Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Ym mis Rhagfyr 2024 cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y Bil Lles Plant ac Ysgolion i Senedd San Steffan. Mae'r Bil, a oedd yn gymwys yn Lloegr yn unig pan gafodd ei gyflwyno, yn cynnwys ystod o ddarpariaethau sy'n ceisio cryfhau'r trefniadau diogelu presennol, codi safonau mewn addysg a hyrwyddo lles plant.
Er bod polisïau a phenderfyniadau addysg a gofal cymdeithasol wedi'u datganoli yng Nghymru, mae lles plant, diogelu ac amddiffyn hawliau plant flaenaf ar ein meddyliau ym mhob penderfyniad a wnawn. Dyma'r nodau craidd sy'n sail i'r darpariaethau yn y Bil, a phan fydd egwyddorion llywodraethau yn cyd-fynd ar faterion mor bwysig, mae'n hanfodol gweithio gyda'n gilydd i gyflawni'r canlyniadau a ddymunir.
O fewn y Bil mae cymalau sy'n ceisio cyflwyno dyletswyddau newydd a fydd yn cryfhau deddfwriaeth bresennol y Deyrnas Unedig sy'n ymwneud ag amddiffyn plant, plant nad ydynt yn yr ysgol, a gofal cymdeithasol plant. Mae'r rhain yn feysydd a fyddai'n elwa'n sylweddol o weld mesurau deddfwriaethol ychwanegol yn y ddwy wlad, a byddant yn cefnogi awdurdodau lleol a phartneriaid i gyflawni eu dyletswyddau diogelu. Os na fydd mesurau cyfatebol yn cael eu gweithredu yng Nghymru, byddai hyn yn arwain at lai o amddiffyniadau i'n plant na'u cymheiriaid yn Lloegr.
O gofio hyn, rydym wedi trafod y Bil gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac wedi gofyn i rai darpariaethau o fewn y Bil Lles Plant ac Ysgolion gael eu cymhwyso i Gymru yn yr un ffordd â Lloegr.
Y meysydd o fewn y Bil a fydd yn gymwys i Gymru yw'r rhai sy'n ymwneud â:
- Plant mewn llety diogel
- Estyn y drosedd o gam-drin plentyn gan weithiwr gofal i gynnwys pobl ifanc 16/17 oed
- Plant nad ydynt yn yr ysgol
Mae Cyfnod Pwyllgor y Bil wedi dod i ben ac mae gwelliannau i ymestyn y cymalau sy'n cwmpasu'r meysydd uchod i Gymru yn cael eu hystyried ar hyn o bryd yn y Cyfnod Adrodd.
Yn amodol ar gytundeb gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gellir cynnwys meysydd eraill o'r Bil yn nes ymlaen. Os bydd darpariaethau ychwanegol yn cael eu hymestyn i Gymru, bydd diweddariad pellach yn cael ei gyhoeddi.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am gynlluniau arfaethedig Llywodraeth Cymru. Bydd datganiad pellach yn amlinellu'r rhesymeg polisi dros geisio darpariaeth mewn perthynas â Chymru o'r Bil yn dilyn maes o law, wrth i drafodaethau gyda llywodraeth y Deyrnas Unedig fynd rhagddynt.
Mae manylion llawn y Bil ar gael ar y ddolen ganlynol: Bil Lles Plant ac Ysgolion - Biliau Seneddol - Senedd y DU