Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Heddiw, mae Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol yn cael eu gosod gerbron y Senedd.
Mae bysiau'n wasanaeth cyhoeddus hanfodol sy'n galluogi pobl i gyrraedd eu gweithleoedd, i ymweld â theulu a ffrindiau ac i ddefnyddio gwasanaethau. Maent yn achubiaeth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed ac ynysig yn ein cymdeithas a'r bron 20 y cant o aelwydydd yng Nghymru nad oes ganddynt gar.
Fodd bynnag, mae'r system bresennol ar gyfer darparu gwasanaethau bysiau lleol yn aneffeithiol ac aneffeithlon ac, o'r herwydd, nid yw bob amser yn darparu'r cyfleoedd trafnidiaeth gyhoeddus y mae eu hangen ar gymunedau. Mae'r rhwydwaith bysiau wedi bod yn crebachu ers degawdau, ac mae'r dirywiad hwnnw'n llawer gwaeth ers y pandemig. Mae nifer y teithwyr mewn rhai ardaloedd trefol wedi gwella i ryw raddau, ond maent, i raddau helaeth, yn parhau'n is na'r lefelau cyn y pandemig.
Yn rhan o'n rhaglen ehangach i ddiwygio gwasanaethau bysiau ac er mwyn adeiladu ar ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i greu sail ddeddfwriaethol fodern ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru, bydd y Bil yn arwain at newid sylweddol o ran sut y bydd gwasanaethau bysiau lleol Cymru yn cael eu darparu. Bydd Trafnidiaeth Cymru, gan ymgynghori â'r awdurdodau lleol a'r cyd-bwyllgorau corfforaethol, yn sefydlu rhwydwaith bysiau a fydd yn rhoi blaenoriaeth i anghenion pobl Cymru ac yn cefnogi'n targedau uchelgeisiol ar gyfer newid dulliau teithio a'n targedau ar allyriadau carbon.
I grynhoi, mae'r Bil yn:
- Sicrhau bod y gwasanaethau bysiau lleol hynny sydd eu hangen er mwyn darparu trafnidiaeth ddiogel, integredig, gynaliadwy, effeithlon ac economaidd yng Nghymru, yn cael eu cynllunio a'u cydgysylltu ar lefel genedlaethol drwy ymgynghori â phartneriaid allweddol, gan gynnwys llywodraeth leol a diwydiant.
- Ei gwneud yn ofynnol i'r gwasanaethau hynny gael eu sicrhau, cyn belled ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol, trwy gontractau gwasanaethau bysiau lleol (masnachfreinio), trwy ddarpariaeth uniongyrchol, trwyddedau gwasanaethau bysiau lleol, neu drwy eithriad arall a bennir yn y Bil.
- Galluogi'r awdurdodau lleol i greu cwmnïau bysiau trefol newydd ac yn galluogi cwmnïau bysiau sydd eisoes yn bod ac sy'n eiddo i'r awdurdod lleol i barhau i weithredu.
- Gosod cyfyngiad ar weithredwyr bysiau rhag rhedeg gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru ac eithrio pan fo'r gwasanaethau hynny'n cael eu darparu o dan gontract, trwydded, yn uniongyrchol trwy Trafnidiaeth Cymru neu drwy eithriad arall a bennir yn y Bil. Bydd y Bil hefyd yn golygu y bydd modd gosod sancsiynau pan fo gwasanaethau'n cael eu gweithredu yn groes i'r cyfyngiad hwnnw.
- Ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr bysiau a'r awdurdodau lleol rannu gwybodaeth benodol â Llywodraeth Cymru, er mwyn iddi fedru fynd ati mewn ffordd effeithiol i gynllunio a rheoli'r gwaith o ddarparu rhwydwaith bysiau integredig modern.
- Sicrhau bod gwybodaeth briodol ar gael i'r cyhoedd er mwyn rhoi mwy o hyder iddynt a denu rhagor o deithwyr.
- Galluogi rheoliadau u i gael eu gwneud a fydd yn cymhwyso Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (“TUPE”) i amgylchiadau penodol sy'n codi o'r Bil.
Rwy'n edrych ymlaen at weld gwaith yr Aelodau wrth iddynt graffu ar y Bil, ac at glywed barn rhanddeiliaid, partneriaid cyflawni, a'r cyhoedd yn ystod y broses ddeddfwriaethol.