a safonau ledled Cymru.
Bydd y Bil yn cyflwyno system newydd ar gyfer gwella perfformiad a llywodraethiant ar sail hunanasesiadau ac adolygiadau gan gymheiriaid, gan gynnwys cyfuno pwerau cymorth ac ymyrryd Gweinidogion Cymru. Cynhwysir pwerau i hwyluso uno gwirfoddol rhwng prif gynghorau ac ailstrwythuro prif ardal yn y Bil, os bydd eu hangen.
Un o brif argymhellion y Gweithgor ar Lywodraeth Leol oedd yr angen am fecanweithiau a strwythurau mwy cyson er mwyn cefnogi gweithio rhanbarthol a chydweithio. Bydd y Bil felly'n darparu i gydbwyllgorau corfforaethol gael eu sefydlu. Caiff y rhain eu ffurfio o blith aelodaeth yr awdurdodau lleol i sicrhau atebolrwydd democrataidd. Bydd yr awdurdodau lleol yn gallu gofyn eu bod yn cael eu sefydlu mewn perthynas ag unrhyw rai o'u swyddogaethau. Bydd Gweinidogion Cymru'n gallu eu sefydlu mewn nifer cyfyngedig o feysydd swyddogaeth a nodir yn y Bil.
Bydd y Bil hefyd yn darparu pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer prif gynghorau a chynghorau cymuned cymwys i'w galluogi i fanteisio ar ystod ehangach o ddewisiadau i weithio er lles gorau eu cymunedau.
Ymhlith mesurau eraill a gynhwysir yn y Bil sy'n anelu at gynyddu cyfranogiad y cyhoedd mewn democratiaeth leol a gwella tryloywder, bydd yn ofynnol i brif gynghorau baratoi, cyhoeddi ac adolygu ‘strategaeth cyfranogiad y cyhoedd’ ac ymgynghori arni. Bydd yn ofynnol iddynt hefyd gyhoeddi canllaw i'w cyfansoddiad yn egluro mewn iaith glir beth yw cynnwys eu cyfansoddiad.
Gwneir darpariaeth yn y Bil yn ymwneud ag arweinyddiaeth prif gynghorau, gan gynnwys hybu mwy o amrywiaeth ymhlith aelodau gweithrediaethau trwy hwyluso rhannu swydd a darparu ar gyfer cynorthwywyr i'r weithrediaeth.
Mae'r Bil hefyd yn cynnwys nifer o ddarpariaethau yn ymwneud â chyllid llywodraeth leol sy'n ymwneud â lleihau cyfleoedd ar gyfer ymddygiad osgoi talu mewn perthynas ag ardrethi annomestig a newidiadau i'r system dreth gyngor yng Nghymru.
Gan achub y cyfle a roddir gan y Bil, cynhwysir darpariaethau eraill sy'n ymwneud ag ystod o faterion a anelir at gryfhau a moderneiddio gweithrediad llywodraeth leol, megis rhannu gwybodaeth rhwng rheoleiddwyr, dileu pleidleisiau cymunedol a'u disodli â chynllun deisebu, trefniadau perfformiad a llywodraethiant ar gyfer awdurdodau tân ac achub, y broses o benodi prif weithredwr i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru a gwell hyblygrwydd i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.
Byddaf yn gwneud datganiad deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn yfory ac edrychaf ymlaen at ystyriaeth y Cynulliad o'r Bil dros y misoedd nesaf.