Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn fy llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol dyddiedig 20 Mai, ac wrth ymddangos gerbron y Pwyllgor ar 6 Mehefin, ymrwymais i gyflwyno rhagor o wybodaeth am ddarparu gwasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar.

Fel y dywedais wrth gyflwyno trafodaeth Cyfnod 1 ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), mae atal yn ganolog i’n rhaglen o weddnewid gwasanaethau cymdeithasol. Dyna pam  mae’r Bil yn rhoi dyletswyddau ar awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau ataliol ac yn cynnwys amrywiaeth o fesurau eraill i alluogi awdurdodau lleol i arwain yr agenda atal, a’i gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny. Wrth wneud hynny, rwy’n disgwyl iddynt weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys byrddau iechyd lleol.

Er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer pobl, eu cynorthwyo i gyfrannu’n uniongyrchol at eu llesiant eu hunain a lleihau neu ohirio’r angen i ymyrryd, mae’n rhaid i ni greu system sy’n seiliedig ar y dull gweithredu hwn ac yn canolbwyntio ar ddinasyddion. Rydym wedi datblygu ein syniadau dros y blynyddoedd diwethaf ar sail yr argymhellion a wnaed yn Gweithredu’r Weledigaeth, adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Wasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru, a’n strategaeth yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu.

Mae’n rhaid i ni gryfhau’r elfennau atal sydd eisoes ar waith mewn rhaglenni a gwasanaethau, gan ddatblygu ac ehangu’r sylfaen weithgareddau er mwyn sicrhau bod gwasanaethau ar gael pan fydd pobl eu hangen.

Yn yr adroddiad a gyhoeddwyd ar y cyd ym mis Medi gan CLlLC a Chydffederasiwn y GIG, sef Transitional and longer-term implications of the Social Services and Well-being (Wales) Bill 2013, cydnabu’r ddau sefydliad y bydd rhaglenni atal ac ymyrryd yn gynnar yn gwneud cyfraniad allweddol at sicrhau canlyniadau gwell a lleihau’r galw am ofal acíwt a gofal amgen diangen.

Rwy’n gwybod bod pawb yn cytuno bod rhaid i ni ganolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn gynaliadwy yn y dyfodol. Rwy’n gwerthfawrogi’r ymateb a’r gydnabyddiaeth gadarnhaol gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac eraill ynglŷn â chyfraniad gwasanaethau ataliol at lesiant pobl ag anghenion gofal a chymorth.

Mae Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn darparu’r fframwaith cyfreithiol i sicrhau’r newid hwn i’r system a newid y cydbwysedd o ran sut rydym yn ceisio diwallu anghenion ar lefel unigol ac ar draws y boblogaeth. Rwyf am ddatgan yn gwbl glir nad oes modd darparu gwasanaethau atal yn ôl disgresiwn. Mae’n ofyniad statudol.

Bydd yr elfennau allweddol canlynol yn sylfaen i’r dull gweithredu ataliol: 

  1. dyletswyddau newydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i gydweithio er mwyn asesu anghenion poblogaeth pobl o bob oed, gan gynnwys gofalwyr, ac asesu ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu’r anghenion hynny;  
  1. dyletswyddau newydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i asesu ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i atal, gohirio neu leihau anghenion gofal a chymorth pobl;
     
  2. dyletswyddau newydd ar awdurdodau lleol i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau ataliol ar gyfer pobl;  
     
  3. drwy fy niwygiadau, dyletswyddau ar awdurdodau lleol i asesu a yw gwasanaethau ataliol yn gallu diwallu anghenion dynodedig. 

Mae’r elfennau a nodais yn gonglfaen yr agenda atal. Mae’r dyletswyddau a nodir yn adran 5 y Bil yn cynnwys materion sydd eisoes yn cael eu cynnwys mewn deddfwriaeth bresennol, fel Deddf Plant 2004.

