Gwenda Thomas AM, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Pan ymddangosais gerbron y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 6 Mehefin, ac mewn cyflwyniad ysgrifenedig i’r Pwyllgor Cyllid y mis diwethaf, rhoddais ymrwymiad i wneud Datganiad Ysgrifenedig ar gyllid ar gyfer Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) cyn y toriad.
Fel y bydd Aelodau’r Cynulliad ac Arweinwyr yr Awdurdodau Lleol yn gwybod, yn ystod y tri Setliad diwethaf gan Lywodraeth Leol mae arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau Cymdeithasol sy’n gyfwerth ag 1% yn uwch na’r codiad cyffredinol yng nghyllideb Llywodraeth Leol Cymru wedi’i gynnwys yn y Grant Cynnal Refeniw.
Er hynny, gan fod y dystiolaeth yn dangos nad yw’r model presennol o ddarparu gofal cymdeithasol yng Nghymru bellach yn gynaliadwy, a chan ei bod yn fwyfwy amlwg y bydd y gostyngiadau i gyllideb Llywodraeth Cymru yn y blynyddoedd i ddod yn parhau i osod cryn bwysau ar yr ystod lawn o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, mae’n glir na allwn fuddsoddi ar yr un lefel ag yn ystod y blynyddoedd blaenorol. Rhwng 2010-11 a 2014-15 mae cyllideb refeniw’r Cynulliad wedi cael ei thorri £1 biliwn mewn termau real. Nid yw ceisio diogelu’r elfen ar gyllideb gyffredinol sy’n ymwneud â Gwasanaethau Cymdeithasol pan fo’r gyllideb gyffredinol honno’n gostwng yn ateb hirdymor hyfyw. Deddfu ar gyfer newid o ran sut rydym yn cyflenwi gwasanaethau yw’r unig ffordd ymlaen a’r unig ffordd a fydd yn sicrhau y gall Llywodraeth Cymru barhau i fodloni ei dyletswydd gofal tuag at rai o’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
O ran y pwysau hyn y gwir amdani yw nad oes rhagor o arian ar gael ac rwyf wedi ceisio gwneud hyn yn glir sawl tro. Mae Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i’r heriau a danlinellir gan y Papur Gwyn ar Wasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, a gyhoeddwyd yn 2011 ac mae’n cydnabod mai newid yw’r allwedd i sicrhau sylfaen fwy cynaliadwy ar gyfer y sector.
Beth y mae hyn yn ei olygu yw bod rhaid i bob un ohonom - o’r Llywodraeth i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen fod yn barod i feddwl yn wahanol am sut y mae gwasanaethau’n cael eu comisiynu a’u darparu. Mae angen meddwl am sut y gallwn ailailinio’r arian presennol â’r dyletswyddau a’r blaenoriaethau newydd a nodir o dan y Bill.
Bydd penderfynu sut yr awn ati i wneud hyn - beth yr ydym yn ei gadw, yn ei newid a pha drefniadau a sefydlwn i gydweithio yn fwy effeithiol ar draws y sector cyhoeddus, yn arbennig iechyd a gofal cymdeithasol - yn cynnwys penderfyniadau anodd yn awr ac yn y tymor hwy. Bydd y cynllun gweithredu a’r bwriad polisi ar gyfer rheoliadau’n ein helpu i wneud y penderfyniadau hyn a dyna paham yr wyf wedi gwneud ymrwymiad i wneud gwaith yn y meysydd hyn ochr yn ochr â hynt y Bil.
Rwyf yn ffyddiog y gallwn ymateb i’r her hon gan fy mod i wedi gweld, trwy Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol, lawer o enghreifftiau o’r ymrwymiad i wella gwasanaethau – a thrwy hynny bywydau – pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth. Rwyf hefyd yn hyderus oherwydd fy mod eisoes yn gweld gwaith sy’n dangos i ba gyfeiriad y mae angen i ni fynd ar draws y sector o dan y Bil hwn.
