Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mehefin 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hanfod ein gweledigaeth ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru yw sicrhau hawliau i wneud yn siŵr bod gan bobl lais cryf a rheolaeth wirioneddol dros eu gofal a'u cymorth er mwyn i’w llesiant fod cystal â phosibl.

Mae llawer o bobl sy'n eirioli ar ran unigolion i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed, er enghraifft athrawon, gweithwyr cymdeithasol, nyrsys cymunedol, gofalwyr, cydweithwyr, teulu a chyfeillion.

Fodd bynnag, ar adegau bydd galluedd, amgylchedd neu amgylchiadau unigolion yn golygu nad ydynt yn teimlo bod ganddynt y grym i leisio'u barn i sicrhau eu bod yn ddiogel, neu bod ganddynt lais ynghylch y pethau sy'n bwysig iddyn nhw yn eu bywyd bob dydd, neu ynglŷn â ble i gael gafael ar ofal neu gymorth. Pan fydd hyn yn digwydd, mae'n hanfodol eu bod yn gallu troi at eiriolwr annibynnol a all eu cynrychioli a lleisio'u barn a'u dymuniadau yn rhydd ac yn uniongyrchol.

Mae Llywodraeth Cymru yn unigryw yn ein gwaith a'n haddewid i bobl Cymru i werthfawrogi hawliau unigolion ar gyfer y canlynol:

  • cael gwrandawiad;
  • cael eu parchu;
  • cael eu cymryd o ddifrif; a 
  • bod mewn rheolaeth.

Yr ethos a'r egwyddorion allweddol hyn sydd wrth wraidd ein holl bolisïau a’n rhaglenni.

Drwy Fil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), rydyn ni wedi datblygu hyn ymhellach drwy wneud sicrhau hawliau yn un o'r prif ofynion sy'n sylfaen i lesiant unigolyn.

Rydyn ni wedi cydnabod y rôl bwysig sydd gan eiriolwyr o ran cefnogi a helpu pobl ar adegau arbennig o anodd neu fregus, ac mae deddfwriaeth ar waith i sicrhau bod gan yr unigolion hyn hawl gorfodadwy i gael cynrychiolaeth. Mae hyn yn helpu i sicrhau: 

  • cymorth i blant sy'n derbyn gofal a phlant a phobl ifanc eraill sydd ag anghenion gofal a chymorth i leisio'u barn wrth wneud sylw neu gŵyn am y materion allweddol sy'n effeithio ar eu bywydau; 
  • cynrychiolaeth i blant a phobl ifanc mewn tribiwnlysoedd ac apeliadau ynghylch eu datganiad Anghenion Addysgol Arbennig;
  • bod pobl sydd heb alluedd i wneud hynny yn cael cymorth i wneud penderfyniadau gwybodus yn yr ysbyty ac yn y gymuned am eu gofal a'u triniaeth iechyd meddwl.

Mae'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn adeiladu ar yr hawliau hyn drwy sefydlu fframwaith newydd sydd:

  • yn cadw'r hawl sydd gan blant a phobl ifanc ar hyn o bryd o dan ddarpariaethau Deddf Plant 1989 i gael eiriolwr wrth wneud sylw neu gŵyn, ac yn ymestyn y fframwaith newydd i helpu oedolion wrth iddynt wneud cwyn am un o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol; ac 
  • yn sicrhau y gall pobl gael gwybodaeth, cyngor a chymorth am eu gofal, a chymorth i wneud penderfyniadau gwybodus. Mae'n rhaid bod pawb yn gallu defnyddio'r gwasanaeth hwn a'i fod yn cael ei ddarparu mewn ffordd sy'n gweddu i amgylchiadau unigol. Rhaid bod hyn yn cynnwys: sut i gael mynediad, pa wasanaethau sydd ar gael, cyngor ariannol (gan gynnwys pa gymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer eu gofal), a sut i fynegi pryder am eu diogelwch a'u lles nhw neu rywun arall.

Hefyd bydd y dyletswyddau newydd:

  • yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi cymorth. Yn achos rhai pobl, er enghraifft sydd ag anawsterau cyfathrebu neu eraill, bydd hyn ar ffurf trafodaeth wyneb yn wyneb i roi cyngor a chymorth ar gyfer defnyddio gwasanaethau lleol. Gallai hyn hefyd fod ar ffurf atgyfeiriad gan weithiwr cymdeithasol at asesiad cynhwysfawr pan fydd angen ymyrraeth fwy dwys.

Diben elfen “gymorth” y dyletswyddau statudol newydd o ran Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn y Bil fydd caniatáu eiriolwr ar ran yr unigolion hynny sydd angen cefnogaeth o'r fath. Bydd ein disgwyliadau ar y gwasanaeth, gan gynnwys y rôl cynorthwyo pobl i gael gofal a chymorth, yn cael eu nodi'n glir yn y Cod Ymarfer ategol.