Mae’r ddeddfwriaeth honno wedi bod yn sylfaen i ddarparu gwasanaethau ataliol ar gyfer plant dros nifer o flynyddoedd, ac mae’r maes hwn wedi datblygu’n sylweddol. Mae rhaglenni blaenllaw fel ‘Dechrau’n Deg’ a ‘Teuluoedd yn Gyntaf’ yn enghreifftiau o’r hyn y gellir ei wneud. Rydym yn gwybod bod atal ac ymyrryd yn gynnar yn hollbwysig i gefnogi teuluoedd yn llwyddiannus, yn enwedig teuluoedd ag anghenion cymhleth. Mae cydweithredu rhwng yr ysgol, sefydliadau cymunedol, yr heddlu a gweithwyr cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Bellach rydym yn cynnwys ein disgwyliadau ar gyfer oedolion a gofalwyr mewn deddfwriaeth, a dyma un o’r meysydd sy’n cynrychioli’r newid o ddulliau gweithredu traddodiadol.

Bydd y gwaith o asesu anghenion a darparu gwasanaethau yn cael ei gwblhau yn unol â rheoliadau Gweinidogion Cymru.

Mae’r dyletswyddau i asesu’r boblogaeth yn bwerus ac yn fanwl, ac mae angen dadansoddiad llawn o anghenion y boblogaeth. Bydd yr asesiad hwn – a gynhelir ar y cyd gan yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd lleol – yn llywio’r dull atal cyffredinol yn y gymuned leol, yn enwedig y dyletswyddau newydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod ystod lawn o wasanaethau ataliol ar gael. Mae hyn yn datblygu dyletswydd gyffredinol yr awdurdod lleol i hyrwyddo llesiant cymunedol, gan ddefnyddio ymrwymiad ei bartneriaid, ei gymunedau a’i ddinasyddion i wneud hynny.

Bydd angen, felly, i’r awdurdod lleol cyfan, ei bartneriaid iechyd, ei bartneriaid statudol eraill, y trydydd sector a’r sector annibynnol gydgynllunio a chydweithio er mwyn ymateb i’r angen am gymorth ataliol ymysg y boblogaeth leol. Bydd angen iddynt ystyried sut y gall eu cyfraniadau gyfuno i gefnogi dinasyddion. Mae’r dull cydweithredol hwn yn allweddol i sicrhau darpariaeth lwyddiannus.

Er mwyn gwneud hyn yn llwyddiannus, mae’n rhaid i awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd a’u partneriaid allu cyfathrebu’n uniongyrchol â’u poblogaeth leol. O ganlyniad, bydd y broses gynllunio hon yn cryfhau dulliau cydweithredol o ddarparu gwasanaethau drwy ymgysylltu â dinasyddion er mwyn diffinio pa wasanaethau a ddylai fod ar gael, a llunio’r math o wasanaethau a fydd yn helpu i atal eu hanghenion rhag datblygu neu ddwysáu.

Fel arfer mae pobl yn gwybod beth sy’n mynd i’w helpu. Rwyf wedi sôn yn aml am bwysigrwydd sicrhau bod ‘ychydig o gymorth’ ar gael i bobl. Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd, mae’n rhaid i ni fanteisio ar wybodaeth a phrofiad pobl sy’n defnyddio gwasanaethau ar hyn o bryd, a’u teuluoedd, yn ogystal â deall disgwyliadau’r rhai a fydd angen gwasanaethau yn y dyfodol o bosibl.

Rydym i gyd wedi cytuno nad oes angen cynnwys diffiniad manwl o wasanaethau ataliol ar wyneb y Bil a bod angen osgoi cyfyngu ar hyblygrwydd ac arloesedd lleol a allai ddeillio o hyn.