Un enghraifft yw mynd ati’n raddol i gyflwyno Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd (IFSS) sy’n darparu cymorth dwys i deuluoedd cymhleth ac sy’n anelu at gadw teuluoedd gyda’i gilydd trwy eu helpu i gymryd camau cadarnhaol i newid a gwella eu bywydau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £4.5m i weithredu a darparu’r gwasanaeth a fydd yn cwmpasu Cymru gyfan erbyn diwedd eleni. Mae gwerthoedd craidd IFSS - cydnabod pobl fel rhan o deuluoedd, canolbwynt ar sicrhau integreiddio gwell, meithrin ymddiriedaeth rhwng y rhai y mae arnynt angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol medrus, a chynnig gwasanaethau mewn ffordd lle caiff pobl eu gwerthfawrogi a lle caiff eu llais ei glywed - yn adlewyrchu’n uniongyrchol y gwerthoedd yr ydym yn ceisio eu hymestyn i rannau eraill o’r sector trwy’r Bil. Trwy’r darpariaethau ar gyfer datblygu trefniadau partneriaeth bydd y Bil yn fodd i ni wneud mwy o’r math hwn o waith.
Mae enghreifftiau pellach i’w cael yn y prosiectau a ariennir gan y Gronfa Cydweithredu Rhanbarthol. Rwyf wedi dweud cyn hyn mor falch ydwyf o’r syniadau blaengar y mae’r Gronfa hon wedi’u hwyluso. Teimlaf hefyd fod y gwaith a wnaed gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSSC) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wrth ddatblygu cynllun gweithredu gan Lywodraeth Leol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru wedi bod yn allweddol o ran cynnig cyfle i ddatblygu’r prosiectau cydweithredol hyn. Dyma dystiolaeth gadarn o arweiniad effeithiol a llwyddo i sicrhau newid.
O ganlyniad i’r Gronfa mae gennym brosiectau bellach megis Canolfan Diogelu Amlasiantaeth Gogledd Cymru, sy’n anelu at wella cyfathrebu a chydweithredu rhwng gwasanaethau oedolion a phlant yn ogystal â’r Prosiect Integreiddio Gofal Cymdeithasol Oedolion ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n ail-ddylunio modelau presennol gofal cymdeithasol a gofal iechyd i'r grwpiau allweddol o’r boblogaeth gan gynnwys pobl hŷn.
Mae’r prosiectau hyn, ynghyd ag eraill, yn cyflawni arloesi oherwydd y £10m a roddwyd i mewn i’r Cronfa Cydweithredu Rhanbarthol i roi hwb i gydweithredu ym maes gwasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn ffordd o fuddsoddi mewn newid sydd â chefnogaeth draws-lywodraethol ac sydd wedi caniatáu i’r awdurdodau lleol gael gafael ar gymorth ariannol yn sail i’w syniadau am newid. Yr her i ni felly yw defnyddio mentrau o’r fath gan gynnwys Buddsoddi i Arbed (sy’n arian ysgogi sy’n sail i arloesi a gweddnewid), fel sbardun i ymchwilio i ddulliau newydd o gyflenwi gwasanaethau. Gwyddom eisoes er enghraifft fod prosiectau Buddsoddi i Arbed ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn elwa ar fuddsoddiad o £13.2 miliwn.
Mae angen hefyd i ni nodi ble y gallwn roi’r gorau i weithredu neu gyflenwi mewn meysydd nad ydynt bellach yn gydnaws â’n cyfeiriad neu sydd wedi’u disodli gan y Bil. Unwaith eto, mae gennym brofiad da o wneud hyn trwy’r £4.5m a roddwyd i’r Awdurdodau Lleol trwy’r Grant Cynnal Refeniw i helpu i dalu beichiau ychwanegol Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008. A ninnau wedi cytuno i fynd ati’n raddol i roi’r ddeddfwriaeth honno ar waith dros dair blynedd (2009/10 - 2011/12) ac ar ôl gwneud cynnydd da hyd at Ebrill 2011, penderfynwyd gohirio trydydd cam ei rhoi ar waith. Y rheswm dros hyn oedd y byddai’n golygu cydgrynhoi rheoliadau a fyddai’n ganolog i Fil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Yn sgil y penderfyniad hwn bu modd i gyfran o’r arian gael ei chadw gan yr Awdurdodau Lleol er mwyn gwrthbwyso beichiau’r dyfodol a fyddai’n codi wrth weithredu Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mewn amgylchedd o gwtogi ar adnoddau dyma’r mathau o benderfyniadau clir ar flaenoriaethau y mae angen i ni fod yn fodlon eu cymryd gyda’n gilydd.