Fel Llywodraeth sy'n gwrando, rydyn ni wedi clywed y sylwadau ac wedi ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd gan sawl un ynghylch rôl bwysig eirioli a'r angen i hyn fod ar gael mewn mwy o amgylchiadau nag sy'n digwydd ar hyn o bryd. Mae'r adroddiadau gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Age Cymru - Pwysigrwydd Eiriolaeth, Comisiynydd Plant Cymru – Lleisiau Coll, ac adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Ofal Preswyl i Bobl Hŷn yng Nghymru, yn ogystal â chraffu cynhwysfawr ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) gan randdeiliaid allweddol, yn amlinellu dadl gymhellgar bod amgylchiadau lle byddai eiriolwr annibynnol yn gwneud cyfraniad sylweddol i helpu unigolyn wrth wneud penderfyniadau am eu gofal. Mae hyn yn galluogi unigolion i leisio barn a chymryd rheolaeth i sicrhau bod eu llesiant cystal â phosibl.  
Rwyf wedi ystyried y dystiolaeth yn ofalus ac wedi fy narbwyllo gan y sylwadau hynny. Rwy'n falch o gyhoeddi heddiw mai fy mwriad yw cyflwyno gwelliannau'r Llywodraeth i'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i ddatblygu'r ddarpariaeth eirioli statudol ymhellach. Yn arbennig, rwy’n bwriadu cynnwys darpariaeth:

  • ar gyfer rheoliadau i roi dyletswyddau ar awdurdodau lleol i ddarparu eiriolaeth mewn amgylchiadau penodol, er enghraifft pobl ag anghenion cymhleth sydd efallai heb y gallu na’r rhwydweithiau teuluol neu gymunedol ehangach i eirioli ar eu rhan mewn penderfyniadau am eu gofal;
  • ar gyfer rheoliadau i'w gwneud yn ofynnol bod eiriolaeth annibynnol yn cael ei chynnig i bobl lle mae'r awdurdod lleol yn ymchwilio i bryder ynghylch risg neu gam-drin;
  • ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol hyrwyddo a hysbysu pobl am eu hawl i gael eiriolaeth, gan gynnwys hunan-ariannwyr;
  • ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr cartrefi gofal cofrestredig hysbysu pobl yn eu gofal am y gwasanaethau eirioli y mae'r awdurdod lleol yn eu darparu.

Mae'r newidiadau pellach hyn rwy'n eu hystyried yn pwysleisio'r pwysigrwydd i Lywodraeth Cymru o ran sicrhau bod y rheini sydd fwyaf mewn angen ac sy'n wynebu cyfnodau anodd yn cael eu cefnogi i wneud penderfyniadau am eu gofal. Mae pŵer i wneud rheoliadau yn cynnig fframwaith statudol i'n galluogi i brawfesur ein hymatebion dros gyfnod yn ôl gwahanol amgylchiadau ac felly sicrhau bod gan bobl lais cryf a rheolaeth wirioneddol.

Fel y nodir yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy: Fframwaith Gweithredu ac er mwyn sicrhau bod momentwm o ran bwrw ymlaen â’n hymrwymiad i ddatblygu achos busnes manwl i roi opsiynau i ni ar gyfer ehangu eiriolaeth yn raddol ac yn fforddiadwy yn y dyfodol, mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi sefydlu grŵp gorchwyl ar eiriolaeth, ac wedi cytuno i'w gadeirio. Rwy'n ddiolchgar i'r Comisiynydd am ei harweiniad ar hyn a'r gwaith y bydd ei swyddfa'n ei wneud yn y maes hwn. Rwyf hefyd wedi gofyn i’r Grŵp Gorchwyl weithio’n agos gyda’r Grŵp Cynghori Arbenigol ar Eiriolaeth sydd wedi’i sefydlu ar y cyd gennyf i a’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi. Gofynnwyd i’r Grŵp Arbenigol ystyried rhai o’r materion ynghylch y ddarpariaeth eirioli ar gyfer plant a phobl ifanc, a bydd angen ystyried ei waith pwysig a gwaith y Grŵp Gorchwyl yn ofalus gyda’i gilydd. Byddaf i a’r Gweinidog yn gwneud datganiadau pellach am waith y Grŵp Arbenigol maes o law. Felly bydd gan y Grŵp Gorchwyl a’r Grŵp Arbenigol rôl allweddol o ran llunio'r polisi ar gyfer gwneud rheoliadau yn y dyfodol o ran y Fframwaith Eirioli, a byddaf yn hysbysu Aelodau'r Cynulliad am y cynnydd diweddaraf.  

Rwy'n gwybod y bydd Aelodau'r Cynulliad ac eraill yn croesawu'r datganiad hwn yn wresog, ond y byddant hefyd yn cytuno â mi na fydd deddfwriaeth yn unig yn gwireddu'n gweledigaeth ar gyfer Cymru gynhwysol sy'n rhoi'r grym i bawb leisio barn a chael rheolaeth ar eu gofal. Mae gan weithwyr proffesiynol ac eraill ar draws pob sector gofal (nid dim ond eiriolwyr) rôl hollbwysig i'w chwarae o ran hyrwyddo ac ymateb yn well i sicrhau bod safbwyntiau a dymuniadau pobl yn cael eu clywed mewn gwaith o ddydd i ddydd. I grynhoi, mae eirioli ar ran y bobl sydd angen gofal a chymorth yn rhywbeth y mae angen i bob un ohonom ei ysgwyddo yn ein rolau mewn bywyd gyda theulu, cyfeillion a chymuned, ac yn ein bywydau proffesiynol.