Rwy’n cydnabod bod rhai pobl wedi mynegi rhai pryderon y gallai uno deddfwriaeth mewn model sy’n seiliedig ar bobl amharu ar agweddau ar y ddarpariaeth bresennol ar gyfer plant. Fodd bynnag, fel yr wyf wedi nodi’n glir yn fy nhystiolaeth, mae’r Bil yn atgynhyrchu elfennau allweddol o’r ddeddfwriaeth bresennol, yn cynnwys Deddf Plant 1989. O safbwynt gwasanaethau ataliol, mae’r model a ddatblygwyd gennym yn pwyso’n drwm ar elfennau plant mewn angen a llesiant Deddfau Plant 1989 a 2004. Nid yw hawliau plant wedi lleihau o gwbl yn y Bil. Rwy’n fodlon bod y meysydd atal hanfodol wedi’u hatgynhyrchu, ac y bydd y rhestr o ddibenion ar wyneb y Bil, ynghyd â’r amgylchedd ehangach y bydd dyletswydd ar bartneriaid i gydweithredu yn ei gylch, gan gynnwys gweithio yn unol â’r diffiniadau o lesiant a dull gweithredu sy’n seiliedig ar ganlyniadau, yn darparu ar gyfer yr ystod lawn o anghenion a ddiffiniwyd yn flaenorol. Byddaf yn manylu ar yr agwedd hon yn fy natganiad ysgrifenedig ar Ofal Cymdeithasol Plant, a gyhoeddir maes o law.

Rwyf hefyd wedi cydnabod yr angen i sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar wybodaeth am wasanaethau ataliol fel rhan o’r dyletswyddau newydd yn ymwneud â gwybodaeth, cyngor a chymorth. Mae’r diwygiadau a gyflwynais i’r broses asesu yn cryfhau’r dull gweithredu ymhellach drwy sicrhau bod cyfraniad gwasanaethau ataliol yn cael ei ystyried yn y cyfnod hwnnw a chyn ystyried cymhwysedd. O ganlyniad i hyn, rwy’n credu y bydd llawer mwy o bobl yn defnyddio gwasanaethau ataliol.

Mae awdurdodau lleol eisoes ar y llwybr i ddarparu’r ystod o wasanaethau cymunedol sy’n llwyddo i ymyrryd yn gynnar, i rwystro anghenion rhag dwysáu neu’n atal anghenion. Mae enghreifftiau’n cynnwys gwasanaethau ail-alluogi cymunedol a chymorth i wella sgiliau rhianta drwy’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf.

Mae cyfraniadau sefydliadau’r trydydd sector yn dangos hyn yn glir, ac yn cynnwys tystiolaeth o weithgareddau a gwasanaethau y mae pobl hŷn yn ymwneud â nhw sy’n hyrwyddo rhyngweithio cymdeithasol, ymgysylltu ac ymarfer corff. Gellir ystyried pob un o’r rhain yn ymyriadau ataliol. Rwy’n gwerthfawrogi cyfraniadau o’r fath, y ffaith eu bod yn brawf bod gweithgarwch ataliol ar waith, a’r manteision sy’n deillio ohonynt.

Mae’n rhaid i ni symud y gwaith hwn ymlaen i’r lefel nesaf. I wneud hyn, bydd angen addasu syniadau cyfredol, canolbwyntio ar elfennau ataliol darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus sydd eisoes yn bodoli a nodi’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd. Mae rôl y cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol yn ganolog i hyn, ac mae’n cynnwys arweiniad a galluogi cydweithrediad ledled gwasanaethau’r awdurdod lleol, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus, ar sail yr asesiad o anghenion a chydgynllunio.

Byddaf yn defnyddio’r Cod(au) a’r Rheoliadau a fydd yn cael eu llunio o dan y Bil i ddarparu arweiniad a strwythur ar gyfer y gwaith hwn ac yn nodi’r hyn sy’n cael ei ystyried yn wasanaethau ataliol. Mae fy swyddogion wrthi’n paratoi’r trefniadau ar gyfer cam nesaf y broses, sy’n cynnwys sut y gallwn ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau, fel rhan o’r gwaith manwl hwnnw.

Bydd datblygu gwasanaethau ar sail dibenion cyffredin a chanolbwyntio ar ganlyniadau yn helpu i gyflawni ein huchelgais, ond bydd angen i ddarparwyr feddwl a gweithredu’n wahanol ac ymgysylltu â’r poblogaethau y maent yn eu gwasanaethu, gan gynnig arweiniad effeithiol ar draws y gwasanaethau.

Drwy wneud hyn byddwn yn sicrhau bod pobl yn parhau i reoli eu bywydau ac yn cael eu galluogi i fyw eu bywydau mor annibynnol â phosibl. Drwy wneud hyn byddwn yn sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.