Mae angen cyd-ddealltwriaeth dda hefyd o faint yr her sydd o’n blaenau ni a’r manteision posibl y gellir eu gwireddu. Dyna paham yr oeddwn yn falch o gyfarfod â’r Sefydliad Gofal Cyhoeddus yng Nghynhadledd Genedlaethol Gwasanaethau Cymdeithasol ADSS Cymru y mis diwethaf ac i ddysgu mwy am y gwaith y maent yn ei wneud ar ran CLlLC a Chymdeithas Trysoryddion Cymru. Mawr obeithiaf y bydd yr adroddiad hwn yn cyfrannu at y ffordd y byddwn yn dadansoddi cyfleoedd a manteision posibl yn ogystal â’r costau trosiannol interim er mwyn i ni gael darlun llawn o effaith y ddeddfwriaeth hon.
Mae’r rhaniad rhwng costau hirdymor ac arian trosiannol yn rhaniad yr wyf wedi tynnu sylw ato nifer o weithiau yn ystod y cyfnod craffu o dan Ran 1. Rwyf wedi bod yn glir o ran fy ymrwymiad i gefnogi’r awdurdodau lleol wrth iddynt symud at y trefniadau newydd. Nododd y Memorandwm Esboniadol a oedd ynghlwm wrth y Bil pan gafodd ei gyflwyno y byddai’r cymorth hwn yn cynnwys arian. Hoffwn rannu rhai o’r datblygiadau diweddaraf â chi.
Yng Nghynhadledd ADSSC ar 27 Mehefin Cyhoeddais y caiff £1.5m o’r gyllideb Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy ei ddosbarthu yn uniongyrchol i’r awdurdodau lleol y flwyddyn ariannol hon. Caiff yr arian hwn ei neilltuo a’i ddefnyddio i gefnogi meithrin gallu ar lefel leol, ac mae’r awdurdodau lleol a’u partneriaid wedi’i gwneud yn glir y byddent yn croesawu hyn. Mae’n ychwanegol at y cyllid a roddwyd eisoes i’r Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol (SSIA) i ddatblygu gweithredu Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy gan lywodraeth leol. Mae trafodaethau pellach â CLlLC ac ADSS Cymru ynghylch ar y mecanweithiau mwyaf priodol ar gyfer dosbarthu’r arian yn digwydd, ond rwyf yn disgwyl i hyn fod ar ffurf cynllun grant wedi’i dargedu gan ddefnyddio ôl troed gwasanaethau cyhoeddus yn sylfaen.
Mae diben y cynllun hwn yn glir. Bwriedir iddo feithrin y gallu lleol angenrheidiol i gefnogi’r agenda ar gyfer gweddnewid a nodir mewn gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy ac i baratoi am y trefniadau deddfwriaethol newydd a nodir ym Mil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a chefnogi’r broses o symud atynt. Yn hollbwysig, mae’r nod olaf hwn yn cynnwys cyd-ddylunio rheoliadau craidd a Chodau Ymarfer - rhai o feysydd allweddol gweithio mewn partneriaeth os bwriedir i ni gyflwyno Bil sy’n bodloni amcanion polisi'r Llywodraeth mewn ffordd y gellir ei chyflawni’n lleol.
Dyna paham y mae arweiniad ar lefel leol yn hanfodol. Bydd sicrhau’r capasiti cywir o ran arwain tîm ym mhob ardal ôl troed a rhoi hwb i’r rhaglen newid gyda phartneriaid o gyrff eraill, gan gynnwys y GIG, yn flaenoriaeth o dan y grant. Yn yr un modd bydd creu’r seilwaith i gynnal rhaglen o newid hyd at 2016 yn flaenoriaeth hefyd. Hon yw conglfaen gwireddu ein gweledigaeth ar draws Cymru a’r hyn yr ydym yn ei adeiladu yma yw model hirdymor ar gyfer dosbarthu arian. Rhoddaf yr wybodaeth ddiweddaraf i chi ar y gwaith hwn wrth iddo symud ymlaen.
Nid dyma’r unig faes lle rydym wedi darparu arian i hwyluso’r cyfnod pontio. Rwyf bellach wedi cytuno ar gyfanswm o £622,000 yn y flwyddyn ariannol hon i gefnogi’r agenda ddiogelu ac i gryfhau ymhellach y trefniadau amlasiantaeth i ddinasyddion er mwyn sicrhau eu bod yn rhydd rhag cae eu hecsbloetio a’u cam-drin. Mae hyn yn cynnwys gwaith i gryfhau’r dull gweithredu cenedlaethol o ddiogelu ac amddiffyn plant sydd wedi’u hesgeuluso yn ogystal ag arian ar gyfer y Panel Datblygu Arbenigol Diogelu ac Amddiffyn a fydd yn darparu cyngor ar y trefniadau diogelu ac amddiffyn yn y dyfodol i blant ac oedolion wrth iddynt gael eu datblygu trwy Reoliadau a Chodau ymarfer.
Yn yr un modd, ym mis Ebrill eleni trefnwyd bod £50,000 ar gael yn uniongyrchol i ADSS Cymru i gomisiynu adnoddau i ddatblygu cynlluniau am Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ymhellach. Mae hyn yn dilyn y sêl bendith a roddwyd i fodel swyddogaethol gan y Grŵp Cynghori Arbenigol Mabwysiadu a’r gydnabyddiaeth y byddai angen capasiti ychwanegol i weithio trwy rai o’r manylion cyn ei roi ar waith. Bydd yr arian hwn bellach yn galluogi ADSS Cymru i gyflawni nifer o dasgau allweddol gan gynnwys nodi’r cydrannau busnes craidd y mae eu hangen ar y gwasanaeth a datblygu fframwaith perfformiad cenedlaethol. Caiff adroddiad ei gyflwyno wedyn i Lywodraeth Cymru ym mis Awst fel y gellir cytuno ar y camau nesaf.
Mae ein gallu i sicrhau’r newid o genhedlaeth i genhedlaeth sy’n ofynnol o dan y Bil hwn o ran cyflenwi gwasanaethau yn dibynnu ar sicrhau bod pawb sy’n cymryd rhan mewn gwaith cyflenwi yn meddu ar y sgiliau y mae arnynt eu hangen. Ni ddylem danbrisio felly, bwysigrwydd y gofynion hyfforddi a fydd yn deillio o weithredu’r ddeddfwriaeth hon. Dyna paham mae’r Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Bil yn cyfeirio at Grant Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol (SCDWP) lle mae 70% o gyfanswm y gost yn cynnwys grant a ddefnyddir gan gyflogwyr i atodi eu hadnoddau hyfforddiant eu hunain. Yn 2013/14 daw hyn i £8.1m. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn egluro fy mwriad i’r arian grant hwn gael ei ailgyfeirio i sicrhau bod y staff perthnasol yn cael yr hyfforddiant y mae ei angen drwy gydol y broses o baratoi am y Ddeddf a gweithredu’r Ddeddf. Mae hyn yn gydnaws â dibenion gwreiddiol y grant a grëwyd yn wreiddiol i gefnogi deddfwriaeth o bwys megis Deddf Plant 1989 a Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990.
Wrth gyflawni hyn ni allwn fforddio colli’r cynlluniau hyfforddiant neu’r cymwysterau hynny sydd â gwerth parhaus wrth i ni symud at y system newydd. Dyna paham mae swyddogion wedi mynd ati i ymgynghori ag ymarferwyr i ddatblygu Cynllun Hyfforddiant Cenedlaethol a fydd yn rhoi ystyriaeth benodol i sut y gellir cefnogi neu addasu anghenion hyfforddiant a datblygu presennol.
Serch hynny rhaid i ni gydnabod y bydd angen i’r arian sylweddol a ddarperir trwy SCDWP fod yn un o brif ffynonellau arian er mwyn sicrhau bod y gweithlu Gofal Cymdeithasol yn cael ei gefnogi gyda’r hyfforddiant y mae arnynt ei angen a’u bod wedi’u cyfarparu i gyflawni eu swyddogaethau o dan y ffyrdd newydd o weithio a gyflwynir gan y Bil.